Library News. Newyddion y Llyfrgell

Showing 15 of 15 Results

10/29/2024
profile-icon Elen Davies
No Subjects

Dewch i #ToolTimeTuesday yn y Llyfrgell - dysgwch am declyn defnyddiol i wella eich sgiliau wrth chwilio am wybodaeth o ansawdd uchel. Galwch draw i’r sesiwn galw heibio yn Llyfrgell Parc Singleton (Dydd Mawrth 11-1) neu dewch i’r sesiwn 15 munud ar-lein – archebwch drwy Raglen Sgiliau’r Llyfrgell i weld beth sydd ar gael.

Pryd: Dydd Mawrth 29ain Hydref 

Pa offeryn: Offer deallusrwydd artiffisial 

Mae Cynorthwy-ydd Ymchwil iFind yn offeryn gwych sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif Llyfrgell sy'n crynhoi eich cwestiwn ymchwil ac yn awgrymu 5 adnodd i chi eu darllen. Mae Co-pilot ar gael trwy eich cyfrif Microsoft 365 ac mae'n rhoi gwybodaeth gefndir i chi yn ogystal â'ch helpu i ddylunio strategaethau chwilio.

Galwch draw ddydd Mawrth a byddwn yn dangos manteision defnyddio'r offer hyn i chi.

This post has no comments.
10/29/2024
profile-icon Elen Davies
No Subjects

Come along to #ToolTimeTuesday in the Library - learn about a useful tool to improve your skills at searching for high quality information. Drop in to the Library Pop Up at Singleton Park (Tuesdays 11-1) or come to the online 15 minute session - book via the Library Skills Programme and see what's on offer every week.

When: Tuesday 29th October

Which tool: AI Tools

iFind Research Assistant is a great tool linked to your Library account that summarises your research question and suggests 5 resources for you to read. Co-pilot is available via your Microsoft 365 account and provides you with background information as well as helping you design search strategies.

Pop along on Tuesday and we'll show you the benefits of using these tools.

This post has no comments.
10/25/2024
profile-icon Elen Davies
No Subjects

Aimed at final year students and researchers, these 4 sessions are designed to build up your systematic search strategy.  

We will cover:

  • Conducting a scoping search
  • Using Subject Headings to create a robust search
  • EndNote to store and manage your search results
  • PRISMA flowcharts

    When: Monday 28th-Thursday 31st October

    Who: Final year students and researchers

    Where: Online and on Campus (Singleton)

    To register please visit our Library Skills Programme pages.

__________________________________________________________________

Wedi'u hanelu at fyfyrwyr blwyddyn olaf ac ymchwilwyr, mae'r 4 sesiwn hyn wedi'u cynllunio i adeiladu eich strategaeth chwilio systematig. Byddwn yn cwmpasu: 

  • Cynnal chwiliad cwmpasu 

  • Defnyddio Penawdau Pwnc i greu chwiliad gryf 

  • EndNote i storio a rheoli eich canlyniadau chwilio 

  • Siartiau llif PRISMA 

    Pryd: Dydd Llun 28ain-Iau 31ain Hydref 

    Pwy: Myfyrwyr ac ymchwilwyr y flwyddyn olaf 

    Ble: Ar-lein ac ar y Campws (Singleton)

    I gofrestru ewch i'n tudalennau Rhaglen Sgiliau Llyfrgell.
     

This post has no comments.
10/10/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

 

 

It’s our second post for Green Libraries Week. We’re exploring how the library can support sustainability and green initiatives. 

Here at Swansea University we take our responsibilities towards the planet very seriously. With two campuses very close to sea level, we are more aware than most of the importance on reducing our carbon footprint. 

This is why at the library we are taking early action to try to help the university achieve its net zero targets. The earlier the action, the more carbon that is saved. 

We talked on Tuesday about our Gold Award winning efforts last year, but this year we’re going even further, and this means ensuring that our buildings operate at the maximum efficiency for reducing carbon and ensuring a liveable planet for our students. The early effects of climate change are here already, and at Swansea we intend to go above and beyond to ensure that the effects are as low as possible. 

We now have a project underway in our Bay Library that is designed to reduce enough carbon usage at night that would have previously used the same amount sequestered by 2 fully grown mature trees over a 40 year life span. 

The project means that the study spaces in the North wing of the Bay Library close between midnight and 6 AM.  

This means both the student study rooms and the PC lab in that area lock between those times.  

Not only that but we are able to remotely power down all the PCs and turn off the air conditioning which has a huge impact on saving carbon emissions.  

The PCs will give you a message 5 minutes before shut down, giving students time to save their work before the shut down. 

If successful, we intend to look at other areas where we can make similar savings overnight in all our libraries and use state of the art monitoring technology to ensure that we don’t close off too many sections. There will always be enough spaces for you to study, especially at exam time and when there are essay deadlines approaching!! 

We are always happy to hear your suggestions for saving energy and resources, allowing us to make bigger strides towards achieving net zero. If you have any ideas, please feel free to get in touch with me at c.m.j.evans@swansea.ac.uk and hopefully together we can make the changes needed to ensure our biodiverse planet thrives in the future. 

