Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau’r llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i staff a myfyrwyr yn y brifysgol. Os oes angen deunydd hanfodol arnoch ar gyfer eich ymchwil ac ni chedwir ef yn llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, gallwn ei gael ar fenthyg neu gael copi ohono o lyfrgell arall i chi. Gall y Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau hefyd ddigideiddio cynnwys megis pennod o lyfr testun a’i gwneud yn hygyrch i fyfyrwyr drwy eu rhestr ddarllen.

Isod, mae aelod o’r tîm Sofie O’Shea yn nodi’r broses y bu hi drwyddi i wella hygyrchedd adnoddau cyhoeddus y Swyddfa Cyflenwi Dogfennau ar gyfer y Gwasanaeth Benthyg Rhwng Llyfrgelloedd a Gwasanaeth Sganio’r Llyfrgell. Roedd y broses hon yn angenrheidiol er mwyn diwallu anghenion ystod ehangach o anghenion defnyddwyr ac i wella cynhwysiant y gwasanaeth.

Sofie O’Shea

Cyn archwilio ein hadnoddau cyhoeddus, edrychais ar ganllawiau arfer gorau’r brifysgol ar wella hygyrchedd. Es i sesiwn hyfforddiant ardderchog y Rheolwr, Tina Webber ar y Ganolfan Trawsgrifio ar ‘Creu Dogfennau Hygyrch’ a gwneud defnydd da o ganllaw Academi Cynwysoldeb a Llwyddiant Dysgwyr Abertawe (SAILS) ar Wneud Adnoddau’n Gynhwysol. Roedd yr adnoddau hyfforddi hyn yn glir ac yn ddefnyddiol, gan ddarparu cyngor syml ond hynod effeithiol.

Yn dilyn argymhellion, gwnes chwyddo’r testun i o leiaf maint 12 mewn ffont syml a chlir ac adolygu’r lliwiau a ddefnyddir i sicrhau bod cyferbyniad da rhwng y testun a’r cefndir. I wella’r natur ddarllendawy, gwnes symleiddio cynllun yr adnoddau, lleihau nifer y tablau ar ffurflenni ac alino’r testun i ochr chwith y dudalen.

I wella hygyrchedd y Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau a Chanllawiau Llyfrgell y Gwasanaeth Sganio Llyfrgell, gweithiais gyda’m cydweithiwr, James Broomhall, i wirio bod penawdau tudalennau gwe yn rhesymegol ac yn gyson ac ychwanegu disgrifiadau tagiau ALT i luniau. Cafodd hyperddolenni eu haddasu i ddangos mwy o ddisgrifiadau cynnwys ystyrlon – er enghraifft, dangos enw’r ddogfen yn hytrach na nodi ‘cliciwch yma’. Mae hyn yn ddefnyddiol i unrhyw un sy’n defnyddio meddalwedd darllen sgrîn.

Wrth edrych ar gynnwys, cafodd paragraffau mawr o destun eu lleihau i adrannau llai a phwyntiau bwled. Bydd hyn yn gwella pori drwy alluogi defnyddwyr i ddod o hyd i wybodaeth hanfodol yn haws ac yn gyflymach. Gwiriais gynnwys hefyd am grynoder a disodli termau technegol gydag iaith syml lle bynnag y bo’n bosib.

Ar y cyfan, roedd hi’n syndod pa mor syml oedd hi i ddechrau gwneud newidiadau a fydd yn dileu rhwystrau i’n gwasanaeth. Er rydym yn cydnabod nad yw hi’n bosib cael un ymagwedd sy’n diwallu anghenion pawb, mae’n bwysig ceisio diwallu anghenion cynifer o unigolion â phosib. Fel a welir uchod, nid oes angen i gynwysoldeb fod yn heriol – mewn llawer o achosion, mae gwneud newidiadau bach i’r ffordd rydym yn gweithio’n ddigon i’n harwain ar hyd llwybr mwy cynhwysol sy’n fwy hwyslus i’r defnyddiwr.