Skip to Main Content

Cyhoeddi Ymchwil Effeithiol: Ymchwil Agored a Mynediad Agored

This page is also available in English

Gwnewch gais am gyllid o'r Grant Bloc Mynediad Agored UKRI ar gyfer eich erthygl

Cyn i chi gwneud cais am gyllid:

Gwiriwch dudalen we Cytundebau Cyhoeddwyr Mynediad Agored Prifysgol Abertawe. Cynorthwyir y cytundebau mynediad agored yn ariannol gan y llyfrgell i dalu costau cyhoeddi mynediad agored aur heb gost uniongyrchol i'r awdur.

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid o'r gronfa grant bloc mynediad agored UKRI 2025/2026:

  • Rhaid i'r awdur gohebol bod yn aelod cyfredol Prifysgol Abertawe fel arfer. Mae'r gronfa hefyd yn cefnogi myfyrwyr ôl-raddedig sy'n dderbynwyr grant hyfforddiant UKRI.
  • Gwnewch gais am gyllid pan gaiff eich erthygl ei dderbyn ar gyfer cyhoeddiad a ddarparwch ddogfennaeth i gefnogi'r cais (e-bost derbyn yr erthygl).
  • Lanlwythwch Llawysgrif Dderbyniedig yr Awdur (AAM) pan rydych chi'n cyflwyno'r cais.
  • Nad ydym yn derbyn ceisiadau i drawsnewid erthyglau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi i fynediad agored aur. Cysylltwch â'r dim mynediad agored i drafod materion ynglŷn â chyhoeddiadau penodol. Y sefydliad ymchwil piau'r penderfyniad i wyro rhag y polisi penodedig.
  • Cyfnod y grant bloc UKRI: Ebrill 2025 - Fawrth 2026

Cwblhewch y ffurflen gais ar-lein (SharePoint) i wneud cais am gymorth ariannol o'r Grant Bloc Mynediad Agored UKRI