Skip to Main Content

Cyhoeddi Ymchwil Effeithiol: Ymchwil Agored a Mynediad Agored

This page is also available in English

Cyhoeddi Mynediad Agored

 

Mae Mynediad Agored (OA) yn darparu mynediad ar-lein, ar unwaith ac am ddim at ymchwil ysgolheigaidd wedi'i hariannu gan gyllid cyhoeddus. Caniateir i ddarllenwyr ddarllen, lawrlwytho, copïo ac ailddosbarthu allbynnau ymchwil.Mae Mynediad Agored yn sicrhau bod eich ymchwil yn cyrraedd cynulleidfa eang.

Rhestr Termau OA 
Mae llawer o opsiynau o ran Mynediad Agored. Aur a Gwyrdd yw'r rhai mwyaf cyffredin, ond beth mae'r rhain yn ei olygu?

  • Aur - y model y mae cyhoeddwyr yn ei ddarparu'n gyfnewid am daliad APC gan yr awdur neu'r sefydliad.
  • Gwyrdd - Hunan-archifo, gosod fersiwn o'r llawysgrif mewn storfa sefydliadol - yn gyffredinol, 'Llawysgrif wedi'i Derbyn' ar ôl ei hadolygu gan gymheiriaid, NEU ddefnyddio gweinyddion cyn-argraffu. Mae'n well gan Brifysgol Abertawe ddefnyddio'r llwybr gwyrdd ac nid yw'n rhoi cyllid canolog er mwyn talu ffioedd mynediad agored aur.
  • Hybrid - Mae Cyfnodolion Hybrid yn cynnwys cymysgedd o erthyglau mynediad agored ac erthyglau mynediad cyfyngedig. Ariennir y model hwn yn rhannol gan danysgrifiadau, ac mae'n darparu mynediad agored dim ond ar gyfer erthyglau unigol y mae'r awduron yn talu ffi cyhoeddi amdanynt.
  • Efydd - mynediad agored wedi'i ohirio, mae cyfnodolion yn cyhoeddi erthyglau ar sail tanysgrifio'n unig i ddechrau, yna maent yn eu rhyddhau i'w darllen (ond nid i'w hail-ddefnyddio, eu rhannu nac eu haddasu) ar ôl cyfnod embargo.
  • Diemwnt/Platinwm - Cyhoeddi mewn cyfnodolion ar sail mynediad agored heb godi tâl ar yr awduron na'r darllenwyr. Yn gyffredinol, mae'r rhain yn gyfnodolion sydd wedi'u cefnogi gan sefydliadau academaidd, cymdeithasau dysgedig neu grantiau gan y llywodraeth.
  • Du - Copïau peirat digidol fyddai hyn. Nid yw'n fynediad agored mewn gwirionedd, ond mae llawer o bobl yn llwyddo i'w wneud naill ai drwy rannu erthyglau â chysylltiadau drwy e-bost neu yriannau a rennir, neu drwy eu gosod ar Research Gate a honni bod yn anwybodus os bydd hynny’n torri'r gyfraith ynghylch hawlfraint.

DOAJ & DOAB