Mae'r Llyfrgell wedi ymrwymo i nifer o gytundebau gyda chyhoeddwyr, i dalu am gost cyhoeddi Mynediad Agored. Mae'r Llyfrgell yn gwerthuso pob cytundeb "trawsnewidiol" (TA) neu "ddarllen a chyhoeddi" ond nid yw o reidrwydd yn tanysgrifio i bob cytundeb. Ni chodir ffioedd ar awduron sy'n cyflwyno erthyglau i'w cyhoeddi mewn cyfnodolion o dan y cytundebau hyn.
“Mae Cytundebau Trawsnewidiol (TA) yn gontractau sy'n symud sail taliadau’n raddol o’r sefydliad i’r cyhoeddwr, o ddarllen yn seiliedig ar danysgrifiad i wasanaethau cyhoeddi MA, mewn modd a reolir."
Caiff y dudalen hon ei diweddaru bob tro y llofnodir cytundeb 'darllen a chyhoeddi' / trawsnewidiol newydd. Gall ymchwilwyr hefyd ddefnyddio gwirydd cyfnodolion Cynllun S i benderfynu a yw cyfnodolyn yn cydymffurfio â Chynllun S.
Dylai awduron nodi bod rhai cymdeithasau dysgedig a chyhoeddwyr hefyd yn cynnig gostyngiadau i aelodau unigol. Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ostyngiad sefydliad sy’n tanysgrifio drwy ddewis 'Prifysgol Abertawe' os gofynnir i chi wneud, o restr o sefydliadau.
Cysylltwch â thîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell os oes gennych gwestiynau am gytundeb unigol.
Cysylltiad awduron
Caiff defnydd cytundebau cyhoeddi trawsnewidiol ei gyfyngu i awduron gohebol sydd â chontract cyflogaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cytundebau cyhoeddi pontio / trawsnewidiol wedi'u capio a dim ond arian cyfyngedig sydd ar gael i'w cynnal.
Rhaid i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe a nodi eich cysylltiad â’r Brifysgol yn system y cyhoeddwr.
Nid ydym yn cymeradwyo papurau ar gyfer awduron gohebol sy'n aelodau staff er anrhydedd neu sy'n ymweld oni bai bod cyllid UKRI perthnasol yn cael ei gydnabod ar y papur a bod cyfraniad sylweddol gan Brifysgol Abertawe, ar ffurf cyd-awduron ar y papur.
Nid ydym yn cymeradwyo papurau ar gyfer awduron gohebol sy'n aelodau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe nad oes ganddynt gontract cyflogaeth yn y sefydliad.
Byddwn yn ystyried cymeradwyaeth ar gyfer papurau lle mae myfyrwyr ôl-raddedig Prifysgol Abertawe / ymchwilwyr gyrfa gynnar wedi'u rhestru fel awduron gohebol, a chwblhawyd yr ymchwil tra'r oeddent yn gysylltiedig â Phrifysgol Abertawe (fel arfer hyd at 6 mis ar ôl derbyn eu dyfarniad).
Mae'r Brifysgol wedi llofnodi cytundeb 'darllen a chyhoeddi' gyda Gwasg Prifysgol Caergrawnt i alluogi awduron gohebol y Brifysgol i gyhoeddi erthyglau ymchwil ar ffurf mynediad agored diderfyn mewn cyfnodolion aur a hybrid (tanysgrifiad) sy'n rhan o’r cytundeb, o fis Mai 2021 ymlaen. Bydd y cytundeb hwn ar waith tan 31 Rhagfyr 2024.
Mae’r math o gyhoeddi Mynediad Agored a gwmpesir o dan y cytundeb darllen a chyhoeddi hwn yn cynnwys: Ymchwil Wreiddiol, Erthyglau Adolygu ac erthyglau ar ffurf Cyfathrebu Cyflym (RRR), Adroddiad Byr ac Adroddiadau Achos.
I fod yn gymwys:
Dylai'r awdur gohebol ddewis enw’r sefydliad cymwys (Prifysgol Abertawe).
Rhaid derbyn erthyglau i'w cyhoeddi yn un o gyfnodolion Gwasg Prifysgol Caergrawnt (ewch i'r rhestr o gyfnodolion a gynhwysir yn y cytundeb. Mae'n agor ar ffurf taenlen Excel wedi ei lawrlwytho).
Rhaid i'r awdur gohebol ddefnyddio ei gyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe i helpu i ddilysu'r cais.
Cysylltiadau Cyflym
Darllen a Chyhoeddi Elsevier 2022-2024
Mae Llyfrgell Prifysgol Abertawe'n falch o gyhoeddi ei bod newydd lofnodi Cytundeb Darllen a Chyhoeddi Elsevier 2022-2024.
