Gellwch chi wirio eich modiwl ar ein catalog modiwlau trwy glicio y ddolen isod i weld a yw'ch rhestr ddarllen wedi cael ei chynnwys. Os nad yw wedi'i chynnwys, gofynnwch i'ch tiwtor gynnwys un. Maent yn ddefnyddiol iawn ac yn hawdd eu creu. |
Yn gyntaf bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i'r llyfr yng nghatalog i-Find y llyfrgell a nodi'r Rhif Galw. Caiff llyfrau eu gosod ar y silffoedd yn ôl y Rhif Galw.
Bydd modd dod o hyd i'r mwyafrif o lyfrau sy'n ymwneud â maes Troseddeg yn yr ardaloedd canlynol ar Lefel 1 Gorllewinol yn Llyfrgell Parc Singleton
Camddefnyddio Sylweddau HV4997 - HV5840
Troseddeg HV6001 - HV7220
Achosion troseddu HV6115 - HV6190
Troseddau a Thramgwyddau HV6251 - HV6773
Cyfiawnder troseddol HV7231 - HV9960
Cysylltu a'r heddlu HV7551 - HV8280
Carchardi HV8301 - HV9960
Troseddwyr ifanc/Cyfiawnder leuenctid HV9051 - HV9230
Mae Oxford Scholarship Online yn cynnig mynediad i filoedd o weithiau academaidd o restr ysgolheigaidd enwog Gwasg Prifysgol Rhydychen, gan gwmpasu pynciau ar draws y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau, meddygaeth a'r gyfraith.
Mae Proquest Ebook Central yn cynnig e-lyfrau awdurdodol mewn ystod eang o feysydd pwnc, ynghyd ag offer grymus i’ch cynorthwyo i ganfod, defnyddio a rheoli’r wybodaeth yr ydych ei hangen.
Mae platfform VLeBooks yn darparu ystod o e-lyfrau ar nifer fawr o bynciau.
Mae casgliad helaeth EBSCO o deitlau e-lyfrau ar EBSCOhost yn caniatáu profiad chwilio cynhwysfawr a grymus. Gyda phob chwiliad, ymddengys teitlau e-lyfrau yn uniongyrchol ochr yn ochr â’ch cronfeydd data EBSCO eraill. Mae hyn yn datgelu i ddefnyddwyr wir ddyfnder cynigion eich llyfrgell a chynyddu defnydd a gwelededd o gasgliad cyfan eich llyfrgell.
Mae'r canlynol yn rhestr fer o eiriaduron a rhestrau termau sy'n ymwneud â maes Troseddeg sydd ar gael yn y llyfrgell ac efallai y bydd myfyrwyr yn eu cael yn ddefnyddiol: