Croeso i Lyfrgell Prifysgol Abertawe P'un a ydych chi'n astudio ar y campws neu o bell, mae'r llyfrgell yma i gefnogi'ch taith ddysgu. Rydym yn darparu mynediad at filoedd o lyfrau, cyfnodolion ac adnoddau digidol, yn ogystal â chymorth arbenigol gan ein staff cyfeillgar. Y canllaw hwn yw eich man cychwyn a ddyluniwyd i'ch helpu i:
Rydym yn darparu cyrsiau ar-lein sydd ar gael unrhyw amser drwy Hanfodion Llyfrgell MyUni. Gallwch gofrestru ar y cwrs hwn gan ddefnyddio'r ddolen yn y blwch isod. Rydym hefyd yn cynnig dosbarthiadau sgiliau'r llyfrgell cynlluniedig, y gallwch chi eu harchwilio a chadw lle arnynt isod. |
|
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys fideos a thiwtorialau a gynlluniwyd gan eich Tîm Cymorth Academaidd. Gallwch weithio'ch ffordd drwy'r cwrs cyfan i sicrhau gwybodaeth ymarferol dda o sut i ddefnyddio'r Llyfrgell. Fel arall, gallwch ddewis pa bynciau yr hoffech edrych arnynt a gallwch bob amser ddod yn ôl at y cwrs hwn pryd bynnag y dymunwch gael sesiwn gloywi.