Dyma gytundeb trawsnewidiol sy'n hwyluso cyhoeddi ar sail mynediad agored yng nghyfnodolion hybrid craidd a hybrid Elsevier, a chasgliadau Cell Press a The Lancet.
Mae IOP Publishing (IOP), Jisc Collections a Gwasanaethau Llyfrgell Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i gytundeb sy'n galluogi ymchwilwyr i gyhoeddi eu gwaith ar sail mynediad agored heb gost ychwanegol yn y rhan fwyaf o gyfnodolion hybrid IOP. Mae'r cytundeb cyhoeddi yn cydbwyso cost ffioedd cyhoeddi erthyglau (APCau) hybrid yn erbyn ffioedd trwydded cyfnodolyn ar gyfer 2020 ymlaen.
Gall pob awdur gohebol (cyflwyno) gyhoeddi ar sail mynediad agored mewn cyfnodolion cymwys heb rwystrau, heb gost ychwanegol, a gallant fod yn sicr eu bod yn cydymffurfio â phob gofyniad mynediad agored. Mae teitlau hybrid cymwys ar gael yn y rhestr hon.
Bydd erthyglau ac adolygiadau ymchwil (llythyrau, papurau, adolygiadau ac erthyglau materion arbennig) a dderbyniwyd i'w cyhoeddi ar ôl 1 Ionawr 2020 yn gymwys, bydd IOP yn nodi erthyglau cymwys yn awtomatig ac yn hysbysu awduron eu bod wedi’u cynnwys.
Mae’r cytundeb yn cynnwys pob cyfnodolyn dan danysgrifiad, sy'n eiddo i IOP Publishing, sy'n cynnig opsiwn mynediad agored hybrid. Yn ogystal, mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys cyfnodolion dethol a gyhoeddir gan IOP Publishing ar ran ein cymdeithasau partner.
1. Nodwch bwy ydych chi’n glir yn y ffurflen cyflwyno erthygl ac yn yr erthygl ei hun.
2. Defnyddiwch gyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe.
3. Dilynwch gyfarwyddiadau cyflwyno'r IOP.
Cyhoeddir erthyglau gyda thrwydded CC-BY Creative Commons heb unrhyw gost i chi.
Canllaw Awduron IOP
Gostyngiadau i APCau
Gall awduron gohebol (cyflwyno) mewn sefydliadau sy’n tanysgrifio hefyd elwa ar ostyngiad o 70% ar y Ffi Prosesu Erthygl (APC) safonol mewn cyfnodolion hybrid nad ydynt wedi'u cynnwys yn y rhestr uchod, a gyhoeddir gyda rhai o'n cymdeithasau partner. Ewch i’r IOP i gael rhagor o fanylion. Nid yw'r gostyngiad hwn ar gael ar gyfer unrhyw gyfnodolyn sy'n cael ei ariannu gan daliadau fesul tudalen neu ffioedd cyflwyno
Mae OUP a nifer o sefydliadau'r DU wedi ymrwymo i gytundeb 'Darllen a Chyhoeddi' ar gyfer 2021-2023 (Cyswllt JISC). Gall awduron cymwys o Brifysgol Abertawe ofyn am ddefnyddio'r cyfrif hwn i dalu'r ffi Mynediad Agored wrth drefnu taliad yn system trwyddedu a thalu ar-lein OUP.
Dilynwch y llif gwaith yn ein PDF Canllaw Defnyddwyr Cam-wrth-Gam i Gyfrif Darllen a Chyhoeddi OUP ar gyfer Awduron neu gymryd y camau isod:
Adnoddau awduron.
PDF Canllaw Defnyddwyr Cam-wrth-Gam i Ddarllen a Chyhoeddi ar gyfer Awduron
Defnyddiwch gytundeb Darllen a Chyhoeddi Prifysgol Abertawe i dalu costau mynediad agored wrth gyhoeddi mewn 400+ o gyfnodolion OUP.
Rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Rhagfyr 2023 bydd ffioedd cyhoeddi mynediad agored yn cael eu cwmpasu'n awtomatig gan gytundeb cyhoeddwr ffi safonol gyda Llyfrgell Prifysgol Abertawe ar gyfer y teitlau canlynol:
Ym mis Mai 2021 cyhoeddodd PLOS ei fwriad i lansio pum teitl newydd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn eu blog diweddar. Mae'r teitlau newydd wedi'u cynnwys yng nghytundeb ffi safonol Prifysgol Abertawe.
