Wyddech chi fod ein llyfrgelloedd hefyd yn cynnwys llyfrau ffeithiol a ffuglen, ynghyd â llyfrau i gynorthwyo eich astudiaethau?
Siaradodd Chimamanda Ngozi Adichie yn huawdl am Berygl Stori Sengl yn 2009. Rhannodd bwysigrwydd gweld pobl fel chi eich hun mewn ffuglen a rhybuddiodd os ydym ond yn clywed un stori am grŵp o bobl, ni allwn fynd ati i’w deall yn iawn. Gall ein heriau darllen fod yn ffordd wych o ymestyn ac amrywio eich darllen. Efallai y byddwch yn darganfod ffefryn newydd!
Bydd y ddolen isod yn eich tywys i ymchwil a darllen am les sy’n gysylltiedig â darllen er pleser.
Nod Reading Well gan The Reading Agency yw cefnogi iechyd a lles drwy ddarllen. Bydd y dolenni isod yn eich cyfeirio at restrau llyfrau’r cynllun.
A ydych chi’n aelod o’ch llyfrgell gyhoeddus leol eto? Rydym yn argymell eich bod yn ymuno i gael mynediad am ddim at amrywiaeth fawr o lyfrau a chylchgronau wedi’u hargraffu ac ar fformat digidol a sain!