Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gefnogi'r elusen Open Book Collective sef opsiwn cymunedol sy’n galluogi sefydliadau gwybodaeth, megis llyfrgelloedd, i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer cyhoeddi llyfrau mynediad agored a helpu cyhoeddwyr maint canolig i symud i ffwrdd o ddibynnu ar gostau prosesu llyfrau a thuag at fodel Mynediad Agored Diemwnt. Mae hefyd yn cefnogi grwpiau sy’n datblygu isadeileddau agored megis cronfeydd a chatalogau ar gyfer cyhoeddi llyfrau mynediad agored.
Mynediad Agored - Cyhoeddiadau Ffurf Hir UKRI Prifysgol Abertawe
Mae'n rhaid i chi wneud eich allbwn ffurf hir yn fynediad agored o fewn 12 mis o’i gyhoeddi a defnyddio trwydded agored.
Rhaid i'r fersiwn gyhoeddedig derfynol neu Lawysgrif Cymeradwy'r Awdur fod ar gael i'w gweld a'u lanlwytho am ddim drwy blatfform cyhoeddi ar-lein, gwefan y cyhoeddwr neu gronfa sefydliadol neu bwnc o fewn 12 mis o’i chyhoeddi fan bellaf, gyda thrwydded CC-BY Creative Commons.
Dylai'r fersiwn mynediad agored gynnwys, lle bynnag y bo'n bosibl, unrhyw ddelweddau, lluniau, tablau a chynnwys ategol arall. Pan gaiff Llawysgrif Cymeradwy'r Awdur ei chyflwyno, dylai fod yn glir nad y fersiwn gyhoeddedig derfynol ydyw.
Os ydych chi'n cyhoeddi monograff, pennod llyfr neu gasgliad wedi'i olygu ar 1 Ionawr 2024 neu wedi hynny, mae'n rhaid i chi ddilyn polisi mynediad agored UKRI.
Os nad ydych chi'n derbyn cyhoeddwr arferol ac mae angen ISBN arnoch ar gyfer eich cyhoeddiad gall y llyfrgell ddarparu un. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, os ydych yn cyhoeddi trafodaethau cynhadledd neu adroddiad.
Mae ISBN o fantais os ydych chi'n awyddus i gyhoeddi eich gwaith oherwydd caiff ei gofrestru yn genedlaethol a bydd manylion ar gael i werthwyr llyfrau. Mae'n rhif cynnyrch unigryw sy'n ffordd o adnabod eich cyhoeddiad.
Pan fydd eich cyhoeddiad yn barod ar gyfer yr ISBN llenwch y ffurflen gais hon am ISBN. Y meysydd sydd wedi'u nodi â seren yw'r rhai hanfodol. Mae'r derminoleg a ddefnyddiwyd yn gweddu gofynion y gronfa ddata ISBN a ddefnyddir gan y diwydiant llyfrau. Anfonwch y ffurflen sydd wedi'i llenwi i LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk. Byddwch chi'n derbyn ISBN a byddwn yn cofrestru eich cyhoeddiad ar y gronfa ddata ISBN genedlaethol. Bydd y llyfrgell yn talu'r gost.
Byddwch chi'n parhau i fod yn gyfrifol am eich cyhoeddiad ac am ymdrin â'r Adneuo Cyfreithiol http://www.bl.uk/aboutus/legaldeposit/ Sylwer bydd gofyniad cyfreithiol arnoch i adneuo unrhyw gyhoeddiad a gyhoeddir yn y DU gyda llyfrgelloedd adnau cyfreithiol os oes ganddo ISBN ai peidio.
Os nad ydych yn defnyddio cyhoeddwr confensiynol ac mae arnoch angen DOI (Cyfeirnod Gwrthrych Digidol) ar gyfer eich cyhoeddiad arbenigol, gall y llyfrgell ddarparu un. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, os ydych yn cyhoeddi trafodion cynhadledd neu adroddiad etc.
Caiff DOI ei gofrestru gyda Crossref. Mae'n rhif cynnyrch unigryw sy'n adnabod eich cyhoeddiad.
Pan fydd eich cyhoeddiad yn barod ar gyfer y DOI, e-bostiwch "LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk.
Bydd y llyfrgell yn talu'r gost.