Ar ôl i chi ymsefydlu yn eich cwrs efallai bydd angen rhywfaint o help arnoch i ddod o hyd i erthyglau mewn cyfnodolion a gwybodaeth arbenigol ar gyfer eich aseiniadau. Efallai byddwch am wneud yn siŵr y gallwch werthuso ffynonellau yn feirniadol ar gyfer ansawdd a chyfeirnodi popeth yn iawn. Gallwn ni helpu! Dyma rai o'r ffyrdd gorau o wella eich sgiliau: 

  • Cofrestrwch ar Hanfodion Llyfrgell, cwrs ar-lein o diwtorialau, fideos a gwybodaeth cryno i'ch helpu i gael y gorau o'r llyfrgell a'n gwasanaethau. Mae pedair adranDefnyddio'r Llyfrgell, Ymchwilio, Cyfeirnodi a Ceisio Cymorth. Mae Defnyddio'r Llyfrgell yn arbennig o dda i fyfyrwyr newydd, ond gallwch wneud y cwrs fel y mae'n addas i chi – gan weithio drwy'r holl adrannau neu dim ond y rhai yr hoffech chi gael help ychwanegol gyda nhw. 

  • Porwch drwy ddosbarthiadau Sgiliau’r Llyfrgell a chofrestru ar gyfer cynifer ag y dymunwchRydym yn cynnig dosbarthiadau drwy gydol y flwyddyn, ac maent ar agor i bob myfyriwr. Mae'r rhaglen Sgiliau Llyfrgell yn cwmpasu ystod o sgiliau gan gynnwys cyfeirnodi, Endnote, Cyflwyniad i iFind ac adnoddau, a Gwerthuso Ffynonellau. Mae llawer o'n dosbarthiadau'n cael eu cynnal bob mis y tymor hwn, felly mae gennych chi ddigon o gyfleoedd i uwchsgilio! 

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich gwasanaeth llyfrgell drwy ddarllen ein canllaw, Dechrau Arni gyda’r Llyfrgell.