Dyma ein hail bostiad ar gyfer Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd. Rydym yn archwilio sut gall y llyfrgell gefnogi mentrau cynaliadwyedd a gwyrdd.
Yma ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau tuag at y blaned o ddifrif. Mae gennym ddau gampws yn agos iawn at lefel y môr, felly rydym yn fwy ymwybodol na'r rhan fwyaf o bobl o bwysigrwydd lleihau ein hôl troed carbon.
Dyna pam rydyn ni, yn y llyfrgell, yn cymryd camau cynnar i geisio helpu'r brifysgol i gyflawni ei thargedau sero net. Drwy weithredu'n gynharach, byddwn yn arbed mwy o garbon.
Buom yn siarad ddydd Mawrth am ein hymdrechion y llynedd a arweiniodd at ennill Gwobr Aur, ond eleni rydyn ni'n mynd hyd yn oed ymhellach, ac mae hyn yn golygu sicrhau bod ein hadeiladau'n gweithredu mor effeithlon â phosibl er mwyn lleihau carbon a sicrhau planed gwerth byw ynddi i'n myfyrwyr. Mae effeithiau cynnar newid yn yr hinsawdd eisoes wedi ein cyrraedd, ac yn Abertawe rydyn ni'n bwriadu rhagori ar ddisgwyliadau er mwyn sicrhau bod yr effeithiau mor isel â phosibl.
Bellach mae gennym brosiect ar y gweill yn Llyfrgell y Bae â'r nod o leihau digon o ddefnydd carbon yn y nos a fyddai gynt wedi defnyddio'r un swm o garbon wedi'i atafaelu gan 2 goeden aeddfed sydd wedi tyfu'n llawn dros gyfnod o 40 mlynedd.
Mae'r prosiect yn golygu bod y mannau astudio yn adain ogleddol Llyfrgell y Bae yn cau rhwng hanner nos a 6am.
Mae hyn yn golygu y bydd ystafelloedd astudio'r myfyrwyr a'r labordy cyfrifiaduron yn yr ardal honno ar gau rhwng yr amseroedd hynny.
Yn ogystal â hynny, gallwn ddiffodd yr holl gyfrifiaduron a'r aerdymheru o bell sy'n cael effaith enfawr ar arbed allyriadau carbon.
Bydd y cyfrifiaduron yn rhoi neges i chi 5 munud cyn cau, gan roi amser i fyfyrwyr gadw eu gwaith cyn cau.
Os byddwn ni'n llwyddiannus, rydyn ni'n bwriadu edrych ar feysydd eraill lle gallwn wneud arbedion tebyg dros nos yn ein holl lyfrgelloedd a defnyddio technoleg fonitro o'r radd flaenaf i sicrhau nad ydyn ni'n cau gormod o ardaloedd. Bydd digon o leoedd i chi astudio ynddynt bob amser, yn enwedig adeg arholiadau a phan fydd dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno traethodau'n agosáu!!
Rydyn ni bob amser yn hapus i glywed eich awgrymiadau ar gyfer arbed ynni ac adnoddau, sy'n ein galluogi i gymryd camau mwy tuag at gyflawni sero net. Os oes gennych syniadau, mae croeso i chi gysylltu â mi yn c.m.j.evans@abertawe.ac.uk a gobeithio gyda'n gilydd y gallwn wneud y newidiadau y mae eu hangen i sicrhau bod ein planed fioamrywiol yn ffynnu yn y dyfodol.