Skip to Main Content

Cyhoeddi Ymchwil Effeithiol: Ymchwil Agored a Mynediad Agored: Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil

This page is also available in English

Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil

Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil 

Diben 

Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ledaenu ei hymchwil a'i hysgolheictod mor eang â phosib. Mae'n cefnogi'r egwyddor y dylai canlyniadau ymchwil a ariennir gan gyllid cyhoeddus fod ar gael am ddim i'r cyhoedd. Mae academyddion ym Mhrifysgol Abertawe wedi neilltuo neu wedi rhoi eu gwaith ysgolheigaidd (yn ogystal â hawliau'r Brifysgol) i gyhoeddwyr drwy drosglwyddo hawlfraint ar adeg cyhoeddi. Mae hyn yn golygu bod llawer o erthyglau cyfnodolion a gwaith ysgolheigaidd yn cael eu rheoli'n llwyr neu'n rhannol gan gyhoeddwyr academaidd.  

Mae'r polisi cyhoeddiadau ymchwil hwn yn galluogi ymchwilwyr i gadw eu hawliau i ailddefnyddio eu gwaith eu hunain ac yn mynnu bod pawb yn cael mynediad agored llawn ac ar unwaith at yr holl:  

  • Erthyglau ymchwil a ariennir a rhai nas ariennir a adolygwyd gan gymheiriaid, wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolyn, cynhadledd neu ar blatfform cyhoeddi.    

  • Penodau llyfrau.  

Rhaid i awduron nad ydynt yn dyfynnu cyllid grant penodol gadw eu hawliau fel awdur.  

Mae Prifysgol Abertawe'n mabwysiadu'r polisi cyhoeddiadau ymchwil canlynol:  

1. Mae pob aelod staff yn rhoi trwydded anghyfyngedig, ddiwrthdro, fyd-eang y gellir ei his-drwyddedu i sicrhau bod llawysgrifau sydd wedi'u derbyn o'i erthyglau ysgolheigaidd a phenodau ei lyfrau ar gael i'r cyhoedd. Rhoddir y drwydded hon ar yr amod, os bydd Prifysgol Abertawe'n sicrhau bod y cyfryw erthygl ymchwil neu bennod llyfr ar gael yn ei chronfa ymchwil sefydliadol, y bydd fel arfer yn gwneud hynny dan delerau trwydded Priodoli 4.0 Creative Commons (CC-BY) (diofyn) (trwydded Mynediad Agored Prifysgol Abertawe).  

2. Mae'r drwydded yn berthnasol i allbynnau ysgolheigaidd sydd wedi’u hysgrifennu, neu sydd wedi’u hysgrifennu ar y cyd, pan fydd unigolyn yn aelod staff neu'n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig a ariennir gan UKRI (Ymchwil ac Arloesi yn y DU) ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys deunydd trydydd parti lle mae hawliau i'r deunydd hwnnw wedi’u sicrhau. Nid yw'r drwydded yn berthnasol i unrhyw erthyglau a gyflwynwyd cyn i'r polisi hwn gael ei fabwysiadu (01/07/2023), neu unrhyw erthyglau y daeth yr aelod staff neu'r myfyriwr ôl-raddedig a ariennir gan UKRI i gytundeb trwyddedu neu drosglwyddo anghydnaws arnynt cyn i'r polisi hwn gael ei fabwysiadu.  

Nid yw'r polisi'n berthnasol i'r canlynol:  

  • Monograffau* 

  • Argraffiadau ysgolheigaidd 

  • Gwerslyfrau 

  • Casgliadau o draethodau 

  • Setiau data 

  • Allbynnau eraill nad ydynt yn erthyglau ysgolheigaidd.  

* Ac eithrio penodau monograffau a llyfrau a ariennir gan UKRI a gyhoeddir o 1 Ionawr 2024. Mae gofynion mynediad agored newydd ar gyfer allbynnau hir yn ofynnol ar gyfer y cyllidwr hwn. Caiff y polisi hwn ei ddiweddaru pan fydd newidiadau i bolisïau pob cyllidwr perthnasol.  

Er nad yw'r polisi'n berthnasol i'r mathau o allbynnau uchod, mae'r Brifysgol yn annog yn gryf y dylid cyhoeddi allbynnau o'r fath â thrwydded Creative Commons addas lle y bo'n bosib. Ein bwriad yw sicrhau bod monograffau a ariennir gan UKRI yn gyson â'r polisi hwn o 01/01/2024. Cysylltwch â Thîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell (libraryresearchsupport@abertawe.ac.uk) am ragor o gymorth.  

