Mae rhagor o wybodaeth drwy'r Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil
Beth mae'r gofynion ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn ei gynnwys?
Dylid dilyn polisi Mynediad Agored REF 2021 nes y bydd rhagor o wybodaeth.
Mae gofynion Mynediad Agored y REF yn berthnasol i bapurau a dderbynnir o 1 Ebrill 2016
Mae'r polisi yn berthnasol i erthyglau mewn cyfnodolion a phapurau cynhadledd mewn cyhoeddiadau sydd ag ISSN. Nid yw'n berthnasol i unrhyw fath arall o ddeunydd, ond mae CCAUC/HEFCW yn awyddus i brifysgolion gynnig cymaint o ddeunydd â phosib ar sail mynediad agored a chaiff prifysgolion eu gwobrwyo am ragori ar y gofynion.
Rhaid i chi gyflwyno eich copi erwydd a dderbynnir gan yr awdur o fewn 3 mis o'r dyddiad derbyn i fod yn gymwys i REF. Yr AAM yw'r copi erwydd a fydd yn ymddangos yn y cyfnodolyn ond heb fformatio'r cyhoeddwr (oni bai eich bod chi wedi talu ffi prosesu erthygl i'r cyhoeddwr).
Mae rhai eithriadau i ofynion Mynediad Agored y REF. Mae eithriadau'n cynnwys:
Cysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch neu ewch i'n tab Cwestiynau Cyffredin ar y canllaw hwn.
Polisi Mynediad Agored UKRI 2021
Esbonio'r newidiadau i'r polisi:https://www.ukri.org/publications/ukri-open-access-policy-explanation-of-policy-changes/
Mae Polisi Mynediad Agored UKRI ar waith o'r dyddiadau canlynol:
a. Erthyglau ymchwil cymwys a gyflwynwyd i'w cyhoeddi ar 1 Ebrill 2022 neu wedi hynny.
b. Monograffau penodol, penodau llyfr a chasgliadau wedi'u golygu a gyhoeddwyd ar 1 Ionawr 2024 neu wedi hynny.
Mae'r polisi'n berthnasol i'r mathau canlynol o gyhoeddiadau, lle mae angen iddynt gydnabod cyllid gan UKRI neu unrhyw un o'i gynghorau cyfansoddol.
a. Erthyglau ymchwil a adolygir gan gymheiriaid, gan gynnwys adolygiadau a phapurau cynhadledd, sy'n cael eu derbyn i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn, trafodion cynhadledd gyda Rhif Cyfresol Safonau Rhyngwladol (ISSN) neu blatfform cyhoeddi.
b. Monograffau, penodau llyfr a chasgliadau wedi’u golygu , fel y’u diffinnir yn Atodiad 1.
3. Ni yw cyn-argraffiadau'n berthnasol i Bolisi Mynediad Agored UKRI. Serch hynny, i hwyluso arferion ymchwil agored, mae UKRI yn annog y defnydd o gyn-argraffiadau ar draws y disgyblaethau ymchwil rydym yn eu cefnogi. Mae UKRI hefyd yn cadw'r hawl i sicrhau y defnyddir cyn-argraffiadau yng nghyd-destun argyfyngau. Gweler hefyd bolisi'r MRC ar gyn-argraffiadau a pholisi'r BBSRC ar gyn-argraffiadau.
Gallwch gael manylion llawn yn nogfen y polisi [v.1 Awst 2021].
Llwybrau mynediad agored sy'n cydymffurfio ar gyfer erthyglau ymchwil
Llwybr 1: Cyhoeddi'r erthygl ymchwil mynediad agored mewn cyfnodolyn neu ar blatfform cyhoeddi sy'n gwneud y Fersiwn Derfynol yn fynediad agored ar unwaith drwy ei wefan.
a. Rhaid i’r Fersiwn Derfynol fod ar gael i'w gweld a'i lawrlwytho am ddim a heb gyfyngiadau. Rhaid iddi gael trwydded Creative Commons Attribution (CC BY), neu drwydded arall a ganiateir gan UKRI (gweler 'gofynion trwyddedu').
b. Rhaid i'r erthygl ymchwil fod yn un mynediad agored mewn cyfnodolyn neu ar blatfform cyhoeddi sy'n bodloni’r isafswm safonau technegol sy'n hwyluso mynediad, darganfod ac ailddefnyddio.
Llwybr 2: Cyhoeddi'r erthygl mewn cyfnodolyn tanysgrifio (hybrid) ac adneuo Llawysgrif a Dderbyniwyd gan yr Awdur (neu fersiwn derfynol, lle mae'r cyhoeddwyr yn caniatáu hynny) mewn storfa sefydliadol neu bwnc ar adeg y cyhoeddiad terfynol.
a. Rhaid i'r fersiwn a adneuwyd fod ar gael i'w gweld a'i lawrlwytho am ddim a heb gyfyngiadau. Rhaid iddi gael trwydded CC BY, neu drwydded arall a ganiateir gan UKRI.(Trwydded Llywodraeth Agored (OGL) neu ar sail fesul achos, gellir defnyddio trwydded fwy cyfyngedig, Creative Commons Attribution No-derivatives (CC BY-ND).
b. Ni chaniateir oedi gan gyhoeddwr neu gyfnod embargo rhwng cyhoeddi’r Fersiwn Derfynol a mynediad agored y fersiwn a adneuwyd.
c. Rhaid i'r erthygl ymchwil fod yn fynediad agored mewn storfa sy'n bodloni'r isafswm safonau technegol sy'n hwyluso mynediad, darganfod ac ailddefnyddio, fel y’u diffiniwyd yn Atodiad 2.
