Croeso i'r canllaw hwn ar sut i gyfeirnodi'n gywir gan ddefnyddio arddull cyfeirnodi Cymdeithas Ymchwil y Dyniaethau Modern (MHRA). Os ydych chi'n newydd i arddull cyfeirnodi MHRA, dechreuwch gyda thab Cyflwyniad y canllaw, lle gallwch chi ymgyfarwyddo ag elfennau'r arddull, gwyliwch fideo byr ar y ffordd orau i ddefnyddio'r canllaw, ac argraffwch fersiwn pdf ohono.
Dilynwch y ddolen i ymgofrestru ar gyfer Hanfodion Llyfrgell MyUni os nad ydych chi wedi cael mynediad at y cwrs o'r blaen.
Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. cyfeirio ato'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.
Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Canvas.