Skip to Main Content

Cyhoeddi Ymchwil Effeithiol: Ymchwil Agored a Mynediad Agored: Adolygu gan gymheiriaid

This page is also available in English

Adolygu Cymheiriaid Agored: Y Sylfeini

Y syniad wrth wraidd Adolygu Cymheiriaid Agored yw cyflwyno tryloywder ac atebolrwydd i'r modelau adolygu gan gymheiriaid sydd wedi bod yn gaeedig yn draddodiadol. Gall Adolygu Cymheiriaid Agored fod ar lawer o ffurfiau gwahanol, ond yr elfennau sylfaenol yw:

  1. Tryloywder o ran hunaniaeth adolygwyr a/neu awduron
  2. Cyhoeddi cynnwys adolygiadau gan gymheiriaid (weithiau wedi'u cyfuno neu'u hadolygu)
  3. Agor adolygu cymheiriaid i gymuned ehangach o ddarllenwyr sydd â diddordeb
  4. Caniatáu rhyngweithiadau rhwng awduron, golygyddion ac adolygwyr er mwyn gwneud adolygu gan gymheiriaid yn fwy cydweithredol ac adeiladol.
  5. Agor adolygu cymheiriaid cyn cyhoeddi drwy ddefnyddio cyn-argraffiadau
  6. Galluogi sylwadau ar ôl cyhoeddi er mwyn i ddarllenwyr wneud sylwadau ac i awduron/ddarllenwyr eraill ymateb
  7. Mae rhai platfformau yn galluogi cyhoeddi cyn adolygu gan gymheiriaid

Manteision ac Anfanteision

 

Manteision Anfanteision
Mae gwrthdaro buddiannau yn amlwg ar unwaith i awduron a darllenwyr Efallai na fydd adolygwyr mor feirniadol neu drylwyr oherwydd bydd pawb yn gallu gweld eu sylwadau
Gall darllenwyr weld sut cafodd y gwaith ei wella drwy adolygu cymheiriaid drwy ddarllen sylwadau'r adolygwyr ac ymatebion yr awduron Efallai bydd ymchwilwyr gyrfa gynnar yn ofni dialedd os byddant yn adolygu ymchwilydd mwy sefydledig/dylanwadol yn feirniadol
Mae adolygwyr yn fwy atebol am eu sylwadau Bydd rhai ymchwilwyr yn gwrthod gwahoddiadau i adolygu'n agored oherwydd nad ydynt yn fodlon i'w sylwadau neu'u hunaniaethau fod ar gael yn gyhoeddus
Mae darllenwyr ac awduron yr allbwn ymchwil yn gallu gweld adolygiadau rhagfarnllyd neu anghywir
Gellir defnyddio adolygiadau agored fel deunydd hyfforddi ar gyfer y genhedlaeth nesaf o adolygwyr cymheiriaid - sy'n hanfodol er mwyn i adolygu cymheiriaid o safon uchel barhau
Gall cyfathrebu uniongyrchol rhwng awduron ac adolygwyr leihau dryswch neu gamddealltwriaethau ac arwain at ddiwygiadau mwy cadarnhaol a chyflymach
Gall adolygwyr ennill credydau a chydnabyddiaeth am eu cyfraniadau at y broses adolygu cymheiriaid. Os bydd adolygiadau ar gael ac yn derbyn DOIs, gellir eu hychwanegu at broffiliau ORCID a CVs

Fodd bynnag, ceir Manteision ac Anfanteision o ran adolygu cymheiriaid caeedig traddodiadol hefyd:

Gall adolygwyr fod yn agored ac yn blwmp ac yn blaen yn eu hadolygiadau

Gall adolygwyr fod yn anghwrtais ac yn negyddol yn eu sylwadau ar allbwn, oherwydd na fydd yr awduron yn eu hadnabod

Gall adolygu cymheiriaid mewn modd dwbl-ddall leihau tuedd yr adolygwr

Gallai adolygwyr fod yn rhagfarnllyd

Gall ymchwilwyr gyrfa gynnar roi sylwadau’n ddienw ar waith ymchwilwyr mwy sefydledig heb ofni dialedd

Gallai adolygwyr ohirio'r cyhoeddi yn bwrpasol os bydd y gwaith sy'n cael ei adolygu’n achub y blaen ar eu gwaith nhw

Gallai adolygwyr gael eu dylanwadu gan statws yr awdur yn y gymuned

Types of Peer Review