Mae Prifysgol Abertawe’n hyrwyddo diwylliant o ymchwil agored. Nod ymchwil agored yw gwneud dulliau a chanlyniadau ymchwil ar gael i gynulleidfa mor eang â phosib, mor gynnar â phosib. Mae hyn yn cynyddu buddion ac effeithlonrwydd ymchwil drwy ganiatáu i eraill ymwneud â'r canlyniadau ac elwa ohonynt. Credwn y bydd darparu ein deunydd ymchwil i gynulleidfa mor eang â phosib yn cyfrannu at y genhadaeth gyhoeddus i rannu gwybodaeth ac yn creu cyfleoedd i gydweithredu a chael effaith.
Gall hyn gynnwys;
Cyhoeddi erthyglau ac allbynnau eraill drwy Fynediad Agored
Mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod bod hwn yn faes sy'n datblygu ac yn annog mentrau i wneud ein hymchwil yn fwy agored.
Gellir naill ai gwneud hyn drwy'r cyhoeddwr (Mynediad Agored Aur) neu drwy gyflwyno yn y System Gwybodaeth Ymchwil (RIS), system cyhoeddiadau'r Brifysgol (Mynediad Agored Gwyrdd), yn unol â thrwydded agored briodol. Gellir cyhoeddi monograffau hefyd gan Fynediad Agored yn y Gronfa.
Mae Prifysgol Abertawe wedi diweddaru ei Pholisi Cyhoeddiadau Ymchwil i gynnwys cadw hawliau fel rhan o ymrwymiad i ymchwil agored.
Os ydych chi'n casglu neu'n creu data sylfaenol sy'n cefnogi canfyddiadau eich ymchwil, genwch hynny mewn ffordd deg, neu FAIR – sy'n sefyll am Ganfyddadwy (Findable), Hygyrch (Accessible), Rhyng-ymarferol (Interoperable) ac Ailddefnyddadwy (Re-usable) drwy eu rhoi mewn cronfa ddata dan drwydded agored, ar ffurfiau y gellir eu defnyddio a chyda dogfennaeth a metaddata priodol, gan ddyfynnu'r data drwy ddefnyddio DOI neu ddangosydd unigryw arall yn eich cyhoeddiadau. Os nad oes cronfa bwnc neu ddata cyllidwr priodol ar gael, mae gan Brifysgol Abertawe gymuned ar y gwasanaeth Zenodo.
Os ydych chi'n creu meddalwedd ymchwil neu'n ysgrifennu côd i gyflawni dadansoddiad data, cadwch y côd a'i ryddhau (gyda sylwadau, wedi'i ddogfennu) o dan drwydded agored gan ddefnyddio cronfa ddata neu lwyfan cronfa gôd (e.e. Cymuned Zenodod y Brifysgol neu GitHub), a dyfynnu'r côd yn eich cyhoeddiadau, fesul fersiwn a chan ddefnyddio DOI neu ddangosydd unigryw arall lle bo'n bosib.
Os ydych chi'n creu e-adnodd agored ar y we, megis cronfa ddata ar-lein neu gasgliad digidol, rhowch ef ar waith drwy ddefnyddio safonau agored (e.e. gan ddilyn Canllawiau Menter Amgodio Testun) ac isadeiledd cynaliadwy i fwyafu ei natur ymarferol, ac archifo'r cynnwys a dogfennaeth adnoddau i gronfa ddata briodol at ddibenion dargadw yn y tymor hir.Mae gan Brifysgol Abertawe gymuned ar y gwasanaeth Zenodo.
Defnyddiwch weinydd rhagargraffiad neu system cyflwyno i gyfnodolion agored i ryddhau canfyddiadau eich ymchwil i'r cyhoedd cyn gynted â phosib. (Os ydych chi'n defnyddio gweinydd rhagargraffiad, gwnewch yn siŵr bod y cyfnodolyn a ddewiswyd gennych yn caniatáu postio rhagargraffiad: gallwch wirio polisïau cyfnodolion/cyhoeddwyr yn SHERPA.
Os ydych chi'n creu set ddata neu feddalwedd sy'n allbwn sylweddol ynddo'i hun ac sydd â'r potensial i gael ei ailddefnyddio, ei gyhoeddi mewn papur data a adolygwyd gan gymheiriaid neu mewn papur meddalwedd i hysbysebu ei werth fel adnodd ymchwil a chasglu cyfeiriadau.
Archwiliwch botensial llif gwaith ar-lein ac arfau cydweithio, megis Electronic Lab Notebooks, llwyfannau ffynhonnell agored a gwyddoniaeth dinasyddion (e.e.Jupyter a Zooniverse) sy'n gallu eich galluogi i rannu eich dulliau a'ch deunyddiau, cynnig posibiliadau newydd ar gyfer ymchwil a galluogi rhanddeiliaid i gyfrannu at gynllunio ymchwil a'i rhoi ar waith.
Os ydych chi'n gyfrifol am addysgu, rhowch gyflwyniad i'r myfyrwyr – israddedigion yn ogystal ag ôl-raddedigion – i gysyniadau ac ymarferion Ymchwil Agored. Er enghraifft: esboniwch pam mae Mynediad Agored, a rhannu data a chodau'n bwysig; defnyddiwch ddata agored yn eich addysgu a'ch ymarferion; gofynnwch i fyfyrwyr sy'n gwneud prosiectau arbrofol i gofrestru o flaen llaw eu rhagosodiadau a chynlluniau eu hastudiaethau; addysgu am atgynyrchioldeb drwy osod aseiniad i ail-wneud astudiaeth a gyhoeddwyd; annog myfyrwyr i ddysgu rhaglennu er mwyn creu cronfa o godau ar-lein; cynnal ymarfer adolygiad cymheiriaid agored.
Os ydych chi'n gwneud ymchwil empirig, cofrestrwch eich rhagosodiad, cynllun eich astudiaethau a'ch deunyddiau o flaen llaw drwy ddefnyddio llwyfan cofrestru cyhoeddus megis Open Science Framework neu ystyriwch gyhoeddi eich astudiaeth fel adroddiad a gofrestrwyd (sef erthygl cyfnodolyn empirig lle caiff dulliau a gwaith dadansoddi arfaethedig eu hadolygu gan gymheiriaid a chaiff y canlyniadau eu derbyn i'w cyhoeddi cyn cynnal yr ymchwil).
Gallwch wneud hyn naill ai drwy gyflwyno i gyfnodolion/cyhoeddwyr sy'n gweithredu proses adolygu cymheiriaid agored, neu drwy adolygu ar gyfer y cyfnodolion hyn a phostio eich adolygiadau ar-lein.
Er enghraifft, helpu i ddatblygu safonau ac offer agored sy'n cefnogi ymarferion agored yn eich disgyblaeth; defnyddiwch eich proffil cyhoeddus a'ch cysylltiadau â rhanddeiliaid ymchwil (megis cymdeithasau dysgedig) i hyrwyddo gweithgareddau a pholisïau Ymchwil Agored.
Os ydych chi'n aelod o fwrdd golygu cyfnodolyn, ystyriwch gofnodi'r materion hyn i'w trafod os nad yw'r bwrdd eisoes wedi trafod na mabwysiadu polisïau: cyflwyno polisi data ac argaeledd côd (gweler yr enghraifft); cyflwyno system cyflwyno adolygiad agored gan gymheiriaid a pholisi sy'n croesawu rhagargraffiadau; cynnig opsiwn adroddiad a gofrestrwyd;trosi'r cyfnodolyn i fodel Mynediad Agored llawn, os yw'r Mynediad Agored drwy danysgrifiad yn unig neu gymysg.