Diben
Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ledaenu ei hymchwil a'i hysgolheictod mor eang â phosib. Mae'n cefnogi'r egwyddor y dylai canlyniadau ymchwil a ariennir gan gyllid cyhoeddus fod ar gael am ddim i'r cyhoedd. Mae academyddion ym Mhrifysgol Abertawe wedi neilltuo neu wedi rhoi eu gwaith ysgolheigaidd (yn ogystal â hawliau'r Brifysgol) i gyhoeddwyr drwy drosglwyddo hawlfraint ar adeg cyhoeddi. Mae hyn yn golygu bod llawer o erthyglau cyfnodolion a gwaith ysgolheigaidd yn cael eu rheoli'n llwyr neu'n rhannol gan gyhoeddwyr academaidd.
Mae'r polisi cyhoeddiadau ymchwil hwn yn galluogi ymchwilwyr i gadw eu hawliau i ailddefnyddio eu gwaith eu hunain ac yn mynnu bod pawb yn cael mynediad agored llawn ac ar unwaith at yr holl:
Erthyglau ymchwil a ariennir a rhai nas ariennir a adolygwyd gan gymheiriaid, wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolyn, cynhadledd neu ar blatfform cyhoeddi.
Penodau llyfrau.
Rhaid i awduron nad ydynt yn dyfynnu cyllid grant penodol gadw eu hawliau fel awdur.
Mae Prifysgol Abertawe'n mabwysiadu'r polisi cyhoeddiadau ymchwil canlynol:
1. Mae pob aelod staff yn rhoi trwydded anghyfyngedig, ddiwrthdro, fyd-eang y gellir ei his-drwyddedu i sicrhau bod llawysgrifau sydd wedi'u derbyn o'i erthyglau ysgolheigaidd a phenodau ei lyfrau ar gael i'r cyhoedd. Rhoddir y drwydded hon ar yr amod, os bydd Prifysgol Abertawe'n sicrhau bod y cyfryw erthygl ymchwil neu bennod llyfr ar gael yn ei chronfa ymchwil sefydliadol, y bydd fel arfer yn gwneud hynny dan delerau trwydded Priodoli 4.0 Creative Commons (CC-BY) (diofyn) (trwydded Mynediad Agored Prifysgol Abertawe).
2. Mae'r drwydded yn berthnasol i allbynnau ysgolheigaidd sydd wedi’u hysgrifennu, neu sydd wedi’u hysgrifennu ar y cyd, pan fydd unigolyn yn aelod staff neu'n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig a ariennir gan UKRI (Ymchwil ac Arloesi yn y DU) ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys deunydd trydydd parti lle mae hawliau i'r deunydd hwnnw wedi’u sicrhau. Nid yw'r drwydded yn berthnasol i unrhyw erthyglau a gyflwynwyd cyn i'r polisi hwn gael ei fabwysiadu (01/07/2023), neu unrhyw erthyglau y daeth yr aelod staff neu'r myfyriwr ôl-raddedig a ariennir gan UKRI i gytundeb trwyddedu neu drosglwyddo anghydnaws arnynt cyn i'r polisi hwn gael ei fabwysiadu.
Nid yw'r polisi'n berthnasol i'r canlynol:
Monograffau*
Argraffiadau ysgolheigaidd
Gwerslyfrau
Casgliadau o draethodau
Setiau data
Allbynnau eraill nad ydynt yn erthyglau ysgolheigaidd.
* Ac eithrio penodau monograffau a llyfrau a ariennir gan UKRI a gyhoeddir o 1 Ionawr 2024. Mae gofynion mynediad agored newydd ar gyfer allbynnau hir yn ofynnol ar gyfer y cyllidwr hwn. Caiff y polisi hwn ei ddiweddaru pan fydd newidiadau i bolisïau pob cyllidwr perthnasol.
