Hydref yw Mis Hanes Pobl Dduon, sef amser i gydnabod a dathlu'r cyfraniad a wneir gan bobl dduon yn ein cymunedau a'r tu hwnt. Wedi’i hysbrydoli gan thema eleni sef Anrhydeddu ein Chwiorydd, mae gan Lyfrgell Parc Singleton arddangosfa o lyfrau gan fenywod duon o fri o'n casgliad yn ogystal â llyfrau amdanynt.  Gallwch chi hefyd bori'r rhestr ddarllen Hanes Pobl Dduon ar ein tudalennau Amrywio casgliadau'r llyfrgell.

Os ydych chi'n chwilio am rywbeth da i'w ddarllen, cadwch lygad am yr arddangosfeydd ffuglen yn llyfrgelloedd y Bae a Singleton. Mae gennym ni ddetholiad o nofelau gan awduron duon i chi bori drwyddynt a'u benthyg y mis hwn.

A pile of books on the subject of race