Mae gan ein Harchifau a'n Casgliadau Arbennig gyfoeth o ddeunyddiau o arwyddocâd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Dilynwch y dolenni isod i ganfod mwy am ein casgliadau.
Mae'r adran Syniadau Ymchwil yn Archifau Richard Burton yn amlygu Hanes Menywod, Hanes Anabledd, Hanes LHDT+ a phynciau eraill.
Mae gan adran Casgliad Ymchwil Llyfrgell Glowyr De Cymru ddolenni gwych i arddangosiadau ar-lein sy'n cynnwys 'Paul Robeson a Chymru' a 'Menywod Blaenllaw Cymru'.
Edrychwch ar y rhestrau darllen hyn ar gyfer detholiad o’r llyfrau ar gael yn llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe sy’n adlewyrchu ein cymuned amrywiol ac yn ein helpu i ddeall safbwyntiau gwahanol ar fywyd.