Er nad yw'r polisi'n berthnasol i'r mathau o allbynnau uchod, mae'r Brifysgol yn annog yn gryf y dylid cyhoeddi allbynnau o'r fath â thrwydded Creative Commons addas lle y bo'n bosib. Ein bwriad yw sicrhau bod monograffau a ariennir gan UKRI yn gyson â'r polisi hwn o 01/01/2024. Cysylltwch â Thîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell (libraryresearchsupport@abertawe.ac.uk) am ragor o gymorth.
3. Pan fydd y polisi hwn yn berthnasol i erthygl sydd wedi'i hysgrifennu ar y cyd, bydd yr aelod staff yn defnyddio pob ymdrech resymol i sicrhau trwydded i Brifysgol Abertawe gan yr holl gyd-awduron ar yr un telerau â'r drwydded a roddir dan y polisi hwn gan yr aelod staff. Mae Prifysgol Abertawe'n is-drwyddedu'n awtomatig yr hawliau a roddir iddi dan y polisi hwn i'r holl gyd-awduron a'u sefydliadau cynnal, ar yr amod, os bydd y cyd-awduron a/neu'r sefydliadau cynnal hynny yn sicrhau bod erthygl a ysgrifennwyd ar y cyd ar gael i'r cyhoedd, byddant yn gwneud hynny yn ôl telerau trwydded CC-BY. Felly, ni fydd angen i'r aelod staff geisio caniatâd gan gyd-awduron a gyflogir gan sefydliadau sydd wedi mabwysiadu'r polisi hwn neu bolisïau eraill sy'n rhoi'r un hawliau i sefydliadau a/neu awduron.
Dylai awduron sy'n ymgymryd ag ymchwil gydweithredol a ariennir gan UKRI neu nas ariennir ar y cyd â phartneriaid y tu allan i'r Brifysgol roi gwybod i'r cyfryw bartneriaid y caiff unrhyw fathau o allbwn â pherthnasedd uniongyrchol eu cyhoeddi dan delerau trwydded Priodoli 4.0 Creative Commons (CC-BY) oni bai y rhoddwyd caniatâd i optio allan (gweler isod).
4. Optio allan o'r Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil
Mae polisi Prifysgol Abertawe'n berthnasol o 01/07/2023. Fodd bynnag, dan amgylchiadau eithriadol, caniateir i staff ymchwil optio allan o'r gofyniad am fynediad agored ar unwaith ar ôl cyhoeddi gwaith, neu neilltuo trwydded CC-BY.
Drwy wneud hyn, efallai na fydd yr allbwn ymchwil yn cydymffurfio â pholisïau cyllidwyr.
Gall optio allan fod yn briodol dan yr amgylchiadau canlynol:
a. Ni fydd cyfnodolyn yn cyhoeddi'r allbwn os oes datganiad cadw hawliau. Nid oes gan yr awdur ganiatâd i rannu'r llawysgrif sydd wedi'i derbyn â thrwydded CC-BY ar unwaith ar ôl ei chyhoeddi a bydd cyhoeddwr yn gosod embargo.
b. Nid oes gan awdur ganiatâd i rannu'r llawysgrif sydd wedi'i derbyn â thrwydded CC-BY ar unwaith ar ôl ei chyhoeddi am un o'r rhesymau canlynol:
i. Nid yw'r cyd-awduron yn ymateb neu nid ydynt yn cytuno i CC-BY.
ii. Mae'r erthygl yn cynnwys swm sylweddol o ddeunyddiau trydydd parti (megis lluniau, ffotograffau, diagramau neu fapiau) na ellir eu trwyddedu â CC-BY. Nid yw'n briodol golygu'r cynnwys trydydd parti.
iii. Mae'r awdur cyfatebol wedi cyflwyno cais i'r cyllidwr am ganiatâd i ddewis eithriad trwyddedu amgen CC-BY-ND (Dim Deilliadau).
iv. Mae'r awdur cyfatebol wedi dewis trwydded CC-BY-ND (Dim Deilliadau) amgen.