Er mwyn i'r erthygl gael ei chyhoeddi dan Lwybr 2, rhaid i gyflwyniadau gynnwys y testun canlynol yn adran cydnabod cyllid y llawysgrif ac unrhyw lythyr eglurhaol sy'n cyd-fynd â'r cyflwyniad:
'At ddibenion mynediad agored, mae'r awdur wedi defnyddio trwydded hawlfraint cyhoeddus CC BY (lle caniateir hynny gan UKRI, ' Trwydded Llywodraeth Agored' neu gellir nodi trwydded hawlfraint cyhoeddus 'CC BY-ND' yn lle hynny) at unrhyw fersiwn Llawysgrif a Dderbynnir gan Awdur'
Llwybrau Mynediad Agored sy'n cydymffurfio ar gyfer cyhoeddiadau hir
Mae'r adran hon yn nodi gofynion Polisi Mynediad Agored UKRI ar gyfer monograffau, penodau llyfr a chasgliadau wedi’u golygu, fel y’u diffinnir ym mharagraff 3b.
Ar gyfer monograffau penodol, penodau llyfr a chasgliadau wedi'u golygu:
a. Rhaid i’r Fersiwn y Derfynol neu'r Llawysgrif a Dderbyniwyd gan Awdur fod ar gael i’w gweld a'i lawrlwytho am ddim drwy blatfform cyhoeddi ar-lein, gwefan y cyhoeddwyr neu storfa sefydliadol neu bwnc o fewn 12 mis i’w chyhoeddi.
b. mae trwydded Creative Commons Attribution (CC BY) gan y fersiwn mynediad agored neu drwydded arall a ganiateir gan UKRI (gweler 'gofynion trwyddedu') ac mae'n galluogi'r darllenydd i chwilio am gynnwys a'i ailddefnyddio, yn amodol ar briodoli cywir.
c. dylai’r fersiwn mynediad agored gynnwys, lle bynnag y bo'n bosib, unrhyw luniau, darluniadau, tablau a chynnwys ategol arall (gweler 'gofynion trwyddedu') ch. pan fydd Llawysgrif a Dderbynnir gan Awdur yn cael ei hadneuo, dylid nodi'n glir nad hon yw'r fersiwn gyhoeddedig derfynol.
Gweler adran 17 y polisi cyhoeddedig i archwilio pan fydd eithriadau'n berthnasol.
Rhaid i allbynnau a gyhoeddwyd sy'n deillio o gyllid Wellcome fod yn agored ac yn hygyrch i bawb.
Erthyglau a gyflwynwyd i gyfnodolion o fis Ionawr 2021:
Monograffau a Phenodau Llyfr:
Rhaid i bob monograff a phennod llyfr ysgolheigaidd a ysgrifennwyd gan ddeiliad grantiau Wellcome, neu a ysgrifennwyd ar y cyd ganddynt, fel rhan o'u hymchwil a ariennir gan grant:
Pan fydd ffi wedi'i thalu i'r cyhoeddwr i sicrhau bod mynediad agored at y gwaith, caiff ei gyhoeddi dan drwydded Creative Commons. Ffefrir y drwydded briodoli Creative Commons (CC BY). Fodd bynnag, efallai y bydd ymchwilwyr yn dewis cyhoeddi eu gwaith o dan unrhyw drwydded Creative Commons arall,
Polisi Mynediad Agored Wellcome.
Cyllido Gweithredu Cynllun S
Mae Prifysgol Abertawe wedi cadarnhau ei hymrwymiad i asesu ymchwil mewn ffordd deg drwy arwyddo San Francisco Declaration on Research Assessment (DORA) a mabwysiadu’r egwyddorion a amlinellir yn Leiden Manifesto.
Datganiad ar DORA - Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil Ac Arloesi, Yr Athro Helen Griffiths
Trwy fabwysiadu’r egwyddorion hyn, fel sefydliad, rydyn ni’n ymrwymo i:
Rydym yn cydnabod bod mabwysiadu’r egwyddorion hyn yn ddatganiad o fwriad a bydd proses raddol o alinio’r polisi ac ymgorffori’r ymarfer ar draws ein gwasanaethau academaidd a phroffesiynol yn Abertawe. Wrth i faterion gael eu hamlygu ac wrth i feysydd sy’n groes i’r egwyddorion hyn ddod i’r amlwg, byddwn ni’n adolygu’r polisïau yn sgil yr egwyddorion gan sicrhau bod Abertawe yn meddu ar ymagwedd gadarn, dryloyw a theg at ddefnyddio mydryddiaeth at ddibenion gwerthuso ymchwil ac yn cyfathrebu newidiadau a datblygiadau o’r fath yn rheolaidd.
Mae Tîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y brifysgol i ddatblygu llwybr er mwyn i ymchwilwyr ac aelodau staff y gwasanaethau proffesiynol adrodd am bolisïau, gweithdrefnau ac ymddygiadau y teimlwyd nad oeddent yn cyd-fynd ag egwyddorion y DORA a maniffesto Leiden. Os oes gennych chi bryderon, cwestiynau neu geisiadau am hyfforddiant, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu blaenoriaethu’r ceisiadau hyn. Cefnogir y gwaith o weithredu’r egwyddorion hyn yn Abertawe gan y Tîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell.