Ydych chi wedi cymryd rhan yn ein heriau Darllen yn Well? Maent yn ffordd wych o amrywio eich darllen a dod o hyd i awduron a genres newydd. Rydym yn lansio un newydd yr wythnos hon wedi’i hysbrydoli gan Fis Hanes Pobl Dduon!
Darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob category isod.
- Bod yn Ddu ym Mhrydain
- Ffuglen genre gan awdur Du
- Hanes Pobl Dduon ym Mhrydain
- Dêt Dall gyda Llyfr
Cadwch lygad am ein harddangosfeydd Dêt Dall gyda Llyfr yn Llyfrgelloedd y Bae a Singleton y mis Hydref hwn. Rydym ni wedi dewis llyfrau gan rai o’n hoff awduron du a’u lapio fel nad oes modd i chi weld beth ydyn nhw. Dewiswch un i gael syrpreis darllen! Rydym ni wedi rhoi crynodeb byr o’r plot ar ddechrau pob un i’ch helpu i benderfynu. Gallwch fenthyg y llyfr drwy ddefnyddio ein peiriannau hunan-fenthyg.
Rydym wedi casglu rhai awgrymiadau ynghyd ar gyfer pob awgrym. Mae awgrymiadau'n cynnwys e-lyfrau a llyfrau clyweled y gallwch gael mynediad atynt am ddim.
Neu awgrymwch eich llyfrau chi eich hun a rhannu eich syniadau drwy ddefnyddio #paDarllenYnWell.
Rhowch wybod i ni sut mae’n mynd ar @SwanseaUniLib ar Twitter a Instagram.
Cynhelir yr her tan 9 Ionawr 2023.