Er mwyn bod yn gymwys am daliad llawn ar gyfer ffioedd cyhoeddi, rhaid i'r awdur gohebol fod yn gysylltiedig â Phrifysgol Abertawe. Sicrhewch eich bod yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe ac yn nodi eich cysylltiad yn system cyflwyno’r cyhoeddwr, Editorial Manager. Os caiff eich gwaith ei dderbyn i'w gyhoeddi, mae PLOS yn gwirio'r maes hwn ac yn sicrhau bod gostyngiad i hepgor ffioedd cyhoeddi yn cael ei ddefnyddio.
Mae pob sefydliad yn cadw'r hawl i dderbyn neu wrthod ceisiadau am gymorth ariannol. Os bydd sefydliad yn dewis gwrthod talu Ffioedd Prosesu Erthyglau (APCau), bydd PLOS yn anfonebu'r awduron yn unigol, a fydd yn gyfrifol am dalu’n llawn.
Mae'r holl fathau o erthyglau yn y cyfnodolion cymwys wedi'u cynnwys o dan y cytundeb ffi safonol.
Bydd erthyglau'n cael eu cyhoeddi'n awtomatig gyda thrwydded CC-BY Attribution Creative Commons. Caiff erthyglau PLOS eu harchifo yn LOCKSS a'u syndicetio i PubMed Central/EuropePMC. Mae PLOS yn mynnu bod data ar gael i’w rannu lle nad yw'n ddarostyngedig i gyfyngiadau cyfreithiol na moesegol ac mae wedi mabwysiadu tacsonomeg CRediT.
PLOS Author Instructions - Flat Fee (How to...)
Mae Prifysgol Abertawe fel sefydliad yn rhan o gytundeb Darllen a Chyhoeddi'r DU, sy’n golygu y gallwch gyhoeddi eich erthygl ar ffurf mynediad agored - heb unrhyw gost i chi mewn mwy na 1,850 o gyfnodolion hybrid a gyhoeddir gan (tanysgrifiad) Springer. Edrychwch ar y rhestr o gyfnodolion hybrid ar dudalen we Springer Compact. Bydd yn agor ar ffurf taenlen Excel wedi’i lawrlwytho. Bydd y cytundeb hwn, a sefydlwyd gan Jisc ac y telir amdano gan Wasanaeth Llyfrgell Prifysgol Abertawe, ar waith tan 31 Rhagfyr 2022.
Rhestr Wirio Ceisiadau
Gall yr awdur gohebol wneud cais gan ddefnyddio porth Springer (My Publication) a fydd yn cychwyn proses gymeradwyo rhwng y brifysgol a'r cyhoeddwr. Mae hyn yn berthnasol i’r mathau canlynol o erthyglau: papur gwreiddiol, papur adolygu, cyfathrebu cryno neu addysg barhaus. Nid oes angen llenwi cais drwy ffurflen ar-lein APC UKRI Prifysgol Abertawe.
1. Dylai'r awdur gohebol ddewis enw’r sefydliad cymwys (Prifysgol Abertawe).
2. Rhaid i'r awdur gohebol ddefnyddio ei gyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe i helpu i ddilysu'r cais.
Cyswllt Cyflym
Canllaw i awduron gohebol
Nid yw cyfnodolion mynediad agored llawn SpringerNature wedi'u cynnwys yn y pecyn hwn a gallai ffi APC unigol fod yn berthnasol. Ar gyfer APCau cyfnodolyn unigol, ewch i dudalen we'r cyfnodolyn neu edrychwch ar restr APC Springer Nature.
Mynediad Agored Wiley
Gall awduron gyhoeddi erthyglau yn unrhyw un o gyfnodolion Mynediad Agored Aur llawn Wiley, neu gyfnodolion hybrid OnlineOpen (tanysgrifiad) heb gostau mynediad agored i'r awdur*. Mae'r cytundeb cyhoeddi mynediad agored hwn wedi'i gyfyngu i erthyglau ymchwil wreiddiol ac adolygu.
Mae rhestr o gyfnodolion mynediad agored a thanysgrifiad hybrid Wiley ar gael o’r Dangosfwrdd Awduron Mynediad Agored. Ceir hefyd fynediad at Offeryn Cydymffurfio Awduron fel y gallwch gadarnhau a ydych yn bodloni rhwymedigaethau eich cyllidwr.
I gyhoeddi heb orfod talu Ffioedd Cyhoeddi Erthygl (APC) ychwanegol, rhaid i'r awdur cysylltiedig fod o sefydliad yn y DU sy’n cymryd rhan ar gyfer erthyglau a dderbynnir ar ôl 2 Mawrth 2020.
I fod yn gymwys:
Rhaid i chi fod yn awdur sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Abertawe pan gaiff eich erthygl ei derbyn.
Rhaid i chi gyhoeddi ar ffurf mynediad agored mewn cyfnodolyn MA aur llawn neu gyfnodolyn hybrid (tanysgrifiad) sy'n cynnig OnlineOpen.
