Mae cyfnodolion twyllodrus yn gofyn am erthyglau gan ymchwilwyr trwy arferion sy'n manteisio ar y pwysau ar ymchwilwyr i gyhoeddi. Mae nodweddion cyfnodolion twyllodrus yn cynnwys modelau talu-i-gyhoeddi cyflym heb adolygiad trylwyr gan gymheiriaid, byrddau golygyddol ffug yn rhestru gwyddonwyr uchel eu parch, ffactorau effaith twyllodrus, teitlau cyfnodolion sy'n dwyllodrus o debyg i rai cyfnodolion cyfreithlon, erthyglau adolygu taledig sy'n hyrwyddo gwyddoniaeth ffug, a gwahoddiadau sbam ymosodol i gyflwyno erthyglau, gan gynnwys y tu allan i arbenigedd ymchwilydd. Ymhellach, mae’n arfer cyffredin i gyfnodolion twyllodrus ecsbloetio’r model “awdur-yn talu” o fynediad agored er budd ariannol.
Mae cynadleddau twyllodrus yn rhan gynyddol o'r dirwedd academaidd. Gallant gael eu trefnu gan yr un cyhoeddwyr hyn, neu gan grwpiau cynadledda er-elw arbenigol. Maent yn manteisio ar y pwysau ar ymchwilwyr i gyflwyno eu gwaith, yn enwedig i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Nodweddir y cynadleddau hyn gan ddiffyg tebyg o ran adolygiad gan gymheiriaid o grynodebau a phapurau a gyflwynwyd, gallant godi ffioedd uchel mewn perthynas â'r gwasanaethau a ddarperir, ac yn aml gwahodd ymchwilwyr i siarad ar bynciau y tu allan i'w maes arbenigedd; yn achos cynadleddau ffug, nid ydynt yn digwydd o gwbl.
Defnyddiwch y rhestrau gwirio cynhwysfawr a ddarperir gan Think, Check, Submit.
Os ydych chi'n dal yn ansicr, gofynnwch i ni sicrhau ar eich rhan LibraryResearchSupport@swansea.ac.uk
Mae cynadleddau twyllodrus yn ddatblygiad mwy diweddar, ac mae'n anoddach gwirio eu cyfreithlondeb. Mae cynadleddau cyfreithlon yn rhan bwysig o'r byd academaidd, yn enwedig ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i adeiladu rhwydweithiau yn allanol o'u sefydliad a chynyddu'r siawns o gydweithio a phapurau.
Mae'n ymddangos bod cynadleddau twyllodrus yn dechrau i fanteisio ar hyn, ac yn marchnata eu hunain fel 'cynadleddau newydd'.
Os nad ydych yn siŵr am gynhadledd, mae’n werth anfon e-bost at aelod o’r pwyllgor trefnu i wirio, efallai nad ydynt yn ymwybodol bod eu henw yn cael ei ddefnyddio.
Mae rhai arwyddion mwy amlwg megis gwefan sydd wedi'i dylunio'n wael, gwallau sillafu neu ramadeg, a dolenni wedi'u torri ond os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch i ni ei wirio i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyhoeddi Twyllodrus, gwiriwch Think, Check, Submit. Mae hon yn wefan ddibynadwy gydag awgrymiadau defnyddiol a diweddariadau ar Gyhoeddi Twyllodrus yn y rhan fwyaf o fformatau.