Mae'r dudalen hon yn cynnwys dolenni i wefannau a chronfeydd data eraill sydd ag ystadegau a data efallai y bydd myfyrwyr Troseddeg yn eu cael yn ddefnyddiol. Mae gwefannau lleol, o'r DU, o'r UE a gwefannau rhyngwladol wedi'u cynnwys. I dderbyn cymorth anfonwch e-bost i: socialscienceslibrary@swansea.ac.uk |
Mae Gwasanaeth Data y Deyrnas Unedig yn adnodd cynhwysfawr a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n un pwynt mynediad at ystod eang o ddata eilaidd, gan gynnwys arolygon graddfa fawr y llywodraeth, macroddata rhyngwladol, microddata busnesau, astudiaethau ansoddol a data'r Cyfrifiad rhwng 1971 a 2011.
Mae StatsCymru yn wasanaeth ddi-dâl i’w ddefnyddio, sy'n caniatáu i chi weld, defnyddio, creu a lawr lwytho tablau data ar gyfer Cymru.
Gelwir Swyddfa Ystadegau Cymunedau Ewrop yn Lwcsembwrg yn Eurostat. Nid yw Eurostat yn casglu data ei hun, ond mae'n casglu data o asiantaethau ystadegau gwladol yr aelod-wladwriaethau. Yna mae angen iddi sicrhau bod y data'n cyd-fynd fel y gellir gwneud cymariaethau ystyrlon ar draws sawl gwlad.
Isod ceir dolenni i wefannau cynghorau sir yn Ne Cymru ac yng Nghanolbarth Cymru:
Mae Nomis yn wasanaeth a ddarperir gan y ONS, sy'n rhoi mynediad rhad ac am ddim i'r ystadegau mwyaf manwl a diweddaraf am farchnad lafur y DU gan ffynonellau swyddogol.