Skip to Main Content

Amrywio ein casgliadau

This page is also available in English

Pam ddylwn i amrywio fy rhestr ddarllen?

Mae amrywio'r cwricwlwm a'r rhestrau darllen yn cyfeirio at y broses o ehangu cynnwys addysgol i fod yn fwy cynhwysol a chroestoriadol. Gallai amrywiaeth olygu cynnwys mwy am bobl sydd wedi’u hymyleiddio yn eich cwricwlwm a gallai olygu cynnwys mwy gan ysgolheigion sydd wedi’u hymyleiddio yn eich rhestrau darllen. Nid dim ond cyflawni cwotâu neu ddilyn rheolau yw'r nod, ond meithrin amgylchedd dysgu lle mae gwybyddwyr a gwybodaeth sydd wedi'u heithrio o'r academi yn cael eu hailymgorffori. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu gwybodaeth a gynhyrchir gan bobl sydd wedi’u hymyleiddio o ganlyniad i'w dosbarth, cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, hunaniaeth rhywedd, hil, neu allu. Mae amrywio rhestrau darllen yn gam hanfodol tuag at greu amgylchedd academaidd mwy cynhwysol, arloesol a pherthnasol yn fyd-eang.

Mae'r alwad am y newid hwn, sy'n dod gan fyfyrwyr a chydweithwyr academaidd, yn tanlinellu ei bwysigrwydd a'r brys amdano mewn addysg gyfoes. Mae myfyrwyr ledled y DU wedi trefnu i ddweud wrthym fod y cwricwlwm presennol yn rhwystr gwirioneddol i'w llwyddiant addysgol. Rydym am greu amgylcheddau dysgu lle gallant weld bod pobl fel nhw yn gynhyrchwyr gwybodaeth awdurdodol. Mae cydweithwyr o etholaethau sydd wedi’u hymyleiddio ledled y DU wedi ysgrifennu am yr anawsterau maen nhw’n eu hwynebu yn y brifysgol pan fydd eu hymchwil yn cael ei thanwerthfawrogi, ei than-ddyfynnu neu ei diystyru. Gall amrywio rhestrau darllen fynd rywfaint o'r ffordd i greu diwylliannau addysgu lle mae'r gwaith ymchwil y mae pob un ohonom yn ei wneud yn cael ei gwerthfawrogi.     

Pontio'r bwlch cyrhaeddiad

Mae'r bwlch cyrhaeddiad mewn addysg uwch yn y DU yn cyfeirio at y gwahaniaethau mewn perfformiad academaidd a chanlyniadau rhwng gwahanol grwpiau o fyfyrwyr. Gwelir y gwahaniaethau hyn yn aml ar hyd llinellau statws economaidd-gymdeithasol, ethnigrwydd, rhywedd, a ffactorau demograffig eraill. Gall amrywio rhestrau darllen gael effaith gadarnhaol sylweddol ar y bwlch cyrhaeddiad mewn addysg trwy hyrwyddo cynwysoldeb, gwella ymgysylltiad, a darparu safbwyntiau ehangach.

Gall myfyrwyr o gefndiroedd wedi’u hymyleiddio gael trafferth gyda thestunau nad ydynt yn adlewyrchu eu profiadau. Trwy gynnwys awduron a safbwyntiau amrywiol, gall ysgolion helpu i bontio'r bwlch cyrhaeddiad drwy wneud dysgu'n fwy hygyrch ac yn fwy perthnasol i'r myfyrwyr hyn. Hefyd, pan fydd myfyrwyr yn gweld awduron llwyddiannus o gefndiroedd tebyg, gall eu hysbrydoli i gyflawni eu nodau academaidd a phersonol eu hunain. Gall cynrychiolaeth fod yn gymhelliant pwerus ar gyfer cyflawniad academaidd.

Gall amrywio rhestrau darllen chwarae rhan hollbwysig wrth fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad trwy wneud addysg yn fwy cynhwysol, deniadol a pherthnasol i bob myfyriwr. Mae'r dull hwn nid yn unig o fudd i ddysgwyr unigol, ond mae hefyd yn cyfrannu at nodau ehangach tegwch a chyfiawnder cymdeithasol mewn addysg.

Darllen pellach

Rhestr ddarllen ar bwnc amrywiaeth a dad-drefedigaethu gyda ffocws ar brifysgolion ac addysgu.