Os ydych yn cyhoeddi mewn cyfnodolyn hybrid (tanysgrifiad), rhaid i chi archebu OnlineOpen pan gaiff eich erthygl ei derbyn, a defnyddio llif gwaith Gwasanaethau Awduron Wiley.
Rhaid i chi ddefnyddio cyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe i ddilysu eich cais. Byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnom cyn cymeradwyo eich cais. Ni ellir defnyddio'r cytundeb hwn i dalu ffioedd ychwanegol (e.e. clawr, lliw a ffioedd tudalennau), y mae cyfnodolion unigol yn eu gweinyddu ar wahân.
Sicrhewch eich bod yn cydnabod eich cyllidwr a'ch data ategol yn yr erthygl gyhoeddedig. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer erthyglau ymchwil a gefnogir gan lawer o gyllidwyr, gan gynnwys UKRI.
*yn amodol ar argaeledd digon o arian a chymeradwyaeth gan ddeiliaid Cyfrif Mynediad Agored Wiley sefydliadau cymwys.
Sut i Archebu Mynediad Agored Hybrid (OnlineOpen ar gyfer cyfnodolion sy'n seiliedig ar danysgrifiad hybrid)
Cyhoeddi Eich Erthygl mewn Cyfnodolyn Mynediad Agored Llawn
Mae Cronfeydd Mynediad Agored - Symleiddio Taliadau yn cynnwys cyfarwyddiadau cam-wrth-gam ar gyfer cyhoeddi eich erthygl mewn cyfnodolyn mynediad agored llawn neu ddefnyddio llwybrau OnlineOpen.
Offeryn Cydymffurfio Awduron
Cyhoeddwr Mynediad Agored ar draws pob disgyblaeth.
APC Safonol: cost amrywiol
Aelodaeth Sefydliadol: Gostyngiad o 10% i holl awduron gohebol Prifysgol Abertawe.
O fewn system gyflwyno MDPI, rhaid i awduron ddewis Prifysgol Abertawe i gael gostyngiad o 10%. Gofynnir i chi gadarnhau eich bod chi’n gymwys i gael cyllid Cynghorau Ymchwil UKRI . Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys, byddwch yn derbyn y gostyngiad ond bydd angen i chi dalu'r APC o'ch cyllideb neu’ch grant eich hun.
Ffurflen gais am gymorth ariannol ar gyfer awduron a ariennir gan UKRI
Mae gan SAGE gytundeb gyda WHEEL (Llyfrgell Electronig Addysg Uwch Cymru) rhwng mis Mehefin 2020 a mis Rhagfyr 2022. Mae manylion y cytundeb â gostyngiad fel a ganlyn:
Cyfnodolion ar danysgrifiad
Mae’r pecyn SAGE Premier presennol, sy'n cynnig cyhoeddi mynediad agored hybrid (SAGE Choice), yn caniatáu i awduron gohebol gyhoeddi erthygl mewn 900+ o gyfnodolion ar danysgrifiad am bris gostyngol iawn, sef £200.
Cyfnodolion mynediad agored aur
Mae gan awduron gohebol sy'n cyhoeddi erthygl mewn cyfnodolyn mynediad agored aur hawl hefyd i ostyngiad o 20% ar y ffi prosesu erthyglau (APC) a godir ar y pryd ar gyfer y cyfnodolyn hwnnw. Bydd y gostyngiad hwn yn cael ei gymhwyso'n awtomatig ym Mhorth Mynediad Agored SAGE. Os bydd awdur yn gymwys i elwa ar fwy nag un gostyngiad, ni ellir cyfuno’r rhain ond bydd y gostyngiad mwyaf sydd ar gael i'r awdur yn cael ei gymhwyso i'r APC sy'n ddyledus. Cliciwch fan hyn i weld rhestr o deitlau'r cyfnodolion Aur sy'n gymwys.
Er mwyn manteisio:
Yna gall yr Awdur(on) dderbyn neu wrthod Cyhoeddi Mynediad Agored ac, os byddant yn dewis Mynediad Agored, gallant lofnodi'r cytundeb cyhoeddi’n ddigidol. Mae gan yr Awdur(on) 14 diwrnod i ddewis; fel arall, bydd yr erthygl yn parhau i gael ei chyhoeddi ar ffurf tanysgrifiad.
Bydd angen i awduron ariannu ffi(oedd) MA yn annibynnol.
Noder: ni ellir defnyddio'r gostyngiad hwn yn ôl-weithredol (ar ôl i'r 14 diwrnod ddod i ben). Mae rhai teitlau wedi'u heithrio o'r cytundeb hwn ac fe'u rhestrir fan hyn.