Ar ddiwrnod 2 o 5 Niwrnod o'r Llyfrgell, rydym yn mynd i edrych ar y mannau astudio sydd ar gael iti yn y llyfrgelloedd. Mae amrywiaeth o fannau ar gael i ddiwallu anghenion a dewisiadau. Nid oes angen iti gadw lle i astudio yn y llyfrgell - dere draw a chanfod sedd wag! - ond gweler ein tudalen we er mwyn Cadw Lle i Astudio yn y Llyfrgell neu le â chyfrifiadur personol i weld y lleoedd gwahanol y gelli di astudio ynddynt yn y llyfrgell: 

  • Mannau Astudio Mynediad Agored 

  • Mannau Astudio/CP Cyffredinol 

  • Mannau Astudio Grŵp 

  • Mannau CP Ôl-raddedig 

Gall myfyrwyr Parc Dewi Sant ddefnyddio'r mannau cyfrifiaduron yn y llyfrgell yno. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ystafell gyffredin ac ardaloedd eraill yn yr adeilad. 

Rydym yn gwybod pa mor bwysig ydyw i gael lle pleserus i weithio, felly rydym wedi bod yn gwneud gwelliannau i'n mannau astudio. Dyma rai o'r lleoedd sydd ar gael yn ein llyfrgelloedd! 

  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich gwasanaeth llyfrgell drwy ddarllen ein canllaw, Dechrau Arni gyda’r Llyfrgell.