This post has no comments.
10/10/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

 

 

Dyma ein hail bostiad ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd. Rydym yn archwilio sut gall y llyfrgell gefnogi mentrau cynaliadwyedd a gwyrdd. 

Yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau tuag at y blaned o ddifrif. Mae gennym ddau gampws yn agos iawn at lefel y môr, felly rydym yn fwy ymwybodol na'r rhan fwyaf o bobl o bwysigrwydd lleihau ein hôl troed carbon. 

Dyna pam rydyn ni, yn y llyfrgell, yn cymryd camau cynnar i geisio helpu'r brifysgol i gyflawni ei thargedau sero net. Drwy weithredu'n gynharach, byddwn yn arbed mwy o garbon. 

Buom yn siarad ddydd Mawrth am ein hymdrechion y llynedd a arweiniodd at ennill Gwobr Aur, ond eleni rydyn ni'n mynd hyd yn oed ymhellach, ac mae hyn yn golygu sicrhau bod ein hadeiladau'n gweithredu mor effeithlon â phosibl er mwyn lleihau carbon a sicrhau planed gwerth byw ynddi i'n myfyrwyr. Mae effeithiau cynnar newid yn yr hinsawdd eisoes wedi ein cyrraedd, ac yn Abertawe rydyn ni'n bwriadu rhagori ar ddisgwyliadau er mwyn sicrhau bod yr effeithiau mor isel â phosibl. 

Bellach mae gennym brosiect ar y gweill yn Llyfrgell y Bae â'r nod o leihau digon o ddefnydd carbon yn y nos a fyddai gynt wedi defnyddio'r un swm o garbon wedi'i atafaelu gan 2 goeden aeddfed sydd wedi tyfu'n llawn dros gyfnod o 40 mlynedd. 

Mae'r prosiect yn golygu bod y mannau astudio yn adain ogleddol Llyfrgell y Bae yn cau rhwng hanner nos a 6am.  

Mae hyn yn golygu y bydd ystafelloedd astudio'r myfyrwyr a'r labordy cyfrifiaduron yn yr ardal honno ar gau rhwng yr amseroedd hynny.  

Yn ogystal â hynny, gallwn ddiffodd yr holl gyfrifiaduron a'r aerdymheru o bell sy'n cael effaith enfawr ar arbed allyriadau carbon.  

Bydd y cyfrifiaduron yn rhoi neges i chi 5 munud cyn cau, gan roi amser i fyfyrwyr gadw eu gwaith cyn cau. 

Os byddwn ni'n llwyddiannus, rydyn ni'n bwriadu edrych ar feysydd eraill lle gallwn wneud arbedion tebyg dros nos yn ein holl lyfrgelloedd a defnyddio technoleg fonitro o'r radd flaenaf i sicrhau nad ydyn ni'n cau gormod o ardaloedd. Bydd digon o leoedd i chi astudio ynddynt bob amser, yn enwedig adeg arholiadau a phan fydd dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno traethodau'n agosáu!! 

Rydyn ni bob amser yn hapus i glywed eich awgrymiadau ar gyfer arbed ynni ac adnoddau, sy'n ein galluogi i gymryd camau mwy tuag at gyflawni sero net. Os oes gennych syniadau, mae croeso i chi gysylltu â mi yn c.m.j.evans@abertawe.ac.uk a gobeithio gyda'n gilydd y gallwn wneud y newidiadau y mae eu hangen i sicrhau bod ein planed fioamrywiol yn ffynnu yn y dyfodol. 

This post has no comments.
10/08/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

 

 

It’s Green Libraries Week, a time to focus on the climate and sustainability when we celebrate libraries. This week we’ll be sharing some of the ways Swansea University Libraries are making some changes for the better and encouraging you to do the same. 

Our Libraries Services Team here at Swansea won a prestigious Gold Award this year in the SOS-UK Green Impact Awards for our pioneering work in trying to reduce our carbon footprint as well as helping you to reduce yours, promote biodiversity and fair trade, and reduce our water usage and consumption of single use items. 

The work has included some larger projects as well as lots of little ones. Watch out for Thursday’s post for more details on one of our bigger projects!!  

There are 64 different tasks for teams to complete to work towards winning an award, and here at the library, we successfully completed well over 50.  

Energy Saving 

Our libraries now have motion sensor lighting, so the lights will go out if rooms are empty or if the people in a space haven’t moved for some time. This doesn’t mean the areas are closed, the lights will come on when you enter the space. Sometimes there is a little delay, but if you show off your dancing skills the lights will come on quicker. 

This saves a massive amount of carbon each year. Equivalent to roughly the carbon one large broad leaf deciduous tree sequesters over its lifetime every three months in just lighting alone, and that’s with our new energy efficient LED lights too!! 

Water 

We offer free refills for reusable water bottle at our student kitchens in both libraries so it saves you money buying water. It’s a great way to access free water and reduces the need for single use plastic bottles, so is great for the environment. 

On the subject of water, if you see any leaks or if the taps are running too long these can be reported directly on our Estates Helpdesk available online in MyApps. The sooner leaks are reported, the more water we can save!! 

Hints and tips 

Please also check the digi-screens for some great carbon saving tips which can also save you money. Some of the best tips involve allowing your battery to last longer on both phones and laptops. 

Switching from using your phone data to using the Eduroam wifi is a great way to save battery power. Eduroam is also much faster and more reliable than the visitors network which doesn’t support Canvas or student printing properly. It won’t take long to set up for most devices. Register it first and then connect with your student email address and password as the username and password. The IT team in Fulton House will be happy to help you if needed. 

Turning down the brightness or switching to dark mode (this isn’t applicable to everyone as we all have different accessibility needs) is another great way to save battery power, as it takes much less power.   

Biodiversity on Campus 

There’s plenty of ways to see local wildlife on campus. On Bay there’s living walls, green roofs, and even a nature reserve (Sight of Special Scientific Interest) next door. While on Singlton Campus there are vegetable growing areas, bee hives and lots of bug hotels dotted around, plus we have Singleton Park right next door. The meadow behind the library is full of wildflowers designed for local pollinators to enjoy and the boggy section is left to grow to support local wildlife. If you’re really lucky you might even spot an otter on Singleton campus. 

An otter in the water 

One word of warning, watch out for the gulls and the geese. Don’t feed them as they will steal your sandwiches if you’re not careful!! The gulls in particular are master criminals. 

Watch out for regular opportunities to see the natural life on campus with our sustainability team. They have everything from building bug hotels to going on bat walks around campus. 

Volunteering 

The university and student union holds regular volunteering days, but our Library Green Impact offering for next year will also be offering chances to help out with plenty of opportunities for things like wildflower planting, bulb planting, litter picks, and others. 

Please feel free to contact me at c.m.j.evans@swansea.ac.uk for more info on what is coming up and when. We can always use your help when it comes to doing things better and greener here at Swansea. With our two campuses so close to sea level, we really understand the importance of reducing emissions early. 

Enjoy your studies here at Swansea, we’re looking forward to meeting you over the next few years!!  

This post has no comments.
10/08/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

 

 

Mae'n Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd felly mae'n bryd i ni ganolbwyntio ar yr hinsawdd a chynaliadwyedd pan fyddwn ni'n dathlu llyfrgelloedd. Yr wythnos hon, byddwn ni'n rhannu rhai o'r ffyrdd mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe'n gwneud newidiadau er gwell ac yn eich annog chi i wneud yr un peth. 

Enillodd ein Tîm Gwasanaethau Llyfrgell yma yn Abertawe Wobr Aur uchel ei bri eleni yng Ngwobrau Effaith Werdd SOS-UK am ein gwaith arloesol wrth geisio lleihau ein hôl troed carbon yn ogystal â'ch helpu i leihau eich ôl troed carbon chi, hyrwyddo bioamrywiaeth a masnach deg, a lleihau ein defnydd o ddŵr a'n defnydd o eitemau untro. 

Mae'r gwaith wedi cynnwys prosiectau mwy yn ogystal â llawer o brosiectau bach. Cadwch lygad am bostiad dydd Iau am ragor o fanylion am un o'n prosiectau mwy!!  

Mae 64 o dasgau gwahanol i dimau eu cwblhau i weithio tuag at ennill gwobr, ac yma yn y llyfrgell, llwyddom i gwblhau mwy na 50 ohonynt.  

Arbed Ynni 

Erbyn hyn mae gan ein llyfrgelloedd oleuadau sy'n synhwyro symudiadau, felly bydd y goleuadau'n diffodd os yw'r ystafelloedd yn wag neu os nad yw'r bobl mewn gofod wedi symud ers peth amser. Nid yw hyn yn golygu bod yr ardaloedd ar gau, bydd y goleuadau'n tanio pan fyddwch chi'n mynd i mewn i'r gofod. Weithiau bydd ychydig o oedi, ond os dechreuwch ddawnsio bydd y goleuadau'n tanio'n gyflymach. 

Mae hyn yn arbed llawer iawn o garbon bob blwyddyn. Bob tri mis mae ein goleuadau'n arbed swm sy'n cyfateb yn fras i'r carbon y mae un goeden gollddail fawr â dail llydan yn ei atafaelu yn ystod ei hoes, gan ddefnyddio ein goleuadau LED ynni effeithlon newydd hefyd!! 

Dŵr 

Yn ein ceginau myfyrwyr yn y ddwy lyfrgell gallwch ail-lenwi eich potel ddŵr am ddim felly mae'n arbed arian o ran prynu dŵr. Mae'n ffordd wych o gael dŵr am ddim ac mae'n lleihau'r angen am boteli plastig untro, felly mae'n wych i'r amgylchedd. 

O ran dŵr, os ydych chi'n gweld unrhyw ollyngiadau neu os yw'r tapiau'n rhedeg yn rhy hir, gellir adrodd am hyn yn uniongyrchol i'n Desg Gymorth Ystadau sydd ar gael ar-lein yn MyApps. Gorau po gyntaf y byddwn yn clywed am ollyngiadau, er mwyn i ni arbed mwy o ddŵr!! 

Awgrymiadau Euraidd 

Hefyd, edrychwch ar y sgriniau digidol am awgrymiadau gwych am arbed carbon a all hefyd arbed arian i chi. Mae rhai o'r awgrymiadau gorau yn cynnwys galluogi eich batri i bara'n hirach ar ffonau a gliniaduron. 

Mae newid o ddefnyddio data eich ffôn i ddefnyddio'r wifi Eduroam yn ffordd wych o arbed pŵer batri. Mae eduroam hefyd yn llawer cyflymach ac yn fwy dibynadwy na'r rhwydwaith ymwelwyr nad yw'n cefnogi Canvas nac argraffu myfyrwyr yn iawn. Ni fydd yn cymryd llawer o amser i'w sefydlu ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau. Cofrestrwch y ddyfais yn gyntaf ac yna cysylltwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost myfyriwr a'ch cyfrinair fel yr enw defnyddiwr a'r cyfrinair. Bydd y tîm TG yn Nhŷ Fulton yn hapus i'ch helpu os bydd angen. 

Mae lleihau'r disgleirdeb neu newid i fodd tywyll (nid yw hyn yn berthnasol i bawb gan fod gan bob un ohonom anghenion hygyrchedd gwahanol) yn ffordd wych arall o arbed pŵer batri, gan fod hyn yn defnyddio llawer llai o bŵer.   

Bioamrywiaeth ar y Campws 

Mae digon o ffyrdd o weld bywyd gwyllt lleol ar y campws. Ar Gampws y Bae mae waliau byw, toeau gwyrdd, a hyd yn oed gwarchodfa natur (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) drws nesaf. Ac ar Gampws Singleton mae ardaloedd tyfu llysiau, cychod gwenyn a llawer o westai bygiau, ac mae gennym Barc Singleton drws nesaf. Mae'r ddôl y tu ôl i'r llyfrgell yn llawn blodau gwyllt sydd wedi'u cynllunio i bryfed peillio lleol eu mwynhau ac mae'r rhan gorsiog wedi'i gadael i dyfu i gefnogi bywyd gwyllt lleol. Os ydych chi'n lwcus iawn, efallai y byddwch hyd yn oed yn gweld dyfrgi ar gampws Singleton. 

An otter in the water 

Un gair o rybudd, gofalwch rhag y gwylanod a'r gwyddau. Peidiwch â rhoi bwyd iddynt gan y byddant yn dwyn eich brechdanau os nad ydych chi'n ofalus!! Mae'r gwylanod yn arbennig yn archdroseddwyr. 

Cadwch lygad am gyfleoedd rheolaidd i weld bywyd naturiol ar y campws gyda'n tîm cynaliadwyedd. Mae ganddyn nhw bopeth o adeiladu gwestai bygiau i fynd ar deithiau cerdded i weld ystlumod o gwmpas y campws. 

Gwirfoddoli 

Mae'r brifysgol ac undeb y myfyrwyr yn cynnal diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd, ond bydd gweithgarwch Effaith Werdd y Llyfrgell am y flwyddyn nesaf hefyd yn cynnig cyfleoedd i helpu gyda digon o gyfleoedd ar gyfer pethau fel plannu blodau gwyllt, plannu bylbiau, casglu sbwriel, ac eraill. 

Mae pob croeso i chi gysylltu â mi yn c.m.j.evans@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth am yr hyn sydd ar ddod, a phryd. Gallwn bob amser elwa o'ch help er mwyn gwneud pethau'n well ac yn wyrddach yma yn Abertawe. Gan fod ein dau gampws mor agos at lefel y môr, rydym wir yn deall pwysigrwydd lleihau allyriadau yn gynnar. 

Mwynhewch eich astudiaethau yma yn Abertawe, rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi dros y blynyddoedd nesaf!!  

This post has no comments.
10/04/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

Welcome to Day 5 of 5 Days of Library! Today we’re going to let you know about the support available to you from the library, including the staff who are here to help. 

MyUni Library Team 

MyUni Library staff are there to help you in our buildings and using library facilities. They can help if you have questions about your library account too. Here are a few of the things they can assist you with: 

  • Books and other physical library materials   

  • Electronic library resources  

  • Inter Library Loans  

  • Library printing, copying and scanning services   

  • Library loan laptops  

  • Booking a library study space  

  • ID Card issue and replacement  

  • Bookable library tours 

 

You’ll see members of the team at the MyUni Library Desk at Bay Library and Singleton Park Library during staffed opening hours.  You can also contact them by email, chat, phone, and the online Library Help Desk. See the Contact the Library page for details. 

Library subject support 

Once you’ve settled into your course you might find you need some help with finding journal articles and specialist information for your assignments. Perhaps you want to make sure you can critically evaluate sources for quality and reference everything properly. Your subject librarians can help! Here are some of the best ways to improve your skills: 

  • Look at our Library Guides, your gateway to subject specialist resources and information. Find your subject’s Library Guide to see where you can browse for books on your subject, tips on searching effectively and contact details for your subject librarians. 

  • Enrol on MyUni Library Essentials, an online course of bitesize tutorials, videos and information to help you get the most out of the library and our services. There are four sections – Using the Library, Researching, Referencing and Getting Help. Using the Library is particularly good for new students, but you can do the course as it suits you – work through all the sections or just the ones you’d like extra help with. 

  • Browse Library Skills classes and register for as many as you like. Subject librarians offer classes throughout the year, and they are open to all students. Classes cover a range of skills and there is a rolling induction programme of the most popular topics – Library Induction, Introduction to iFind and Ebooks, Search Tips, An Introduction to Databases, Evaluating Sources and Referencing with APA7. They’re running every month this term, so you’ve got plenty of opportunities to upskill!  

This post has no comments.
10/04/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

Croeso i Ddiwrnod 5 o 5 Niwrnod o'r Llyfrgell! Heddiw, rydyn ni'n mynd i roi gwybod i chi am y cymorth sydd ar gael i chi yn y llyfrgell, gan gynnwys y staff sydd yma i helpu. 

Tîm Llyfrgelloedd MyUni 

Mae staff Llyfrgelloedd MyUni yno i'ch helpu yn ein hadeiladau ac wrth ddefnyddio cyfleusterau'r llyfrgell. Gallant helpu os oes gennych gwestiynau am eich cyfrif llyfrgell hefyd. Dyma rai o'r pethau y gallant eich helpu gyda nhw: 

  • Llyfrau a deunyddiau  eraill y llyfrgell   

  • Adnodau electronig y llyfrgell  

  • Benthyciadau rhwng llyfrgelloedd  

  • Gwasanaethau argraffu, copïo a sganio'r llyfrgell   

  • Benthyca gliniaduron o'r llyfrgell  

  • Cadw lle astudio yn y llyfrgell  

  • Dyroddi ac amnewid cardiau adnabod  

  • Trefnu teithiau o'r llyfrgell 

  

Byddwch yn gweld aelodau o'r tîm wrth Ddesg Llyfrgelloedd MyUni yn Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton yn ystod oriau agor â staffGallwch hefyd gysylltu â nhw drwy e-bost, sgwrs fyw, ffôn, a Desg Gymorth ar-lein y Llyfrgell. Gweler y dudalen Cysylltu â'r Llyfrgell am fanylion. 

Cymorth Pwnc gan y Llyfrgell 

Ar ôl i chi ymsefydlu yn eich cwrs efallai bydd angen rhywfaint o help arnoch i ddod o hyd i erthyglau mewn cyfnodolion a gwybodaeth arbenigol ar gyfer eich aseiniadau. Efallai byddwch am wneud yn siŵr y gallwch werthuso ffynonellau yn feirniadol ar gyfer ansawdd a chyfeirnodi popeth yn iawn. Gall eich llyfrgellwyr pwnc helpu! Dyma rai o'r ffyrdd gorau o wella eich sgiliau: 

  • Edrychwch ar ein Canllawiau'r Llyfrgell, eich porth i adnoddau a gwybodaeth arbenigol ar gyfer eich pwnc. Dewch o hyd i'r Canllaw Llyfrgell ar gyfer eich pwnc i weld ble gallwch bori am lyfrau ar eich pwnc, awgrymiadau ar chwilio'n effeithiol a manylion cyswllt ar gyfer eich llyfrgellwyr pwnc. 

  • Cofrestrwch ar Hanfodion Llyfrgell MyUni, cwrs ar-lein o diwtorialau, fideos a gwybodaeth cryno i'ch helpu i gael y gorau o'r llyfrgell a'n gwasanaethau. Mae pedair adranDefnyddio'r Llyfrgell, Ymchwilio, Cyfeirnodi a Ceisio Cymorth. Mae Defnyddio'r Llyfrgell yn arbennig o dda i fyfyrwyr newydd, ond gallwch wneud y cwrs fel y mae'n addas i chi – gan weithio drwy'r holl adrannau neu dim ond y rhai yr hoffech chi gael help ychwanegol gyda nhw. 

  • Porwch drwy ddosbarthiadau Sgiliau’r Llyfrgell a chofrestru ar gyfer cynifer ag y dymunwch. Mae llyfrgellwyr pwnc yn cynnig dosbarthiadau drwy gydol y flwyddyn, ac maent ar agor i bob myfyriwr. Mae'r dosbarthiadau'n cwmpasu amrywiaeth o sgiliau ac mae rhaglen ymsefydlu dreigl sy'n cynnwys y pynciau mwyaf poblogaiddCyflwyniad i'r Llyfrgell, Cyflwyniad i iFind ac E-lyfrau, Awgrymiadau ar gyfer Chwilio, Cyflwyniad i Gronfeydd Data, Gwerthuso Ffynonellau a Chyfeirnodi ag APA7. Fe'u cynhelir bob mis y tymor hwn, felly mae gennych chi ddigon o gyfleoedd i wella eich sgiliau! 

This post has no comments.
10/03/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

 We encourage you to work hard and do your best while you’re at university, but it’s also important to take time to relax and have fun. Our campuses have a range of Student Spaces for study and socialising. We focused on the study spaces in the libraries on Day 3; today we’ll look at how we can support your wellbeing. 

Better Read – reading for pleasure and wellbeing  

Reading for pleasure is a proven form of stress relief, so taking time to read something other than your course texts can be good for your wellbeing. The Better Read page has links to more information on the benefits of reading and suggestions of books you can borrow from the library.  (Check back to Days 1and 2 for more information about borrowing from the library!) 

The Better Read page also has a link to the Wellbeing Collection. This is a collection of self-help books on a range of subjects such as stress management, sleep, eating disorders, the menopause and even some cookery books. The Wellbeing Collection is available to all students and staff. You can find the books in the Study Area on Level 1 West in Singleton Park Library and in the Wellbeing Corner near the group study pod in Bay Library. There are also e-books available for some titles. There’s good evidence that bibliotherapy – using books for self-help therapy – can be very effective, but please do reach out to the university’s Student Support Services if you’re struggling. 

Student kitchen 

Bay and Singleton Park libraries both have kitchen facilities for you to use. You can help yourself to hot water to make a cup of tea or maybe some noodles; there’s drinking water if you need to top up your bottle; and there are microwaves if you want to heat up some food (please don’t leave microwaves unattended or heat up anything metal!). We’re happy for you to eat cold food anywhere in the library, but if you’re eating a hot meal, please do this in the kitchen. Students in St David’s Park can find microwaves and boiling water in the common room so you can have something hot to eat and a cuppa too! 

This post has no comments.
10/03/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

Rydym yn dy annog i weithio'n galed a gwneud dy orau tra byddi di yn y brifysgol, ond mae hefyd yn bwysig cymryd amser i ymlacio a chael hwyl. Mae gan ein campysau amrywiaeth o fannau i fyfyrwyr astudio a chymdeithasu. Gwnaethon ni ganolbwyntio ar y mannau astudio yn y llyfrgelloedd ar Ddiwrnod 3; heddiw rydym yn edrych ar sut gallwn ni gefnogi dy les. 

Darllen yn Well – darllen er pleser a lles  

Mae wedi'i brofi bod darllen er pleser yn ffordd o leddfu straen, felly gall cymryd amser i ddarllen rhywbeth ar wahân i lyfrau testun eich cyrsiau fod yn dda i'ch lles. Mae gan y dudalen Darllen yn Well ddolenni i gael rhagor o wybodaeth am fanteision darllen ac awgrymiadau o lyfrau y gallwch chi eu benthyca o'r llyfrgell.   

Yn ogystal, mae gan y dudalen Darllen yn Well ddolen i'r Casgliad Lles. Dyma gasgliad o lyfrau hunangymorth ar amrywiaeth o bynciau megis rheoli straen, cysgu, anhwylderau bwyta, y menopos a hyd yn oed llyfrau coginio. Mae'r Casgliad Lles ar gael i bob myfyriwr ac aelod o staff. Gallwch ddod o hyd i'r llyfrau yn yr Ardal Astudio ar Lefel 1 - Gorllewin yn Llyfrgell Parc Singleton ac yn y Gornel Les gerllaw'r pod astudio grŵp yn Llyfrgell y Bae. Hefyd, mae fersiynau e-lyfr ar gael i rai ohonynt. Mae tystiolaeth dda y gall bibliotherapisef defnyddio llyfrau ar gyfer therapi hunangymorthfod yn effeithiol iawn, ond cysylltwch â Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr y brifysgol os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi. 

Cegin myfyrwyr 

Mae gan lyfrgelloedd Campws y Bae a Champws Parc Singleton gyfleusterau cegin i ti eu defnyddio. Gelli di helpu dy hun i ddŵr poeth i wneud paned neu nwdls; mae dŵr yfed os bydd angen i ti lenwi dy botel; ac mae microdonau os bydd awydd cynhesu bwyd arnat ti (paid â gadael microdonau pan fyddant ar waith a phaid â chynhesu metel!). Rydym yn hapus i ti fwyta bwyd oer unrhyw le yn y llyfrgell, ond, os wyt ti'n bwyta bwyd poeth, gofynnwn i ti wneud hyn yn y gegin. Gall myfyrwyr ym Mharc Dewi Sant ddefnyddio'r microdonau a’r dŵr berw yn yr ystafell gyffredin i chi gael rhywbeth poeth i fwyta a phaned hefyd! 

This post has no comments.
10/02/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

On Day 3 of 5 Days of Library we’re going to look at the study space available to you in the libraries. There are a range of spaces to meet different needs and preferences. You don’t need to book a place to study in the library – just come in and find an empty seat! - but see our webpage Book a library study space or PC space to find out about the different places you can study in the library: 

  • Open access study spaces 

  • Bookable PC / study spaces 

  • Group study spaces 

  • Postgraduate spaces 

St David’s Park students can use the PC spaces in the library there. You can also use the common room and other spaces around the building. 

 We know how important it is to have somewhere pleasant to work so we’ve been making improvements to our study spaces. Here are a few of the places you’ll find in our libraries! 

A collage of attractive study spaces in the library
 

This post has no comments.
10/02/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

Ar ddiwrnod 3 o 5 Niwrnod o'r Llyfrgell, rydym yn mynd i edrych ar y mannau astudio sydd ar gael iti yn y llyfrgelloedd. Mae amrywiaeth o fannau ar gael i ddiwallu anghenion a dewisiadau. Nid oes angen iti gadw lle i astudio yn y llyfrgell - dere draw a chanfod sedd wag! - ond gweler ein tudalen we er mwyn Cadw Lle i Astudio yn y Llyfrgell neu le â chyfrifiadur personol i weld y lleoedd gwahanol y gelli di astudio ynddynt yn y llyfrgell: 

  • Mannau Astudio Mynediad Agored 

  • Mannau Astudio/CP Cyffredinol 

  • Mannau Astudio Grŵp 

  • Mannau CP Ôl-raddedig 

Gall myfyrwyr Parc Dewi Sant ddefnyddio'r mannau cyfrifiaduron yn y llyfrgell yno. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ystafell gyffredin ac ardaloedd eraill yn yr adeilad. 

Rydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw i gael lle pleserus i weithio, felly rydym wedi bod yn gwneud gwelliannau i'n mannau astudio. Dyma rai o'r lleoedd sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd! 

A collage of attractive study spaces in the library
 

This post has no comments.
10/01/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

Welcome to Day 2 of 5 Days of Library! Yesterday we looked at finding books; today is all about borrowing, requesting and returning those books once you’ve found them! 

Requesting a book  

Once you’ve found the resource you need in iFind, click on the title and scroll down to the Location information to see how many copies are available. If there are 0 copies available, they are probably out on loan and you’ll need to request the book. You can also use the request option to collect books from a different library so, for example, when the book you need is in Singleton Park Library you can request to collect it from Bay Library if you’d prefer. 

A screenshot of a book

Description automatically generated 
 

You need to log in to iFind to request books; you’ll see a message to remind you if you’re not already signed. (You can also request books from your reading lists in Canvas.) From there you can select which campus library you want to pick it up from. Then you just have to wait for an email informing you that it’s ready for collection! Each library has a Request & Collect shelf – find your order, and then you can issue it onto your account (which we’ll discuss next!). The Request & Collect shelf in St David’s Park Library is in the staff office for security so you’ll need to ask for your book at the desk. You can find out more about Using the Request and Collect Service on our webpage. 

 

Borrowing books 

Undergraduate and postgraduate students can borrow up to 30 items at a time. (Please note, for undergraduates this total includes a maximum of 15 items from St David’s Park Library.) We’ll let you know when the books need to come back. Please check your university email every day so you don’t miss any messages! Books are recalled when another library user requests it so you may need to return your book within a week. If no one is waiting for your book, we will automatically renew it for you so you can keep it for longer. 

You'll find self-issue kiosks like the one below in our libraries. You can use them to borrow books you’ve requested or books you’ve found yourself on the shelves. Press borrow on the touchscreen and scan your student card, and you’ll be taken to your account. Then just place each book under the scanner! We recommend scanning them one at a time – this makes certain the alarm tags are deactivated. Once the name of the book appears on the screen it’s yours to take! You will need to bring it back at some point though, so let’s look at that next. 

A white rectangular electronic device with a touch screen 

Returning  

 A computer screen on a blue wall

Description automatically generated 

  

Here’s the returns machine, which you’ll find opposite the MyUni Library information desk at Bay Library, and a little past the MyUni Library desk at Singleton Park Library, alongside the stairs. You don’t need your student card for returns, just press the start button and place the book onto the conveyor belt – it’ll then whisk it away, taking it off your account and sorting it ready for staff to reshelve. Put the books on one at a time and wait for the green light before placing the next book.   

St David’s Park Library has no returns machine as the self-issue kiosk also has an option to return – scan your student card and choose Return on the touch screen, then place your books under the scanner in the same way as when you borrow them. 

Help! I’ve had an error message!  

Not to worry, technology can always be a bit temperamental. You can wait for the message to clear and try again, or just bring the books to the MyUni Library desk so staff can issue or return the books for you.    

How can I check what books I have? 

You can check your library account at any time by logging to iFind and clicking on your name in the top right corner – your account is one of the options there, and it will give you all the information you need.   


Further information 

You can find out more about Borrowing, Renewing and Requesting Library Items on our webpage. You can also enrol on our online course, MyUni Library Essentials and go to the section on Using the Library. 

This post has no comments.
10/01/2024
profile-icon Philippa Price
No Subjects

Croeso i Ddiwrnod 2 o 5 Niwrnod o'r Llyfrgell! Ddoe, gwnaethon ni ystyried dod o hyd i lyfrau; heddiw, byddwn yn trafod benthyca, cyflwyno ceisiadau am lyfrau a dychwelyd llyfrau ar ôl i ti orffen gyda nhw! 

Cyflwyno cais am lyfr  

Ar ôl i ti ddod o hyd i adnodd y mae ei angen arnat ti yn iFind, clicia ar y teitl a sgrolia i lawr i'r wybodaeth am leoliadau adnoddau i weld sawl copi sydd ar gael. Os nad oes unrhyw gopïau ar gael, hynny yw, bydd "0" yn ymddangos, mae'n debygol eu bod nhw i gyd ar fenthyg a bydd angen i ti gyflwyno cais am y llyfr. Gelli di hefyd gyflwyno cais i gasglu llyfrau o lyfrgell wahanol felly, er enghraifft, os bydd y llyfr y mae ei angen arnat ti yn Llyfrgell Parc Singleton, gelli di gyflwyno cais i'w gasglu o Lyfrgell Campws y Bae os byddai hynny’n well gennyt. 

 
A screenshot of a book

Description automatically generated 

Mae angen i ti fewngofnodi i iFind i gyflwyno ceisiadau am lyfrau; byddi di'n gweld neges i'th atgoffa os nad wyt ti eisoes wedi mewngofnodi. (Gelli di hefyd gyflwyno ceisiadau am lyfrau o'th restrau darllen yn Canvas.) O'r fan honno, gelli di ddewis pa lyfrgell ar y ddau gampws rwyt ti am gasglu'r llyfr ynddi. Yna, mae angen i ti aros am e-bost a fydd yn rhoi gwybod i ti fod dy lyfr yn barod i'w gasglu! Mae gan bob llyfrgell silff Cyflwyno Cais a Chasglugelli di ddod o hyd i'th archeb, ac yna ei throsglwyddo i'th gyfrif (byddwn ni'n trafod hwn nesaf!). Mae'r silff Cais a Chasglu yn Llyfrgell Parc Dewi Sant yn swyddfa’r staff er diogelwch felly mae angen i chi ofyn am eich llyfr wrth y ddesg. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio'r gwasanaeth Cais a Chasglu ar ein tudalen we. 

  

Benthyca llyfrau 

Gall myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig fenthyca hyd at 30 o eitemau ar yr un pryd. (Sylwer, yn achos myfyrwyr israddedig, mae'r cyfanswm hwn yn cynnwys uchafswm o 15 o eitemau o Lyfrgell Parc Dewi Sant.) Byddwn ni'n rhoi gwybod i ti pan fydd angen i'r llyfrau gael eu dychwelyd. Cadwa llygad ar dy gyfrif e-bost yn y brifysgol bob dydd fel na fyddi di'n colli negeseuon! Bydd angen dychwelyd llyfrau pan fydd defnyddiwr arall yn y llyfrgell yn gwneud cais amdanynt felly gall fod angen i ti ddychwelyd dy lyfr o fewn wythnos. Os nad oes neb yn aros am dy lyfr, byddwn ni'n adnewyddu'r cais yn awtomatig ar dy ran fel y gelli di ei gadw am hwy. 

Gelli di ddod o hyd i giosgau hunanwasanaeth fel yr un isod yn ein llyfrgelloedd. Gelli di eu defnyddio i fenthyca llyfrau rwyt ti wedi gwneud cais amdanynt neu lyfrau rwyt ti wedi dod o hyd iddynt ar y silffoedd. Gwasga'r botwm i fenthyca eitem ar y sgrîn gyffwrdd a sgania dy gerdyn myfyriwr a byddi di'n mynd i'th gyfrif. Yna, rho pob llyfr o dan y sganiwr! Rydyn ni'n argymell dy fod ti'n eu sganio nhw un ar y tromae hyn yn gwneud yn siŵr bod y tagiau larwm yn cael eu dadactifadu. Pan fydd enw'r llyfr yn ymddangos ar y sgrîn, gelli di fynd ag ef! Ond, bydd rhaid i ti ei ddychwelyd ar ryw bwynt, felly byddwn ni'n ystyried sut i wneud hynny nesaf. 

A white rectangular electronic device with a touch screen 

Dychwelyd  

 A computer screen on a blue wall

Description automatically generated 

Dyma'r peiriant dychwelyd llyfrau. Mae un o'r rhain gyferbyn â desg wybodaeth Llyfrgell MyUni yn Llyfrgell y Bae ac mae un ohonynt ar bwys desg Llyfrgell MyUni yn Llyfrgell Parc Singleton, ger y grisiau. Does dim angen dy gerdyn myfyriwr i ddychwelyd llyfrau. Gwasga'r botwm i ddechrau'r broses a gosod y llyfr ar y cludfeltyna, bydd y cludfelt yn mynd ag ef i ffwrdd, gan ei ddileu o'th gyfrif a'i ddidoli i staff ei roi ar y silffoedd eto. Rho'r llyfrau ar y cludfelt un ar y tro ac arhosa am y golau gwyrdd cyn gosod y llyfr nesaf 

Nid oes gan Lyfrgell Parc Dewi Sant beiriant dychwelyd oherwydd bod gan y ciosg hunanwasanaeth opsiwn dychwelyd - sganiwch eich cerdyn myfyriwr a dewis Dychwelyd ar y sgrîn gyffwrdd, yna gosodwch eich llyfrau o dan y sganiwr yn yr un modd â phan rydych yn eu benthyg. 

Cymorth! Rwyf wedi cael neges gwall 

Paid â phoeni, gall technoleg fod yn anwadal weithiau. Gelli di aros i'r neges ddiflannu a rhoi cynnig arall arni neu gelli di ddod â'r llyfrau i ddesg Llyfrgell MyUni fel y gall staff roi'r llyfrau ar fenthyg i ti neu eu dychwelyd.    

Sut gallaf wirio pa lyfrau sydd gennyf? 

Gelli di wirio dy gyfrif Llyfrgell ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi i iFind a chlicio ar dy enw yn y gornel dde ar y brig – mae dy gyfrif yn un o'r opsiynau yno, a bydd yn rhoi'r holl wybodaeth y mae ei hangen arnat ti.   

Rhagor o wybodaeth 

Gelli di gael rhagor o wybodaeth ynghylch Benthyca, adnewyddu a chyflwyno cais am eitemau'r llyfrgell  ar ein tudalen we. Gelli di hefyd gofrestru ar gyfer ein cwrs ar-lein, Hanfodion Llyfrgell MyUni a mynd i'r adran am ddefnyddio'r Llyfrgell. 

 

This post has no comments.
Provided email address is invalid.
Field is required.
Field is required.