Skip to Main Content

Amrywio ein casgliadau

This page is also available in English

Cael myfyrwyr i gymryd rhan

Mae cael myfyrwyr i gymryd rhan yn y gwaith o amrywio rhestrau darllen yn ffordd o gydnabod eu gwybodaeth a'u profiadau gwerthfawr. Mae gwerthfawrogi cyfraniadau myfyrwyr yn y modd hwn yn annog cyfranogiad gweithredol a gall helpu i greu ymdeimlad o berchnogaeth a chyfrifoldeb dros eu haddysg. Pan fydd gan fyfyrwyr rôl wrth ddewis deunyddiau darllen, maent yn cymryd mwy o berchnogaeth o'u proses ddysgu. Mae'r ymreolaeth hon yn meithrin cymhelliant cynhenid ac yn eu hannog i ddilyn eu diddordebau deallusol.

Mae annog myfyrwyr i adnabod adnoddau darllen ychwanegol yn ffordd o'u helpu i ddatblygu sgiliau ymchwil a meddwl yn feirniadol. Mae'r arfer hwn yn gwella eu gallu i ddarganfod, gwerthuso a dewis gwybodaeth berthnasol o amrywiaeth eang o ffynonellau. Rhaid i fyfyrwyr ddysgu gwahaniaethu rhwng ffynonellau credadwy ac anghredadwy. Mae hyn yn cynnwys asesu dibynadwyedd, dilysrwydd a gogwydd gwahanol destunau, sy'n sgil ymchwil sylfaenol. Mae myfyrwyr yn dysgu dadansoddi gwybodaeth yn ddwfn, gwerthfawrogi safbwyntiau lluosog, ac yn ymgysylltu'n ystyriol â materion cymhleth. Mae'r dull cyfannol hwn o ddysgu yn eu paratoi ar gyfer llwyddiant academaidd a chyfranogiad meddylgar, gwybodus yn y byd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Trafodaeth ar y rhestr ddarllen ac awgrymiadau

Un o'r pethau hawsaf y gellir ei wneud i gael myfyrwyr i gymryd rhan mewn amrywio rhestrau darllen yw eu hannog i ymgysylltu â'ch rhestr ddarllen gyfredol. Gwahoddwch adborth myfyrwyr ar yr adnoddau sydd gennych ar eich rhestr ddarllen. Rhannwch y gwaith rydych chi'n ei wneud â’ch myfyrwyr. Gellid gwneud hyn drwy gynnwys datganiad yn y rhestr ddarllen neu lawlyfr y modiwl neu sôn amdano mewn darlith neu seminar.

Y cam nesaf yw caniatáu i fyfyrwyr awgrymu darlleniadau ychwanegol. Gallai'r adnoddau a argymhellir gan fyfyrwyr gael eu hymgorffori yn eich rhestr ddarllen bresennol neu eu rhannu fel rhestr atodol. Efallai y bydd myfyrwyr angen cymorth ychwanegol i wneud hyn. Ystyriwch wahodd y llyfrgell i ddarparu gweithdy ar ddefnyddio cronfeydd data ymchwil, gwerthuso ffynonellau, ac arferion dyfynnu.

Ymgorffori mewn addysgu

Gellir ymgorffori gwaith ar amrywio rhestrau darllen ac ehangu arnynt wrth addysgu. Dyma enghreifftiau o weithgareddau neu asesiadau y gellid eu defnyddio mewn modiwlau.

Trafodaethau Beirniadol: Gall trafodaethau wedi'u hwyluso am y darlleniadau helpu myfyrwyr i fynegi eu meddyliau ac ymgysylltu â safbwyntiau gwahanol, gan wella eu sgiliau meddwl beirniadol ymhellach.

Prosiectau Ymchwil: Gosod prosiectau lle mae myfyrwyr yn adnabod ac yn cyflwyno gweithiau llai adnabyddus gan awduron amrywiol.

Dyddlyfrau Ymchwil: Annog myfyrwyr i gadw dyddlyfr ymchwil lle maent yn dogfennu eu strategaethau chwilio, canfyddiadau a myfyrdodau ar y broses ymchwil.

Llyfryddiaethau gyda Nodiadau: Cael y myfyrwyr i lunio llyfryddiaethau gyda nodiadau ar themâu penodol sy'n ymwneud ag amrywiaeth.

Dadansoddiad Cymharol: Cael y myfyrwyr i gymharu a gwrthgyferbynnu gwahanol destunau i ddeall sut mae cyd-destun, cefndir a phersbectif yn dylanwadu ar ddehongliad.

Ysgrifennu Myfyriol: Gosod traethodau myfyriol lle mae myfyrwyr yn dadansoddi sut mae darlleniadau amrywiol wedi dylanwadu ar eu dealltwriaeth o'r pwnc.

Siaradwyr Gwadd: Dewch â darlithwyr gwadd o wahanol gefndiroedd i drafod gwahanol agweddau ar y deunyddiau darllen.

Trafodaethau Panel: Trefnu paneli gydag arbenigwyr a all ddarparu safbwyntiau gwahanol ar ddarlleniadau a phynciau’r cwrs.