Mae Mynediad Agored (OA) yn darparu mynediad ar-lein, ar unwaith ac am ddim at ymchwil ysgolheigaidd wedi'i hariannu gan gyllid cyhoeddus. Caniateir i ddarllenwyr ddarllen, lawrlwytho, copïo ac ailddosbarthu allbynnau ymchwil.Mae Mynediad Agored yn sicrhau bod eich ymchwil yn cyrraedd cynulleidfa eang.
Rhestr Termau OA
Mae llawer o opsiynau o ran Mynediad Agored. Aur a Gwyrdd yw'r rhai mwyaf cyffredin, ond beth mae'r rhain yn ei olygu?
Aur - y model y mae cyhoeddwyr yn ei ddarparu'n gyfnewid am daliad APC gan yr awdur neu'r sefydliad.
Gwyrdd - Hunan-archifo, gosod fersiwn o'r llawysgrif mewn storfa sefydliadol - yn gyffredinol, 'Llawysgrif wedi'i Derbyn' ar ôl ei hadolygu gan gymheiriaid, NEU ddefnyddio gweinyddion cyn-argraffu. Mae'n well gan Brifysgol Abertawe ddefnyddio'r llwybr gwyrdd ac nid yw'n rhoi cyllid canolog er mwyn talu ffioedd mynediad agored aur.
Hybrid - Mae Cyfnodolion Hybrid yn cynnwys cymysgedd o erthyglau mynediad agored ac erthyglau mynediad cyfyngedig. Ariennir y model hwn yn rhannol gan danysgrifiadau, ac mae'n darparu mynediad agored dim ond ar gyfer erthyglau unigol y mae'r awduron yn talu ffi cyhoeddi amdanynt.
Efydd - mynediad agored wedi'i ohirio, mae cyfnodolion yn cyhoeddi erthyglau ar sail tanysgrifio'n unig i ddechrau, yna maent yn eu rhyddhau i'w darllen (ond nid i'w hail-ddefnyddio, eu rhannu nac eu haddasu) ar ôl cyfnod embargo.
Diemwnt/Platinwm - Cyhoeddi mewn cyfnodolion ar sail mynediad agored heb godi tâl ar yr awduron na'r darllenwyr. Yn gyffredinol, mae'r rhain yn gyfnodolion sydd wedi'u cefnogi gan sefydliadau academaidd, cymdeithasau dysgedig neu grantiau gan y llywodraeth.
Du - Copïau peirat digidol fyddai hyn. Nid yw'n fynediad agored mewn gwirionedd, ond mae llawer o bobl yn llwyddo i'w wneud naill ai drwy rannu erthyglau â chysylltiadau drwy e-bost neu yriannau a rennir, neu drwy eu gosod ar Research Gate a honni bod yn anwybodus os bydd hynny’n torri'r gyfraith ynghylch hawlfraint
Os ydych chi am bori drwy bapurau, penodau llyfrau, papurau cynadleddau, ac e-draethodau ymchwil gan gymuned ymchwil Abertawe, dyma'r lle i fynd!
Rhagor o wybodaeth am y System Gwybodaeth Ymchwil (RIS) a'r storfa (Cronfa).
Beth yw'r rhain?
Fersiynau Cyn-argraffu yw fersiynau o'ch papur cyn iddo gael ei gyflwyno i'w adolygu gan gymheiriaid. Mae defnyddio gweinyddion cyn-argraffu yn amrywio'n sylweddol rhwng disgyblaethau. Mae'n arfer adnabyddus mewn meysydd fel y Gwyddorau Ffisegol, ond nid yw meysydd eraill yn ei ddefnyddio o gwbl.
Pam dylwn i wneud hyn?