3. Pan fydd y polisi hwn yn berthnasol i erthygl sydd wedi'i hysgrifennu ar y cyd, bydd yr aelod staff yn defnyddio pob ymdrech resymol i sicrhau trwydded i Brifysgol Abertawe gan yr holl gyd-awduron ar yr un telerau â'r drwydded a roddir dan y polisi hwn gan yr aelod staff. Mae Prifysgol Abertawe'n is-drwyddedu'n awtomatig yr hawliau a roddir iddi dan y polisi hwn i'r holl gyd-awduron a'u sefydliadau cynnal, ar yr amod, os bydd y cyd-awduron a/neu'r sefydliadau cynnal hynny yn sicrhau bod erthygl a ysgrifennwyd ar y cyd ar gael i'r cyhoedd, byddant yn gwneud hynny yn ôl telerau trwydded CC-BY. Felly, ni fydd angen i'r aelod staff geisio caniatâd gan gyd-awduron a gyflogir gan sefydliadau sydd wedi mabwysiadu'r polisi hwn neu bolisïau eraill sy'n rhoi'r un hawliau i sefydliadau a/neu awduron.   

Dylai awduron sy'n ymgymryd ag ymchwil gydweithredol a ariennir gan UKRI neu nas ariennir ar y cyd â phartneriaid y tu allan i'r Brifysgol roi gwybod i'r cyfryw bartneriaid y caiff unrhyw fathau o allbwn â pherthnasedd uniongyrchol eu cyhoeddi dan delerau trwydded Priodoli 4.0 Creative Commons (CC-BY) oni bai y rhoddwyd caniatâd i optio allan (gweler isod). 
 
4. Optio allan o'r Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil 

Mae polisi Prifysgol Abertawe'n berthnasol o 01/07/2023. Fodd bynnag, dan amgylchiadau eithriadol, caniateir i staff ymchwil optio allan o'r gofyniad am fynediad agored ar unwaith ar ôl cyhoeddi gwaith, neu neilltuo trwydded CC-BY.  

Drwy wneud hyn, efallai na fydd yr allbwn ymchwil yn cydymffurfio â pholisïau cyllidwyr.  

Gall optio allan fod yn briodol dan yr amgylchiadau canlynol:  

a. Ni fydd cyfnodolyn yn cyhoeddi'r allbwn os oes datganiad cadw hawliau. Nid oes gan yr awdur ganiatâd i rannu'r llawysgrif sydd wedi'i derbyn â thrwydded CC-BY ar unwaith ar ôl ei chyhoeddi a bydd cyhoeddwr yn gosod embargo.  

b. Nid oes gan awdur ganiatâd i rannu'r llawysgrif sydd wedi'i derbyn â thrwydded CC-BY ar unwaith ar ôl ei chyhoeddi am un o'r rhesymau canlynol:  

i. Nid yw'r cyd-awduron yn ymateb neu nid ydynt yn cytuno i CC-BY.  

ii. Mae'r erthygl yn cynnwys swm sylweddol o ddeunyddiau trydydd parti (megis lluniau, ffotograffau, diagramau neu fapiau) na ellir eu trwyddedu â CC-BY. Nid yw'n briodol golygu'r cynnwys trydydd parti.  

iii. Mae'r awdur cyfatebol wedi cyflwyno cais i'r cyllidwr am ganiatâd i ddewis eithriad trwyddedu amgen CC-BY-ND (Dim Deilliadau).  

iv. Mae'r awdur cyfatebol wedi dewis trwydded CC-BY-ND (Dim Deilliadau) amgen.  

v. Defnyddiodd y cyd-awduron drwydded wahanol, er enghraifft, CC-BY-NC-ND (Anfasnachol, Dim Deilliadau) neu Drwydded Llywodraeth Agored (OGL) Hawlfraint y Goron am wybodaeth y sector cyhoeddus. 

vi. Mae'r allbwn yn cynnwys gwybodaeth sensitif y cyfyngir ar fynediad y cyhoedd ati. Mae'r cyfyngiad yn barhaol.  

c. Mae modd optio allan o'r polisi pan gaiff yr erthygl ei derbyn i'w chyhoeddi drwy lenwi'r ffurflen ar-lein sydd ar gael drwy https://forms.office.com/r/rvbwPzF4LY  

Drwy lenwi'r ffurflen optio allan, mae'r awdur yn deall y caniateir ildio hawl ac y caniateir oedi am gyfnod o hyd at 12 mis o'r dyddiad cyhoeddi cyntaf (embargo) cyn sicrhau bod y llawysgrif ar gael i'r cyhoedd.   