v. Defnyddiodd y cyd-awduron drwydded wahanol, er enghraifft, CC-BY-NC-ND (Anfasnachol, Dim Deilliadau) neu Drwydded Llywodraeth Agored (OGL) Hawlfraint y Goron am wybodaeth y sector cyhoeddus.
vi. Mae'r allbwn yn cynnwys gwybodaeth sensitif y cyfyngir ar fynediad y cyhoedd ati. Mae'r cyfyngiad yn barhaol.
c. Mae modd optio allan o'r polisi pan gaiff yr erthygl ei derbyn i'w chyhoeddi drwy lenwi'r ffurflen ar-lein sydd ar gael drwy https://forms.office.com/r/rvbwPzF4LY
Drwy lenwi'r ffurflen optio allan, mae'r awdur yn deall y caniateir ildio hawl ac y caniateir oedi am gyfnod o hyd at 12 mis o'r dyddiad cyhoeddi cyntaf (embargo) cyn sicrhau bod y llawysgrif ar gael i'r cyhoedd.
E-bostiwch dîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell os hoffech gael rhagor o arweiniad: LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk
5. Bydd y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol yn gyfrifol am ddehongli'r polisi hwn, gan ddatrys anghydfodau ynghylch ei roi ar waith, ac argymell newidiadau. Bydd y Brifysgol yn defnyddio pob ymdrech resymol i roi gwybod i gyhoeddwyr am fodolaeth a chynnwys y polisi hwn. Caiff y polisi ei adolygu o bryd i'w gilydd.
Mae’r polisi cyhoeddiadau ymchwil yn rhoi hawl awtomatig i fyfyrwyr a staff sy’n ymgymryd ag ymchwil i gadw hawliau i ailddefnyddio eu gwaith eu hunain. Mae hefyd yn caniatáu mynediad agored llawn ac ar unwaith at yr holl erthyglau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid – rhai sydd wedi’u hariannu a heb eu hariannu – a gyhoeddwyd mewn cyfnodolyn, trafodion cynhadledd neu ar blatfform cyhoeddi. Mae’r polisi hefyd yn cynnwys penodau llyfrau.
Manteision cadw hawliau i awduron:
3. Sut mae cadw hawliau’n gweithio?
Enghraifft o Ddatganiad Cadw Hawliau
At ddiben Mynediad Agored, mae’r awdur wedi cymhwyso trwydded Creative Commons Attribution (CC BY) i unrhyw fersiwn Llawysgrif a Dderbynnir gan yr Awdur sy’n deillio o’r cyflwyniad hwn.
5. Optio allan o'r Polisi Cyhoeddiadau Ymchwil
Mae polisi Prifysgol Abertawe'n berthnasol o fis Gorffennaf 2023. Fodd bynnag, dan amgylchiadau eithriadol, caniateir i staff ymchwil optio allan o'r gofyniad am fynediad agored ar unwaith ar ôl cyhoeddi gwaith, neu aseinio trwydded CC BY.
Cewch optio allan o'r polisi pan gaiff yr erthygl ysgolheigaidd ei derbyn i'w chyhoeddi.
Rhaid i chi gwblhau'r ffurflen ar-lein sydd ar gael yn https://forms.office.com/r/rvbwPzF4LY
Drwy wneud hyn, efallai na fydd yr allbwn ymchwil yn cydymffurfio â pholisïau cyllidwyr.
6. Llwybrau i Fynediad Agored
Gellir cydymffurfio â gofynion mynediad agored drwy ddefnyddio llwybr Mynediad Agored 'aur'. Dylid darparu'r fersiwn gyhoeddedig derfynol o'r ddogfen (version of record) heb embargo a chyda thrwydded CC BY Creative Commons.
