Mae ORCiD yn gofrestrfa o ddulliau adnabod unigryw ar gyfer ymchwilwyr ac ysgolorion sy'n agored, amherchenogol, eglur, symudol ac wedi'i sefydlu yn y gymuned. Mae ORCiD yn darparu dull adnabod digidol parhaus sy'n eich neilltuoli o bob cyfrannwr arall ac yn cefnogi cysyllteddau awtomatig rhwng eich holl weithgareddau proffesiynol. Gall pob ymchwiliwr neu ysgolor cofrestru yn ddi-dâl ac yn ddi-oed.
Manteision cael ORCiD:
Defnyddiwch y rhestrau gwirio cynhwysfawr a ddarperir gan Think, Check, Submit.
Defnyddiwch y rhestrau gwirio cynhwysfawr a ddarperir gan Think, Check, Submit.
Hefyd, ystyriwch:
Beth yw'r rhain?
Fersiynau Cyn-argraffu yw fersiynau o'ch papur cyn iddo gael ei gyflwyno i'w adolygu gan gymheiriaid. Mae defnyddio gweinyddion cyn-argraffu yn amrywio'n sylweddol rhwng disgyblaethau. Mae'n arfer adnabyddus mewn meysydd fel y Gwyddorau Ffisegol, ond nid yw meysydd eraill yn ei ddefnyddio o gwbl.
Pam dylwn i wneud hyn?
Mae gosod fersiwn cyn-argraffu mewn gweinydd neu storfa cyn-argraffu benodol yn golygu y bydd gan eich gwaith y potensial i gyrraedd ymchwilwyr eraill yn eich disgyblaeth a gall gronni dyfyniadau yn gynt. Hefyd, mae'n ddefnyddiol casglu adborth cynnar ar y papur gan eich cymheiriaid, cyn proses adolygu gan gymheiriaid swyddogol y cyfnodolyn y byddwch yn cyflwyno'r papur iddo.
A fydd fy mhapur yn cael ei ladrata?
Mewn gwirionedd, gall defnyddio storfa neu weinydd cyn-argraffu helpu i ddiogelu eich gwaith rhag cael ei ladrata. Mae'r rhan fwyaf o weinyddion yn cofrestru papurau wrth eu derbyn, sy'n eich galluogi i brofi tarddiad pe tasai papur tebyg arall yn cael ei gyhoeddi ar ôl eich papur chi. Mae llawer o weinyddion cyn-argraffu yn eich galluogi i ychwanegu DOI sy'n eich galluogi i olrhain eich papur a'i ddyfyniadau.
Manteision sy'n benodol i Abertawe
Ni chaiff ymchwilwyr Prifysgol Abertawe eu rhwystro gan y sefydliad rhag defnyddio gweinyddion cyn-argraffu. Nid oes angen i ymchwilwyr unigol sy'n ystyried cyflwyno papur wirio gyda'r cyllidwr na'r cyfnodolyn er mwyn gweld a oes cyfyngiadau sy'n berthnasol.Gellir gwneud hynny drwy ddefnyddio SHERPA/Romeo a chwilio am y cyfnodolyn rydych chi'n ystyried cyflwyno papur iddo. Ni fyddwch yn elwa o’r manteision o ran dyfyniadau, ymgysylltu ac effaith sydd ynghlwm wrth gyflwyno cyn-argraffu oni bai fod yr awdur/coleg yn cyhoeddi'r papur ei hun, yn enwedig mewn disgyblaethau sydd newydd ddechrau defnyddio gweinyddion cyn-argraffu.
Rydym ni'n gyhoeddwr ar-lein sefydliadol sy’n cyhoeddi cyfnodolion electronig Mynediad Agored a rhifynnau digidol ysgolheigaidd. Mae ein catalog o deitlau'n galluogi darllenwyr i gael mynediad at gynnwys am ddim a'i ddefnyddio, yn unol â thrwydded Creative Commons.Rydym ni'n meithrin y gwasanaeth hwn ac yn croesawu ymholiadau gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe sy'n ystyried dechrau cyfnodolyn academaidd.
E-bostiwch: digitalhumanities@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth.