Mae’n gyffrous helpu myfyrwyr wyneb yn wyneb wrth hefyd allu cysylltu â thi ar-lein ble bynnag y byddi di ar y pryd.
Gallet ti fod yn unigolyn sydd ag ymholiad, neu’n grŵp o gyd-fyfyrwyr sydd â chwestiynau tebyg, gall sesiynau dwy awr gyda’n swyddogion y llyfrgell dy helpu i:
- Chwilio llenyddiaeth
- Gwerthuso ffynonellau
- Dod o hyd i wybodaeth arbenigol
- Cyfeirnodi
- A mwy
Os nad oes angen apwyntiad llawn ar gyfer rhai ymholiadau, mae hyn yn rhoi cyfle i ti gael ateb cyflym, does dim angen cadw lle.
Ein Horiau Swyddfa fydd:
- Bob dydd Llun 10.00-12.00, Ystafell Gyfweld 4, Llyfrgell y Bae a thrwy Zoom
- Bob dydd Iau 10.00-12.00, Ystafell Gyfweld 1, Llyfrgell Parc Singleton a thrwy Zoom
Bydd y ddolen Zoom i’r sesiynau hyn yn aros yr un fath, felly os hoffet ti ymuno â sesiwn, cysyllta â ni yma. Fel arall, mae manylion y cyfarfod isod:
ID Cyfarfod: 924 1150 1296
Cyfrinair: 084479
Pan fyddi di’n ymuno â’r alwad, efallai byddi di’n mynd i ystafell aros tra byddwn ni’n helpu myfyriwr arall. Os bydd hynny’n digwydd, diolch i ti am dy amynedd.