Caniateir darparu mynediad agored drwy hunanarchifo 'gwyrdd' mewn storfa. Gellir darparu'r llawysgrif a dderbynnir gan yr awdur heb embargo y tro cyntaf y caiff ei chyhoeddi ar-lein a chyda thrwydded CC BY Creative Commons 4.0.
7. Trwyddedu Creative Commons
Mae Creative Commons yn cynnig ffordd safonol o roi caniatâd hawlfraint i waith creadigol. Ynglŷn â'r trwyddedau: https://creativecommons.org/licenses/
Y math o drwydded safonol sydd orau gan Brifysgol Abertawe yw trwydded Creative Commons Attribution International (CC BY 4.0). Mae'r drwydded hon yn caniatáu i eraill ddosbarthu, ailgymysgu, addasu eich gwaith ac adeiladu arno, hyd yn oed yn fasnachol, os ydynt yn cydnabod yr awdur am y gwaith gwreiddiol. Dyma'r drwydded fwyaf hyblyg sydd ar gael. Mae'n cael ei hargymell ar gyfer y gallu mwyaf i ledaenu a defnyddio deunyddiau wedi'u trwyddedu.
Mae eithriad o drwydded Creative Commons Attribution No-Derivatives (CC BY ND4.0) ar gael os yw UKRI yn caniatáu hyn (dylid cyflwyno cais drwy https://www.ukri.org/publications/no-derivatives-licence-exception/). Mae'r drwydded hon yn caniatáu i eraill ailddefnyddio'r gwaith at unrhyw ddiben, gan gynnwys yn fasnachol; fodd bynnag, ni chaniateir rhannu'r gwaith wedi'i addasu ag eraill, a rhaid cydnabod yr awdur.
8. Beth yw barn y cyllidwyr?
Mae cyllidwyr yn disgwyl i academyddion fynnu eu hawliau yn yr AAM (llawysgrif a dderbynnir gan yr awdur) sy'n deillio o gyflwyno.
Mae'r cyrff cyllido mwy wedi hysbysu cyhoeddwyr bod cadw hawliau bellach yn un o amodau grantiau cyllidwyr. Mae hyn yn dilyn y gwaith arloesol a wnaed gan cOAlition S sy'n dweud bod rhaid i ganfyddiadau ymchwil a ariannwyd gan grantiau cyhoeddus neu breifat a roddwyd gan gynghorau ymchwil a chyrff cyllido gael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion mynediad agored neu ar blatfformau mynediad agored, neu rhaid iddynt fod ar gael ar unwaith drwy storfeydd mynediad agored a heb embargo.
Bydd y polisi hwn yn cynnwys allbynnau ffurf hir a gyhoeddir o 1 Ionawr 2024 ar gyfer yr holl ymchwilwyr a ariennir gan UKRI.
9. Beth yw'r sefyllfa gyfreithiol?
Rydym yn gwybod bod yr ymagwedd cadw hawliau'n cydymffurfio â chyfraith hawlfraint yn y DU drwy hysbysiad blaenorol, lle na ellir dirymu polisi cadw hawliau nad ydynt yn unigryw drwy aseinio hawlfraint yn ddiweddarach. Mae Prifysgol Abertawe wedi hysbysu cyhoeddwyr mawr yn ysgrifenedig ei bod yn gweithredu polisi cadw hawliau o 1 Gorffennaf 2023.
O 1 Gorffennaf 2023, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi i'r Brifysgol drwydded y gellir ei his-drwyddedu, nad yw'n unigryw, sy'n ddilys ledled y byd ac sy'n ddi-alw'n ôl i wneud eu herthyglau a'u penodau llyfr ysgolheigaidd a adolygwyd gan gymheiriaid ar gael yn gyhoeddus o dan drwydded Creative Commons Attribution (CC BY), (Trwydded Mynediad Agored Abertawe). Rhoddir trwydded o'r fath gan berchennog yr hawlfraint, sef yr ymchwilydd dan sylw ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n rhwymo unrhyw olynwyr yn y teitl i'r ymchwilydd (i gyd o fewn ystyr adran 90(4) Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988). Felly, mae unrhyw hawl a’r holl hawliau a roddir i'r cyhoeddwr mewn perthynas â gwaith o'r fath a gyflwynir i'w gyhoeddi yn cael eu rhoi i'r cyhoeddwr bob amser yn ddarostyngedig i'r drwydded a grybwyllwyd uchod. Mae'r drwydded hon nad yw'n unigryw yn berthnasol i unrhyw ymchwil a chyhoeddiadau ysgolheigaidd a ysgrifennwyd neu a ysgrifennwyd ar y cyd gan ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Ni chaiff cyhoeddwyr osod cyfyngiadau cyhoeddi ar awdur yn unol â thelerau Trwydded Mynediad Agored Abertawe. Rydym yn argymell yn gryf nad yw ymchwilwyr yn trosglwyddo hawliau mewn eiddo deallusol i gyhoeddwyr a'u bod yn defnyddio datganiad cadw hawliau fel arfer safonol.
10. Beth yw barn cyhoeddwyr?
Ni ddylai cynnwys datganiad cadw hawliau wrth gyflwyno ddylanwadu ar benderfyniad cyhoeddwr i dderbyn y papur. Mae'n annhebygol y bydd cyhoeddwr yn gwrthod eich cyflwyniad oherwydd y polisi hwn.
Os yw'n derbyn llawysgrif i'w chyhoeddi lle mae'r awdur wedi rhoi trwydded flaenorol i'r brifysgol dylai hyn gael blaenoriaeth dros unrhyw aseinio hawlfraint yn y gyfraith wedi hynny. Gallwch wneud eich llawysgrif a dderbyniwyd gan yr awdur ar gael yn y storfa yn union ar ôl iddi gael ei chyhoeddi ar-lein drwy drwydded Creative Commons Attribution CC BY.
Mae'r drafodaeth â chyhoeddwyr masnachol ynghylch tegwch yn parhau. Mae prifysgolion eisoes yn talu symiau aruthrol i gyhoeddwyr drwy gytundebau llyfrgell a byddant yn parhau i brynu cytundebau 'darllen a chyhoeddi' i hwyluso mynediad darllen a mynediad agored 'aur'. Ni fydd o fantais i gyhoeddwr wrthod cyhoeddi oherwydd y polisi hwn.
Rhaid i'r ecosystem gydnabod mynediad teg a chynhwysol at ymchwil.
11. Oes cymorth ar gael ar gyfer ymholiadau ynghylch cadw hawliau?
Cysylltwch â LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk
Cwestiynau Cyffredin, Fersiwn 1 Mehefin 2023 CR/RRS Project
Prif ddiben gwaith ymchwil yw gwasanaethu lles y gymdeithas, rwy'n ardystio'n llawn egwyddorion hawliau cadw gan awduron y gweithiau ymchwil ac rwy'n ei gymhwyso i'm holl gyhoeddiadau. Mae cadw hawliau gyda thrwydded oddefol fel CC BY 4.0 yn hollbwysig wrth gyflawni cenhadaeth gwaith ymchwil.
Mae'n galluogi awduron i gyfleu eu canfyddiadau'n effeithiol i gynulleidfa amrywiol gan ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau, o fannau arbenigol traddodiadol i'r cyfryngau cymdeithasol. Drwy ehangu'r gynulleidfa a'r gronfa o fuddiolwyr posib, mae'r ymagwedd hon yn sicrhau gwelededd gwell y gwaith ac mae'n grymuso darllenwyr i ymgysylltu'n llawn ag ef, heb orfod gofidio am dorri hawlfraint. Ar yr yn pryd, mae awduron yn cadw rheolaeth lwyr o'u cyhoeddiadau ac yn derbyn cydnabyddiaeth gywir am eu cyfraniadau.
Biagio Lucini, 2023