E-bostiwch dîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell os hoffech gael rhagor o arweiniad: LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk  

5. Bydd y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol yn gyfrifol am ddehongli'r polisi hwn, gan ddatrys anghydfodau ynghylch ei roi ar waith, ac argymell newidiadau. Bydd y Brifysgol yn defnyddio pob ymdrech resymol i roi gwybod i gyhoeddwyr am fodolaeth a chynnwys y polisi hwn. Caiff y polisi ei adolygu o bryd i'w gilydd.  

1. Beth mae Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil Prifysgol Abertawe yn ei wneud?

Mae’r polisi cyhoeddiadau ymchwil yn rhoi hawl awtomatig i fyfyrwyr a staff sy’n ymgymryd ag ymchwil i gadw hawliau i ailddefnyddio eu gwaith eu hunain. Mae hefyd yn caniatáu mynediad agored llawn ac ar unwaith at yr holl erthyglau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid – rhai sydd wedi’u hariannu a heb eu hariannu – a gyhoeddwyd mewn cyfnodolyn, trafodion cynhadledd neu ar blatfform cyhoeddi. Mae’r polisi hefyd yn cynnwys penodau llyfrau.

  • Mae defnyddio’r datganiad cadw hawliau’n galluogi’r Brifysgol yn awtomatig i ledaenu llawysgrifau ysgolheigaidd a dderbynnir gan yr awdur â thrwydded CC BY Creative Commons yn y storfa, drwy’r Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil. Mae hyn mewn grym o’r dyddiad cyhoeddi cyntaf ar-lein.

  • Mae Prifysgol Abertawe wedi hysbysu’r cyhoeddwyr poblogaidd bod polisi cadw hawliau mewn grym o 1 Gorffennaf 2023. Fe’ch anogir i gynnwys datganiad cadw hawliau yn eich holl gyflwyniadau.

  • Os bydd cyhoeddwr yn derbyn eich papur, mae’n gwneud hynny gan wybod yn iawn bod trwydded flaenorol i’ch Llawysgrif a Dderbynnir gan Awdur yn bodoli.

2. Pam mae angen i ni weithredu?

Mae cyllidwyr ac ymchwilwyr yn ymdrechu i roi mynediad agored at ymchwil cyn gynted ag y caiff ei chyhoeddi, ac mae cyllidwyr yn ymgorffori’r gofynion hyn mewn contractau sy’n berthnasol i ddyfarniadau.

Mae’r polisi hwn yn eich helpu i fynnu eich hawlfraint ac mae’n cyd-fynd â’n huchelgais ar gyfer Ymchwil Agored. Mae mynediad agored di-oed yn cynyddu cyrhaeddiad ac effaith ein hymchwil.

Manteision cadw hawliau i awduron:

  • Mae awduron yn cadw hawliau i’w gwaith a gallant rannu allbynnau eu hymchwil yn ehangach, yn y cyfryngau cymdeithasol er enghraifft.
  • Gall awduron greu ymchwil newydd drwy atgynhyrchu rhannau o’u hymchwil bresennol ac adeiladu ar hynny.
  • Gall awduron ddefnyddio eu gwaith a gyhoeddwyd mewn gweithgareddau addysgu.

3. Sut mae cadw hawliau’n gweithio?

  • Anogir awduron i gynnwys datganiad cadw hawliau wrth gyflwyno ond nid yw hyn yn hollol angenrheidiol. Bydd cynnwys datganiad yn helpu’r cyhoeddwr i nodi bod gennych drwydded flaenorol sy’n gyfreithiol rwymol, ac na ddylai gyflwyno llif gwaith trwyddedu sy’n gwrthdaro â hynny.

  • Dylai awduron gynnwys datganiad cadw hawliau yn yr adran ‘cydnabyddiaeth’ yn eu herthygl ysgolheigaidd i gyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid neu eu pennod llyfr.

  • Mae’n bwysig cydnabod Prifysgol Abertawe fel ffynhonnell cyllid lle nad oes cyllid ymchwil allanol.

  • Mae awduron yn cadw rhyddid i gyhoeddi lle bynnag maent yn dymuno.

Enghraifft o Ddatganiad Cadw Hawliau

At ddiben Mynediad Agored, mae’r awdur wedi cymhwyso trwydded Creative Commons Attribution (CC BY) i unrhyw fersiwn Llawysgrif a Dderbynnir gan yr Awdur sy’n deillio o’r cyflwyniad hwn.

