Skip to Main Content

Cyhoeddi Ymchwil Effeithiol: Ymchwil Agored a Mynediad Agored: Home

This page is also available in English

Ymchwil Agored

Mae Prifysgol Abertawe’n hyrwyddo diwylliant o ymchwil agored. Nod ymchwil agored yw gwneud dulliau a chanlyniadau ymchwil ar gael i gynulleidfa mor eang â phosib, mor gynnar â phosib. Mae hyn yn cynyddu buddion ac effeithlonrwydd ymchwil drwy ganiatáu i eraill ymwneud â'r canlyniadau ac elwa ohonynt. Credwn y bydd darparu ein deunydd ymchwil i gynulleidfa mor eang â phosib yn cyfrannu at y genhadaeth gyhoeddus i rannu gwybodaeth ac yn creu cyfleoedd i gydweithredu a chael effaith.

Gall hyn gynnwys;

Cyhoeddi erthyglau ac allbynnau eraill drwy Fynediad Agored

  • Gwneud data eich ymchwil yn hygyrch
  • Cymryd rhan mewn Adolygiad Cymheiriaid Agored
  • Monograffau Agored
  • Rhannu Meddalwedd
  • Defnyddio a rhannu ymchwil agored yn eich ymarfer chi

Mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod bod hwn yn faes sy'n datblygu ac yn annog mentrau i wneud ein hymchwil yn fwy agored.

Dod o Hyd i Ymchwil Prifysgol Abertawe

 

 

Cronfa - Cronfa Prifysgol Abertawe 

             Picture with icons             

Cysylltu

Am help neu gyngor gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud ag Ymchwil Agored, Mynediad Agored, RIS neu Gronfa, cysylltwch â'r Tîm Cefnogi Ymchwil drwy e-bost. Dylid anfon ymholiadau am ddata ymchwil i'r Tîm Cefnogi Data Ymchwil.

Ebost Library Research Support

Ebost Research Data Support

Twitter

 Blog

12 Cam tuag at Ymchwil Agored

Gellir naill ai gwneud hyn drwy'r cyhoeddwr (Mynediad Agored Aur) neu drwy gyflwyno yn y System Gwybodaeth Ymchwil (RIS), system cyhoeddiadau'r Brifysgol (Mynediad Agored Gwyrdd), yn unol â thrwydded agored briodol. Gellir cyhoeddi monograffau hefyd gan Fynediad Agored yn y Gronfa

Mae Prifysgol Abertawe wedi diweddaru ei Pholisi Cyhoeddiadau Ymchwil i gynnwys cadw hawliau fel rhan o ymrwymiad i ymchwil agored.

Os ydych chi'n casglu neu'n creu data sylfaenol sy'n cefnogi canfyddiadau eich ymchwil, genwch hynny mewn ffordd deg, neu FAIR – sy'n sefyll am Ganfyddadwy (Findable), Hygyrch (Accessible), Rhyng-ymarferol (Interoperable) ac Ailddefnyddadwy (Re-usable) drwy eu rhoi mewn cronfa ddata dan drwydded agored, ar ffurfiau y gellir eu defnyddio a chyda dogfennaeth a metaddata priodol, gan ddyfynnu'r data drwy ddefnyddio DOI neu ddangosydd unigryw arall yn eich cyhoeddiadau. Os nad oes cronfa bwnc neu ddata cyllidwr priodol ar gael, mae gan Brifysgol Abertawe gymuned ar y gwasanaeth Zenodo.

Os ydych chi'n creu meddalwedd ymchwil neu'n ysgrifennu côd i gyflawni dadansoddiad data, cadwch y côd a'i ryddhau (gyda sylwadau, wedi'i ddogfennu) o dan drwydded agored gan ddefnyddio cronfa ddata neu lwyfan cronfa gôd (e.e. Cymuned Zenodod y Brifysgol neu GitHub), a dyfynnu'r côd yn eich cyhoeddiadau, fesul fersiwn a chan ddefnyddio DOI neu ddangosydd unigryw arall lle bo'n bosib.

Os ydych chi'n creu e-adnodd agored ar y we, megis cronfa ddata ar-lein neu gasgliad digidol, rhowch ef ar waith drwy ddefnyddio safonau agored (e.e. gan ddilyn Canllawiau Menter Amgodio Testun) ac isadeiledd cynaliadwy i fwyafu ei natur ymarferol, ac archifo'r cynnwys a dogfennaeth adnoddau i gronfa ddata briodol at ddibenion dargadw yn y tymor hir.Mae gan Brifysgol Abertawe gymuned ar y gwasanaeth Zenodo.

Defnyddiwch weinydd rhagargraffiad neu system cyflwyno i gyfnodolion agored i ryddhau canfyddiadau eich ymchwil i'r cyhoedd cyn gynted â phosib. (Os ydych chi'n defnyddio gweinydd rhagargraffiad, gwnewch yn siŵr bod y cyfnodolyn a ddewiswyd gennych yn caniatáu postio rhagargraffiad: gallwch wirio polisïau cyfnodolion/cyhoeddwyr yn SHERPA.

Os ydych chi'n creu set ddata neu feddalwedd sy'n allbwn sylweddol ynddo'i hun ac sydd â'r potensial i gael ei ailddefnyddio, ei gyhoeddi mewn papur data a adolygwyd gan gymheiriaid neu mewn papur meddalwedd i hysbysebu ei werth fel adnodd ymchwil a chasglu cyfeiriadau.

Archwiliwch botensial llif gwaith ar-lein ac arfau cydweithio, megis Electronic Lab Notebooks, llwyfannau ffynhonnell agored a gwyddoniaeth dinasyddion (e.e.Jupyter a Zooniverse) sy'n gallu eich galluogi i rannu eich dulliau a'ch deunyddiau, cynnig posibiliadau newydd ar gyfer ymchwil a galluogi rhanddeiliaid i gyfrannu at gynllunio ymchwil a'i rhoi ar waith.

Os ydych chi'n gyfrifol am addysgu, rhowch gyflwyniad i'r myfyrwyr – israddedigion yn ogystal ag ôl-raddedigion – i gysyniadau ac ymarferion Ymchwil Agored. Er enghraifft: esboniwch pam mae Mynediad Agored, a rhannu data a chodau'n bwysig; defnyddiwch ddata agored yn eich addysgu a'ch ymarferion; gofynnwch i fyfyrwyr sy'n gwneud prosiectau arbrofol i gofrestru o flaen llaw eu rhagosodiadau a chynlluniau eu hastudiaethau; addysgu am atgynyrchioldeb drwy osod aseiniad i ail-wneud astudiaeth a gyhoeddwyd; annog myfyrwyr i ddysgu rhaglennu er mwyn creu cronfa o godau ar-lein; cynnal ymarfer adolygiad cymheiriaid agored.

Os ydych chi'n gwneud ymchwil empirig, cofrestrwch eich rhagosodiad, cynllun eich astudiaethau a'ch deunyddiau o flaen llaw drwy ddefnyddio llwyfan cofrestru cyhoeddus megis Open Science Framework neu ystyriwch gyhoeddi eich astudiaeth fel adroddiad a gofrestrwyd (sef erthygl cyfnodolyn empirig lle caiff dulliau a gwaith dadansoddi arfaethedig eu hadolygu gan gymheiriaid a chaiff y canlyniadau eu derbyn i'w cyhoeddi cyn cynnal yr ymchwil).

You can do this either by submitting to journals/publishers that operate an open peer review process, or by reviewing for these journals and posting your reviews online. 

Er enghraifft, helpu i ddatblygu safonau ac offer agored sy'n cefnogi ymarferion agored yn eich disgyblaeth; defnyddiwch eich proffil cyhoeddus a'ch cysylltiadau â rhanddeiliaid ymchwil (megis cymdeithasau dysgedig) i hyrwyddo gweithgareddau a pholisïau Ymchwil Agored.

Os ydych chi'n aelod o fwrdd golygu cyfnodolyn, ystyriwch gofnodi'r materion hyn i'w trafod os nad yw'r bwrdd eisoes wedi trafod na mabwysiadu polisïau: cyflwyno polisi data ac argaeledd côd (gweler yr enghraifft); cyflwyno system cyflwyno adolygiad agored gan gymheiriaid a pholisi sy'n croesawu rhagargraffiadau; cynnig opsiwn adroddiad a gofrestrwyd;trosi'r cyfnodolyn i fodel Mynediad Agored llawn, os yw'r Mynediad Agored drwy danysgrifiad yn unig neu gymysg.

Pam y dylwn i boeni amdano?

Pam y mae'n rhaid i mi gymryd y cam ychwanegol hwn i wneud fy ngwaith ymchwil yn hygyrch?

Mae dau draean o gyhoeddiadau ysgolheigaidd wedi'u cuddio y tu ôl i dudalennau talu. Mae hyn yn golygu nid yn unig ni all aelodau o'r cyhoedd gyrchu eich gwaith, ni all llawer o ymchwilwyr chwaith. Os nad yw eich sefydliad chi'n tanysgrifio i gyfnodolyn rydych chi wedi cyflwyno gwaith iddo, mae'n bosib y gallech chi gael eich atal rhag darllen eich gwaith ymchwil chi'ch hun hyd yn oed.

Mae llawer o allbynnau'r broses ymchwil yn werthfawr ond nid ydynt yn cael eu defnyddio neu eu gwerthfawrogi ddigon, ac nid ydynt ar gael i'w hailddefnyddio. Mae hyn yn arbennig o wir am ddata ymchwil a meddalwedd. Gall ailddefnyddio data arbed llawer o amser ac arian, ac rydym ni'n eu gwastraffu.

Mae cyfraddau atgynyrchioldeb gwael yn cael mwy o sylw yn academia yn ddiweddar.  Canfu arolwg a gynhaliwyd gan y cyfnodolyn Nature yn 2016 nad oedd mwy na 70% o wyddonwyr wedi gallu atgynhyrchu gwaith pobl eraill, ac nad oedd 50% yn gallu atgynhyrchu eu harbrofion eu hunain! Mae hyn yn cynrychioli gwastraff enfawr o adnoddau, ac mewn meysydd megis ymchwil feddygol a fferyllol, mae hyn yn arafu datblygiad triniaethau effeithiol yn sylweddol.

Mae cyhoeddi ymchwil yn broses hir, ac mae rhai canlyniadau ac erthyglau'n cymryd blynyddoedd i fynd drwy'r system gyflwyno a chael ei neilltuo i rifyn penodol o gyfnodolyn. Gall hyn arafu cynhyrchiant unigol, cynnydd gwyddonol a chael effaith negyddol ar eich morâl. Eithriad i hyn yw pan fydd ymatebion brys yn wyneb ymlediad Zika, COVID-19 ac Ebola, pan fydd sefydliadau ymchwil a chyrff cyllido wedi rhannu canfyddiadau eu hymchwil a'u data mewn ymgais i hybu ymateb effeithiol. Mae hyn yn peri i ni ofyn, pam na allwn ni rannu ymchwil a data'n fwy effeithiol heb bwysau argyfwng iechyd cyhoeddus?

Statement

Acknowledgement: Some parts of this LibGuide is derived and adapted with permission of University of Reading Research Engagement Team. 

Creative Commons Licence This work is licensed under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International License. 

Staff Privacy Policy Notice