Gall darllen llyfrau eich helpu i ddysgu am bobl, diwylliannau a chymunedau eraill. Rydym yn gweithio i amrywio casgliad y llyfrgell i gynrychioli cymuned ein prifysgol a deall ein gilydd yn well. Ond beth pe bai eich llyfr yn gallu siarad yn ôl? Beth pe gallech ofyn cwestiynau a chael atebion am brofiadau rhywun arall? Dyna ddiben Llyfrau Byw. Mae Llyfr Byw yn rhywun sydd â stori i'w hadrodd. Gallai hyn fod oherwydd profiad y mae wedi ei gael neu oherwydd agwedd ar ei hunaniaeth. Yn aml, bydd Llyfrau Byw yn dod o gymunedau ar yr ymylon. Serch hynny, gall Llyfr Byw fod yn unrhyw un sydd â safbwynt i'w rannu. Mae Llyfrau Byw yn cael eu 'benthyg' am sgwrs bersonol â rhywun sydd eisiau dysgu mwy amdanynt.
Mae'r Llyfrgell wedi helpu i drefnu digwyddiadau Llyfrau Byw gwerthfawr ym Mhrifysgol Abertawe. Ar y dudalen hon, ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hynny. Rydym hefyd wedi cynnwys adnoddau a all helpu os hoffech chi drefnu digwyddiad Llyfrau Byw eich hun.
Mae Pecyn Cymorth Llyfrau Byw wedi'i ysgrifennu gan gydweithwyr o'r Llyfrgell, Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (SALT), ynghyd â Ffydd@BywydCampws a Cymuned@BywydCampws. Mae'n trafod eu profiad o ddigwyddiadau Llyfrau Byw ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd yn helpu unrhyw un a hoffai drefnu digwyddiad tebyg.
Mae adroddiadau Sway am ddigwyddiadau Llyfrau Byw sydd wedi cynnwys y Llyfrgell ar gael ar y dudalen hon. Mae'r adroddiadau’n cynnwys adborth gan gyfranogwyr a threfnwyr. Mae'r adroddiadau ar gael hefyd i'w darllen fel dogfennau Word, drwy ddilyn y ddolen isod.
Llyfrau Byw, Mawrth 2023
Llyfrau Byw, Mawrth 2022
A Brave New World, Tachwedd 2020
Os ydych wedi clywed am y Llyfrau Byw ond nid ydych yn siŵr amdanynt, yna bydd y podlediad hwn yn y gyfres Pinch of SALT yn berffaith i chi! Mae Llyfrau Byw a threfnwyr yn siarad am eu cyfranogiad mewn digwyddiadau Llyfrau Byw ym Mhrifysgol Abertawe.
Gallwch ddarllen mwy am y Llyfrau Byw ar Flog Newyddion y Llyfrgell.