JISC: Ein rôl ym mynediad agored
Mae Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd yn tanysgrifio i ddetholiad o gytundebau cyhoeddi trawsnewidiol i hyrwyddo mynediad agored 'aur' mewn amrywiaeth eang o gyfnodolion. Hyrwyddir y cytundebau 'Darllen a Chyhoeddi' hyn gan JISC, y corff trafod sy'n cynrychioli sefydliadau ymchwil academaidd y DU ar ran y gwasanaeth llyfrgell.
Os nad oes gennym gytundeb gweithredol gyda chyhoeddwr, fydd rhaid cwrdd â chostau mynediad agored drwy ffynhonnell cyllid arall.
Os ydych chi'n cyhoeddi mewn cyfnodolyn hybrid nad yw wedi'i gynnwys yng nghytundeb cyhoeddi, gallwch ddefnyddio Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil Prifysgol Abertawe i hunan-archifo eich llawysgrif dderbyniedig yr awdur (AAM) yn yr ystorfa sefydliadol, Cronfa. Gallwch hunan-archifo drwy'r llwybr 'gwyrdd' gyda thrwydded Greadigol Gyffredin CC-BY ac nid oes angen cyfnod gwaharddiad cyhoeddi. Opsiwn di-dâl yw hwn sy'n cwrdd â gorchmynion arianwyr.
Rhestr wirio cymhwyster: Sut i sicrhau eich bod chi'n gymwys
Caiff defnydd o'r cytundebau cyhoeddi ei gyfyngu fel arfer i awduron gohebol sydd â chontract cyflogaeth gyda Phrifysgol Abertawe. Gall myfyrwyr ôl-raddedig cofrestredig sy'n awduron gohebol gwneud cais.