4. Beth am weithio gydag awduron ar y cyd nad ydynt yn defnyddio'r hawl i gadw hawliau?
Cyfrifoldeb awduron Prifysgol Abertawe sy'n cydweithio ag awduron eraill yw trafod gofynion cadw hawliau ymhell cyn i unrhyw allbynnau ymchwil gael eu creu ac, yn ddelfrydol, ar ddechrau unrhyw gydweithio arfaethedig. Rydym yn annog ymchwilwyr i beidio ag aros nes cyflwyno i drafod cadw hawliau.

  • Mae'r gofyniad hwn yn un o ofynion UKRI fel cyllidwr a bellach mae'n berthnasol i bob papur ymchwil a ariennir gan Brifysgol Abertawe.

5. Optio allan o'r Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil   

Mae polisi Prifysgol Abertawe'n berthnasol o fis Gorffennaf 2023. Fodd bynnag, dan amgylchiadau eithriadol, caniateir i staff ymchwil optio allan o'r gofyniad am fynediad agored ar unwaith ar ôl cyhoeddi gwaith, neu aseinio trwydded CC BY.    

Cewch optio allan o'r polisi pan gaiff yr erthygl ysgolheigaidd ei derbyn i'w chyhoeddi.  

Rhaid i chi gwblhau'r ffurflen ar-lein sydd ar gael yn https://forms.office.com/r/rvbwPzF4LY    

Drwy wneud hyn, efallai na fydd yr allbwn ymchwil yn cydymffurfio â pholisïau cyllidwyr.   

6. Llwybrau i Fynediad Agored 

  1. Gellir cydymffurfio â gofynion mynediad agored drwy ddefnyddio llwybr Mynediad Agored 'aur'. Dylid darparu'r fersiwn gyhoeddedig derfynol o'r ddogfen (version of record) heb embargo a chyda thrwydded CC BY Creative Commons.  

  2. Caniateir darparu mynediad agored drwy hunanarchifo 'gwyrdd' mewn storfa. Gellir darparu'r llawysgrif a dderbynnir gan yr awdur heb embargo y tro cyntaf y caiff ei chyhoeddi ar-lein a chyda thrwydded CC BY Creative Commons 4.0

7. Trwyddedu Creative Commons  

8. Beth yw barn y cyllidwyr? 

  • Mae cyllidwyr yn disgwyl i academyddion fynnu eu hawliau yn yr AAM (llawysgrif a dderbynnir gan yr awdur) sy'n deillio o gyflwyno.  

  • Mae'r cyrff cyllido mwy wedi hysbysu cyhoeddwyr bod cadw hawliau bellach yn un o amodau grantiau cyllidwyr. Mae hyn yn dilyn y gwaith arloesol a wnaed gan cOAlition S sy'n dweud bod rhaid i ganfyddiadau ymchwil a ariannwyd gan grantiau cyhoeddus neu breifat a roddwyd gan gynghorau ymchwil a chyrff cyllido gael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion mynediad agored neu ar blatfformau mynediad agored, neu rhaid iddynt fod ar gael ar unwaith drwy storfeydd mynediad agored a heb embargo. 

  • Bydd y polisi hwn yn cynnwys allbynnau ffurf hir a gyhoeddir o 1 Ionawr 2024 ar gyfer yr holl ymchwilwyr a ariennir gan UKRI.  

9. Beth yw'r sefyllfa gyfreithiol? 

  • Rydym yn gwybod bod yr ymagwedd cadw hawliau'n cydymffurfio â chyfraith hawlfraint yn y DU drwy hysbysiad blaenorol, lle na ellir dirymu polisi cadw hawliau nad ydynt yn unigryw drwy aseinio hawlfraint yn ddiweddarach. Mae Prifysgol Abertawe wedi hysbysu cyhoeddwyr mawr yn ysgrifenedig ei bod yn gweithredu polisi cadw hawliau o 1 Gorffennaf 2023.  

  • O 1 Gorffennaf 2023, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi i'r Brifysgol drwydded y gellir ei his-drwyddedu, nad yw'n unigryw, sy'n ddilys ledled y byd ac sy'n ddi-alw'n ôl i wneud eu herthyglau a'u penodau llyfr ysgolheigaidd a adolygwyd gan gymheiriaid ar gael yn gyhoeddus o dan drwydded Creative Commons Attribution (CC BY), (Trwydded Mynediad Agored Abertawe). Rhoddir trwydded o'r fath gan berchennog yr hawlfraint, sef yr ymchwilydd dan sylw ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n rhwymo unrhyw olynwyr yn y teitl i'r ymchwilydd (i gyd o fewn ystyr adran 90(4) Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988). Felly, mae unrhyw hawl a’r holl hawliau a roddir i'r cyhoeddwr mewn perthynas â gwaith o'r fath a gyflwynir i'w gyhoeddi yn cael eu rhoi i'r cyhoeddwr bob amser yn ddarostyngedig i'r drwydded a grybwyllwyd uchod. Mae'r drwydded hon nad yw'n unigryw yn berthnasol i unrhyw ymchwil a chyhoeddiadau ysgolheigaidd a ysgrifennwyd neu a ysgrifennwyd ar y cyd gan ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe.  

  • Ni chaiff cyhoeddwyr osod cyfyngiadau cyhoeddi ar awdur yn unol â thelerau Trwydded Mynediad Agored Abertawe. Rydym yn argymell yn gryf nad yw ymchwilwyr yn trosglwyddo hawliau mewn eiddo deallusol i gyhoeddwyr a'u bod yn defnyddio datganiad cadw hawliau fel arfer safonol. 

10. Beth yw barn cyhoeddwyr? 

  • Ni ddylai cynnwys datganiad cadw hawliau wrth gyflwyno ddylanwadu ar benderfyniad cyhoeddwr i dderbyn y papur. Mae'n annhebygol y bydd cyhoeddwr yn gwrthod eich cyflwyniad oherwydd y polisi hwn. 

  • Os yw'n derbyn llawysgrif i'w chyhoeddi lle mae'r awdur wedi rhoi trwydded flaenorol i'r brifysgol dylai hyn gael blaenoriaeth dros unrhyw aseinio hawlfraint yn y gyfraith wedi hynny. Gallwch wneud eich llawysgrif a dderbyniwyd gan yr awdur ar gael yn y storfa yn union ar ôl iddi gael ei chyhoeddi ar-lein drwy drwydded Creative Commons Attribution CC BY. 

  • Mae'r drafodaeth â chyhoeddwyr masnachol ynghylch tegwch yn parhau. Mae prifysgolion eisoes yn talu symiau aruthrol i gyhoeddwyr drwy gytundebau llyfrgell a byddant yn parhau i brynu cytundebau 'darllen a chyhoeddi' i hwyluso mynediad darllen a mynediad agored 'aur'. Ni fydd o fantais i gyhoeddwr wrthod cyhoeddi oherwydd y polisi hwn. 

  • Rhaid i'r ecosystem gydnabod mynediad teg a chynhwysol at ymchwil. 

11. Oes cymorth ar gael ar gyfer ymholiadau ynghylch cadw hawliau? 

Cysylltwch â LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk  

 

Cwestiynau Cyffredin, Fersiwn 1 Mehefin 2023 CR/RRS Project  

Lif gwaith

Ein Noddwr

 

Prif ddiben gwaith ymchwil yw gwasanaethu lles y gymdeithas, rwy'n ardystio'n llawn egwyddorion hawliau cadw gan awduron y gweithiau ymchwil ac rwy'n ei gymhwyso i'm holl gyhoeddiadau. Mae cadw hawliau gyda thrwydded oddefol fel CC BY 4.0 yn hollbwysig wrth gyflawni cenhadaeth gwaith ymchwil.  

Mae'n galluogi awduron i gyfleu eu canfyddiadau'n effeithiol i gynulleidfa amrywiol gan ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau, o fannau arbenigol traddodiadol i'r cyfryngau cymdeithasol. Drwy ehangu'r gynulleidfa a'r gronfa o fuddiolwyr posib, mae'r ymagwedd hon yn sicrhau gwelededd gwell y gwaith ac mae'n grymuso darllenwyr i ymgysylltu'n llawn ag ef, heb orfod gofidio am dorri hawlfraint. Ar yr yn pryd, mae awduron yn cadw rheolaeth lwyr o'u cyhoeddiadau ac yn derbyn cydnabyddiaeth gywir am eu cyfraniadau. 

Biagio Lucini, 2023

Cysylltu

Am help neu gyngor gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud ag Ymchwil Agored, Mynediad Agored, RIS neu Gronfa, cysylltwch â'r Tîm Cefnogi Ymchwil drwy e-bost. Dylid anfon ymholiadau am ddata ymchwil i'r Tîm Cefnogi Data Ymchwil.

 Ebost Library Research Support