Mae gosod fersiwn cyn-argraffu mewn gweinydd neu storfa cyn-argraffu benodol yn golygu y bydd gan eich gwaith y potensial i gyrraedd ymchwilwyr eraill yn eich disgyblaeth a gall gronni dyfyniadau yn gynt. Hefyd, mae'n ddefnyddiol casglu adborth cynnar ar y papur gan eich cymheiriaid, cyn proses adolygu gan gymheiriaid swyddogol y cyfnodolyn y byddwch yn cyflwyno'r papur iddo.
A fydd fy mhapur yn cael ei ladrata?
Mewn gwirionedd, gall defnyddio storfa neu weinydd cyn-argraffu helpu i ddiogelu eich gwaith rhag cael ei ladrata. Mae'r rhan fwyaf o weinyddion yn cofrestru papurau wrth eu derbyn, sy'n eich galluogi i brofi tarddiad pe tasai papur tebyg arall yn cael ei gyhoeddi ar ôl eich papur chi. Mae llawer o weinyddion cyn-argraffu yn eich galluogi i ychwanegu DOI sy'n eich galluogi i olrhain eich papur a'i ddyfyniadau.
Manteision sy'n benodol i Abertawe
Ni chaiff ymchwilwyr Prifysgol Abertawe eu rhwystro gan y sefydliad rhag defnyddio gweinyddion cyn-argraffu. Nid oes angen i ymchwilwyr unigol sy'n ystyried cyflwyno papur wirio gyda'r cyllidwr na'r cyfnodolyn er mwyn gweld a oes cyfyngiadau sy'n berthnasol.Gellir gwneud hynny drwy ddefnyddio SHERPA/Romeo a chwilio am y cyfnodolyn rydych chi'n ystyried cyflwyno papur iddo. Ni fyddwch yn elwa o’r manteision o ran dyfyniadau, ymgysylltu ac effaith sydd ynghlwm wrth gyflwyno cyn-argraffu oni bai fod yr awdur/coleg yn cyhoeddi'r papur ei hun, yn enwedig mewn disgyblaethau sydd newydd ddechrau defnyddio gweinyddion cyn-argraffu.
Mae gweinyddwyr cyn-argraffu yn cynnwys:
arXiV - Papurau ymchwil mynediad agored ym maes ffiseg a disgyblaethau perthynol. Gwasanaeth cyn-argraffu fesul pwnc yw hwn
BASE (Bielefeld Academic Search) - Mynediad at fwy na 120 miliwn o erthyglau o fwy na 6000 o ffynonellau. Mae mwy na 60% o ddogfennau testun llawn wedi'u mynegeio ar gael drwy fynediad agored
bioRxiv - Gwasanaeth cyn-argraffu ar gyfer pwnc Bioleg yw hwn.
CogPrints - Papurau wedi'u hunan-archifo ym meysydd Seicoleg, Niwrowyddoniaeth, ac Ieithyddiaeth, Athroniaeth, Bioleg.
ChemRxiv - Y gweinydd cyn-argraffu ar gyfer Cemeg
Polisi Mynediad Agored Prifysgol Abertawe
Cyhoeddi gyda ni
Rydym ni'n gyhoeddwr ar-lein sefydliadol sy’n cyhoeddi cyfnodolion electronig Mynediad Agored a rhifynnau digidol ysgolheigaidd. Mae ein catalog o deitlau'n galluogi darllenwyr i gael mynediad at gynnwys am ddim a'i ddefnyddio, yn unol â thrwydded Creative Commons.Rydym ni'n meithrin y gwasanaeth hwn ac yn croesawu ymholiadau gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe sy'n ystyried dechrau cyfnodolyn academaidd.
E-bostiwch: digitalhumanities@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Mae Prifysgol Abertawe yn aelod o OASPA: sef Cymdeithas y Cyhoeddwyr Ysgolheigaidd Mynediad Agored, sy'n cynrychioli buddiannau cyhoeddwyr cyfnodolion a llyfrau Mynediad Agored yn fyd-eang mewn disgyblaethau gwyddonol, technegol ac ysgolheigaidd.
Ein Teitlau