Ceir nifer o gasgliadau arbennig o lyfrau, fel Casgliad Allan Milne a roddwyd yn ddiweddar, yn y Storfeydd yn y Llyfrgell a’r Ganolfan Wybodaeth. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn gymynroddion neu roddion. Ni ellir benthyca y mwyafrif o’r deunyddiau. Gellir ond ymgynghori â rhai dan amodau arbennig yn unig. Efallai ceir y mwyafrif o eitemau yn y catalog iFind. Holwch ar y Ddesg Wybodaeth am fanylion mynediad i ddeunydd y casgliad arbennig hwn. Cewch wybod mwy ar ein tudalen Casgliadau Arbennig ar y we.
Mae ein tudalen we Casgliadau Archif ac Ymchwil yn rhoi dolenni i wybodaeth am y casgliadau ymchwil hanesyddol sydd gennym. Ceir y casgliadau hyn yn Archifau Richard Burton, Llyfrgell Glowyr De Cymru ac yn ein Llyfrau Prin a gedwir yn swyddfa y Cyflenwad Dogfennau.
Mae’r casgliadau sy’n cael eu cadw yn Llyfrgell Glowyr De Cymru (wedi’i lleoli ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan) yn archwilio elfennau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol o Dde Cymru ddiwydiannol. Casgliad Maes Glo De Cymru (SWCC) yw’r casgliad ymchwil mwyaf, ond mae’r llyfrgell yn cadw nifer o gasgliadau llai sydd wedi’u rhoi gan academyddion, gwleidyddion, sefydliadau a gweithwyr.
Mae'r rhain yn darparu adnoddau ymchwil gwerthfawr ar draws nifer o ddisgyblaethau, yn cynnwys Hanes Diwydiannol, Llenyddiaeth Saesneg, Gwleidyddiaeth, Seryddiaeth ac Athroniaeth. Am ragor o wybodaeth cymerwch olwg ar dudalen DACE: Research Collections.
Lleolir Casgliad Allan Milne, sydd dros 2,500 o lyfrau ar Ryfel Cartref America, mewn storfa ar Lefel 2 Gorllewin y Llyfrgell a’r Ganolfan Wybodaeth. Mae’n cynnwys llawer o ffynonellau cynradd, fel dyddiaduron, bywgraffiadau a llythyrau milwr. Mae’n un o’r casgliadau mwyaf o ddeunyddiau sy’n berthnasol i’r Rhyfel Cartref yn y Deyrnas Unedig. Mae’n werthfawr iawn i lawer o ymchwilwyr a myfyrwyr.
Gallwch un ai chwilio ar iFind am dermau penodol yng Nghasgliad Milne a gofyn wrth y Ddesg Gwybodaeth i gael eu gweld neu gallwch bori drwy’r casgliad yn gyffredinol os bydd aelod o Dîm Llyfrgell y Celfyddydau a’r Dyniaethau gyda chi.
I chwilio drwy iFind – cwblhewch chwiliad ac yna cyfyngu’ch canlyniadau i eitemau yng Nghasgliad Milne drwy ddefnyddio’r golofn Manylu ar fy Nghanlyniadau ar ochr chwith y dudalen (cliciwch ar ‘LIC – Milne Collection – Locked Store’ o dan Location). Gwnewch restr o’r teitlau a’r rhifau galw ac yna gofyn wrth y Ddesg Gwybodaeth i gael gweld yr eitemau – gall staff eu casglu ar eich rhan am 11am neu 3pm yn ddyddiol yn ystod yr wythnos.
I weld y casgliad, cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad yn:
Os ydych yn fyfyriwr traethawd hir neu’n ymchwilydd, efallai y byddwch yn gallu gwneud i’ch cerdyn weithio i gael mynediad at y casgliad (e-bostiwch ni i holi am hyn).