Mae eich llyfrgellwyr pwnc yma i’ch helpu. Gallwn eich cynorthwyo i ganfod gwybodaeth, defnyddio adnoddau’r llyfrgell a mynd i’r afael ag ymchwil a chyfeirio’n gywir. Gallwch hefyd gysylltu â ni gyda unrhyw ymholiad yn ymwneud â'r llyfrgell.
![]() |
![]() |
|
![]() |
Helo, ni yw Sean Barr, Bernie Williams, Carine Harston, a Sian Neilson ac rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth, i ddefnyddio cronfeydd data, cyfeirnodi ac unrhyw beth arall sy’n ymwneud â’r llyfrgell.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys fideos a thiwtorialau a gynlluniwyd gan eich llyfrgellwyr, a byddant yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar y llyfrgell, ar-lein ac ar y campws. Gallwch chi weithio eich ffordd drwy'r cwrs cyfan drwy glicio ar bob un o'r blychau isod. Pan fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs, bydd gennych chi wybodaeth ymarferol dda am sut i ddefnyddio'r Llyfrgell. Fel arall, gallwch chi ddewis a dethol pa bynciau rydych chi am eu hystyried o'r opsiynau isod. Ni waeth sut rydych chi'n dewis dysgu, gallwch chi bob amser fynd yn ôl a defnyddio'r cwrs hwn pryd bynnag y bydd angen cwrs gloywi arnoch.
Mae ProQuest One Literature yn cynnwys 3 miliwn o ddyfyniadau llenyddiaeth o filoedd o gyfnodolion, monograffau, traethodau hir, a mwy na 500,000 o weithiau cynradd - gan gynnwys testunau prin ac aneglur, fersiynau lluosog, a ffynonellau anhraddodiadol fel comics, perfformiadau theatr, a darlleniadau awduron.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Mae Project Muse yn rhoi testun llawn o flynyddoedd diweddar o tua 150 o gylchgronau o ansawdd uchel a adolygwyd gan gymheiriaid yn y Dyniaethau. Mae cyfran uchel iawn yn ymwneud â llenyddiaeth. Mae hefyd yn rhoi mynediad rhwydd i gannoedd o eLyfrau.
Mae MLA International Bibliography yn rhoi manylion y rhan fwyaf o erthyglau mewn cyfnodolion a llyfrau ar ieithoedd modern a'u llenyddiaeth (gan gynnwys Saesneg) o'r 1920au hyd y presennol. Mae hefyd yn cynnwys llawer o erthyglau mewn cyfnodolion a llyfrau am ieithyddiaeth, llên gwerin a ffilmiau. Nid yw'n cynnwys adolygiadau o lyfrau. Mae'n rhan o Wasanaeth Cronfa Ddata Proquest ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau.
Hwn yw'r prif lyfryddiaeth ryngddisgyblaethol ar gyfer y Canol Oesoedd (c.400-1500). Mae'n cynnwys manylion dros 300,000 o erthyglau a gyhoeddwyd ers 1967 mewn cyfnodolion, trafodion cynadleddau, casgliadau o draethodau, Festschriften a chatalogau arddangosfeydd. Mae'n cynnwys pob agwedd ar astudiaethau canoloesol.
Mae Archif The Times yn cynnwys papur newydd The Times yn ei gyfanrwydd, o'i ddechrau ym 1785 hyd at 2019, gan gynnwys erthyglau, ffotograffau, llythyron a hysbysebion.
Mae’n cynnwys y testun llawn o ail argraffiad o’r ugain cyfrol ynghyd â’r Gyfrol Newydd sydd ar waith. Bob tri mis cyhoeddir gwaith newydd a diwygiedig o raglen ddiwygio OED a gyhoeddir fel rhan o’r Argraffiad Newydd cynyddol. Mae llawer iawn o chwiliadau ar gael: mae’n hawdd, er enghraifft, chwilio drwy’r 2,400,000 o ddyfyniadau.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.