Darllen cefndir yw'r ffynonellau gwybodaeth rydych wedi eu defnyddio wrth ysgrifennu eich gwaith, ond efallai nad ydych wedi defnyddio na chrybwyll y rhain yn eich gwaith.
Mae rhai adrannau'n disgwyl i chi gynnwys y rhain yn eich Llyfryddiaeth ar y diwedd ond nid yw eraill.
Gwiriwch gyda'ch tiwtor.
Ystyr dyfynnu eilaidd yw dyfynnu heb weld y ffynhonnell wreiddiol eich hun.
Mae’n well osgoi’r arfer hwn, a disgwylir ichi wneud pob ymdrech i gael gafael ar y ffynhonnell wreiddiol a’i darllen.
Os nad oes modd osgoi’r arfer hwn, yna gallwch ddyfynnu’n eilaidd, ond mae angen ichi nodi’n glir eich bod yn cyfeirio at awdur nad ydych wedi darllen ei waith:
Yn y Llyfryddiaeth, cyfeirnodwch Nalbantian fel yr arfer.