Mae cyfnodolion yn ddefnyddiol iawn ar gyfer eich ymchwil. Maent yn rhoi gwybodaeth ddiweddar, ddibynadwy, sydd o safon uchel.
Dyma rai o'r cyfnodolion allweddol ym maes Troseddeg:
Mae’r cynnig yn rhoi mynediad at destun llawn papurau newydd, gwefannau newyddion a blogiau gan gyhoeddwyr blaenllaw drwy’r byd. Mae’n cynnwys ffeil wrth gefn ar gyfer y rhan fwyaf o bapurau newydd, gan ddarparu mynediad at erthyglau, colofnau, erthyglau golygyddol, coflithoedd a nodweddion a gyhoeddwyd ym mhob papur. Mae’r papurau newydd mawr yn cynnwys y New York Times, Wall Street Journal, Chicago Tribune, Washington Post, USA Today, Los Angeles Times, Boston Globe, The Guardian a llawer mwy o deitlau cenedlaethol a rhanbarthol eraill.
Mae gan Nexis archifau y gellir eu chwilio sy'n cynnwys cannoedd o bapurau newydd a ffynonellau newyddion eraill o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys testun y rhan fwyaf o'r erthyglau mewn llawer o bapurau newydd o ddechrau'r 1990au hyd at heddiw. Mae'n cynnwys ychydig o bapurau newydd o'r 1970au a'r 1980au.
Os ydych chi'n teimlo bod erthygl benodol mewn cyfnodolyn neu lyfr yn hanfodol ar gyfer eich ymchwil ac nid oes gennym fynediad ati naill ai ar ffurf argraffedig neu ar-lein, defnyddiwch y Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau i dderbyn yr hyn sydd ei hangen arnoch.