Bwriad yr egwyddorion 'FAIR', yw gwella Gallu i Ganfod ('Findability'), Hygyrchedd ('Accessibility'), Gallu i Ryngweithredu ('Interoperability') a gallu i Ailddefnyddio ('Re-use') asedau digidol. Mae'r egwyddorion yn pwysleisio gallu peiriannau i weithredu (h.y. gallu systemau cyfrifiadol i ganfod, cyrchu, rhyngweithredu, ac ailddefnyddio data heb ymyrraeth ddynol, neu cyn lleied â phosibl) oherwydd bod pobl yn dibynnu'n fwyfwy ar gymorth cyfrifiadol er mwyn ymdrin â data o ganlyniad i'r cynnydd o ran maint a chymhlethdod data a chyflymder creu'r data.
Os ydych chi'n casglu neu'n creu data sylfaenol sy'n cefnogi canfyddiadau eich ymchwil, gwnewch hynny yn unol ag egwyddorion FAIR drwy eu rhoi mewn storfa ddata dan drwydded agored, ar ffurfiau y gellir eu defnyddio a chyda dogfennaeth a metaddata priodol, gan ddyfynnu'r data drwy ddefnyddio DOI neu ddynodydd unigryw arall yn eich cyhoeddiadau.
Efallai eich bod chi wedi clywed am yr 'Argyfwng Gallu i Atgynhyrchu o’r blaen, mae'n broblem i'r rhan fwyaf o astudiaethau gwyddonol nad oes modd i bobl eraill atgynhyrchu eu canlyniadau. Gallai hyn olygu gwastraffu symiau sylweddol o amser ac arian.
Yn rhannol, mae hyn oherwydd bod y systemau presennol yn ffafrio darganfyddiadau cyffrous, newydd yn lle astudiaethau cadarnhau, ond nawr ceir ymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem; er enghraifft, mae Nature wedi darparu 'Rhestr Wirio Gallu i Atgynhyrchu i awduron sy'n cyflwyno.
Mae gan Brifysgol Abertawe gangen leol o’r UK Reproducibility Network sy'n hyrwyddo Gwyddoniaeth Agored y gellir ei Hatgynhyrchu, yn cynnal clwb cyfnodolyn ar hyn o bryd ac yn gallu darparu arweiniad ynghylch sicrhau y gellir atgynhyrchu eich gwaith. Gallwch gysylltu â nhw drwy e-bostio:ukrnswansea@abertawe.ac.uk neu drwy Twitter; @UKRNSwansea
Darllen pellach
Munafò, M.,(2018) How do you deal with a problem like reproducibility? Available at: https://www.jisc.ac.uk/blog/how-do-you-deal-with-a-problem-like-reproducibility-29-nov-2018
Munafò, M., Nosek, B., Bishop, D. et al. A manifesto for reproducible science. Nat Hum Behav 1, 0021 (2017). https://doi.org/10.1038/s41562-016-0021
Feilden, T., (2017) Most scientists 'can't replicate studies by their peers' Available at: https://www.bbc.co.uk/news/science-environment-39054778
Ble i archifo data?
Mae rhai cyllidwyr yn mynnu eich bod yn defnyddio eu storfeydd eu hunain ar gyfer data ymchwil:
Mae Archif Data'r Deyrnas Unedig gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (yr ESRC).
Cyngor yr NERC ar storfeydd data.
Rhestr Ymddiriedolaeth Wellcome o storfeydd data .
Rhestr y BBSRC o storfeydd data.
Rhestrau cyffredinol o storfeydd data y gellir eu pori fesul pwnc
re3data.org (pob pwnc).
Fairsharing.org
Mae rhestr wirio "Ble i gadw data ymchwil" gan y Digital Curation Centre (DDC sy'n ystyried sut i fynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:
1. a oes storfa ag enw da ar gael?
2. a fydd yn derbyn y data rydych am ei storio?
3. a fydd yn ddiogel o safbwynt cyfreithiol?
4. a fydd y storfa yn cynnal gwerth y data?
5. a fydd yn galluogi dadansoddi ac olrhain defnydd o'r data?
Os nad oes storfa data pynciol neu storfa cyllidwr briodol ar gael, mae gan Brifysgol Abertawe gymuned ar y gwasanaeth Zenodo. Cynhelir y gwasanaeth hwn gan CERN sy'n arbenigwyr ym maes trin setiau data mawr ac mae’n gwarantu y bydd yn symud y gwasanaeth i storfeydd eraill os caiff ei ddileu, felly mae'n ddigon cadarn i ddiwallu anghenion cyllidwyr. Hefyd, bydd yn darparu DOI am ddim ar gyfer eich data er mwyn iddi fod yn haws dod o hyd iddo a'i hyrwyddo.
Rhestr o Storfeydd Data Ymchwil
FAIRsharing – Safonau, cronfeydd data a pholisïau sy'n ymwneud â data a metaddata
Cymuned Zenodo Prifysgol Abertawe
Mae Banc Data SAIL (ym Mhrifysgol Abertawe) yn flaenllaw ac mae ar raddfa fyd-eang o ran storio a defnyddio data di-enw sy'n seiliedig ar bobl, mewn modd diogel a chadarn, ar gyfer ymchwil sy'n gwella iechyd, lles a gwasanaethau. Mae ei fanc data o ddata dienw am boblogaeth Cymru wedi cael sylw rhyngwladol:https://saildatabank.com/saildata/
Drwy'r broses gyn-gofrestru, mae ymchwilydd yn gallu cyhoeddi cynllun dadansoddi data cyn canlyniad y prosiectau, er mwyn gwella tryloywder yr ymchwil, ansawdd yr ymchwil yn gyffredinol, a lliniaru elfennau tuedd gyhoeddi. Ceir rhagor o fanylion am fanteision cyn-gofrestru yma:https://blog.oup.com/2014/09/pro-con-research-preregistration/
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyn-gofrestru eich prosiect, efallai byddwch chi am ddefnyddio'r templed cyn-gofrestru a ddarperir gan y Fframwaith Gwyddoniaeth Agored:https://osf.io/k5wns/