Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull MHRA (Ar-lein): Fformatio MHRA yn Word

This page is also available in English

Fformatio MHRA yn Word

I fewnosod:

1.  Rhifau uwchysgrif:

Ewch i'r man yn eich testun lle rydych am gyfeirio at syniad rhywun arall, cliciwch ar y tab References, yna cliciwch ar yr eicon Insert Footnote a bydd MS Word yn gosod rhif uwchysgrif wrth y dyfyniad hwnnw.

2.  Troednodiadau:

Bydd MS Word wedi dyblygu'r rhif uwchysgrif a ddyrannwyd ar waelod y dudalen a bydd wedi gosod eich cyrchwr ar ei ôl.  Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi'r manylion ar ffurf troednodyn.

3.  Y llyfryddiaeth:

  • Dechreuwch ar dudalen newydd
  • Rhestrwch yr holl ffynonellau rydych wedi'u dyfynnu ar ffurf llyfryddiaeth
  • Rhowch yn nhrefn yr wyddor yn ôl Cyfenw'r Awduron
  • Defnyddiwch ofod dwbl
  • Defnyddiwch fewnoliadau crog (dylai cofnodion gael eu mewnoli ar ôl y llinell gyntaf).  (I wneud hyn bydd angen i chi osod eich cyrchwr ar ddechrau'r ail linell a phwyso'r bysellau Ctrl a Tab gyda'i gilydd.)
  • Rhestrwch y prif ffynonellau, yn nhrefn yr wyddor, mewn rhan ar wahân o'r Llyfryddiaeth sef 'Prif Ffynonellau'.