Diolch yn fawr!
Mae Gwasanaethau Llyfrgell a TG wedi bod yn gweithio'n galed iawn i weithredu a galluogi defnyddwyr i gael mynediad at ein gwasanaethau, gan sicrhau mai iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff yw ein blaenoriaeth bennaf. Er y bu'n rhaid i ni leihau ein horiau gwasanaeth, yn enwedig ar gyfer mynediad at leoedd astudio, rydym wedi gwneud ein gorau glas i wella a chynyddu argaeledd gwasanaethau ar-lein. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth. Fel bob amser, rydym yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr. Rydym bob amser yn croesawu awgrymiadau mewn perthynas â darparu a gwella gwasanaethau. Hoffem i chi eu rhannu â ni:
Ar-lein: Y Ddesg Wasanaeth
E-bost: Gwasanaeth Cwsmeriaid
Ffôn: 01792 (29) 5500
Sgwrsio: https://www.swansea.ac.uk/it-services/help
Pa wasanaethau Llyfrgell a chymorth TG sydd ar gael ar hyn o bryd?
Rydym yn annog myfyrwyr a chydweithwyr i fanteisio ar adnoddau a gwasanaethau cymorth yn electronig lle bynnag y bo modd. Mae ein canllaw i'r Llyfrgell ar-lein ar gael ac mae'n darparu gwybodaeth am fanteisio ar adnoddau electronig a chymorth gan Wasanaethau Cwsmeriaid a Llyfrgellwyr Pwnc. Mae gwybodaeth am ofyn am gymorth TG gan y Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ar gael ar ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth.
Cais a Chasglu
Os oes angen adnodd argraffedig arnoch ac os nad oes ffordd arall o gael gafael arno, gallwch ddefnyddio ein Gwasanaeth Cais a Chasglu i archebu eitem o Gatalog y Llyfrgell a'i chasglu o'r Llyfrgell o'ch dewis. Mae adalwadau pellach wedi'u troi bant felly ni fydd angen i ddefnyddwyr pryderi am ddychwelyd eitemau sydd wedi'u hadalw dros y cyfnod gwyliau. Ewch i'r tudalennau Oriau Agor i gael y manylion diweddaraf am bob llyfrgell.
Neilltuo Lleoedd Astudio
I ddefnyddio gweithfannau cyfrifiadur personol a lleoedd astudio yn llyfrgelloedd Campws y Bae a Pharc Singleton, mae angen archebu ymlaen llaw. Mae manylion llawn a dolen i'r dudalen archebu ar gael ar y dudalen Archebu lle astudio/cyfrifiadur yn y llyfrgell.
Casglu cardiau adnabod
Gall myfyrwyr gasglu cardiau adnabod o'r desgiau gwybodaeth yn llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton, gan ddibynnu ar ba gampws mae eich cwrs wedi'i leoli. Os nad ydych yn dod i'r campws ar hyn o bryd i weithio neu astudio, ni ddylech ddod i gasglu cerdyn.
Gwasanaethau Cyflenwi/Sganio Dogfennau
Mae manylion llawn am y gwasanaeth ar gael yng nghanllaw'r Llyfrgell i Gyflenwi Dogfennau. Bydd y gwasanaeth ar gael tan 23 Rhagfyr a bydd ar gau o 24 Rhagfyr tan 4 Ionawr gan ailagor ar 5 Ionawr.
Y Ganolfan Drawsgrifio
Bydd y Ganolfan Drawsgrifio ar agor fel arfer tan 21 Rhagfyr i fyfyrwyr y mae angen fformatau hygyrch arnynt. Bydd y Ganolfan ar gau rhwng 22 Rhagfyr a 4 Ionawr ond bydd y mewnflwch braille@abertawe.ac.uk yn cael ei fonitro rhag ofn y bydd ceisiadau brys gan fyfyrwyr ag anawsterau darllen print.
Benthyca gliniaduron
Mae gliniaduron ar gael i'w benthyca o lyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Colegau i flaenoriaethu myfyrwyr ag anawsterau ariannol neu amgylchiadau esgusodol eraill. Cysylltwch â thimau Ymgysylltu â Myfyrwyr neu Weinyddol eich Coleg yn y lle cyntaf i ofyn am fenthyca gliniadur. Byddant yn cadarnhau eich angen ac yn cysylltu â staff y Llyfrgell. Mae 72 o loceri hunanwasanaeth newydd wedi cael eu gosod yn llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton yn ddiweddar a bydd benthyciadau gliniadur hunanwasanaeth ar gael o fis Ionawr.
Mynediad o bell at gyfrifiaduron y Brifysgol
Gall myfyrwyr gael mynediad o bell at dros 2000 o gyfrifiaduron y Brifysgol bellach. Mae manylion llawn a chyfarwyddiadau cysylltu ar gael ar y dudalen gwasanaeth mynediad o bell at gyfrifiaduron.
Beth fydd ar gael dros y Nadolig?
Bydd gwasanaethau ar gael yn unol â'r manylion uchod tan 23 Rhagfyr. Yn ystod cyfnod y Nadolig/Flwyddyn Newydd (24 Rhagfyr tan 4 Ionawr), bydd llyfrgelloedd Campws y Bae a Pharc Singleton ar agor ar gyfer lleoedd astudio a archebwyd ymlaen llaw. Byddwch yn gallu gosod a chasglu ceisiadau ond mae'n bosib bydd brosesu yn cael ei oedi felly peidiwch ag ymweld â'r Llyfrgell hyd nes eich bod wedi derbyn e-bost i'ch hysbysu bod eich eitem ar gael i'w casglu. Bydd cymorth gan Wasanaethau Cwsmeriaid a Llyfrgellwyr ar gael ar-lein hefyd. Yr Oriau Agor yw:
Dyddiad |
Oriau agor llyfrgelloedd Singleton/y Bae ar gyfer lleoedd astudio yn unig |
Cymorth Gwasanaethau Cwsmeriaid Cefnogaeth ar-lein yn unig |
Sgwrsio Byw |
Tan 23 Rhagfyr |
Dydd Llun – dydd Gwener 09:00-17:00 |
Dydd Llun - dydd Gwener 08:00 – 20:00 Dydd Sadwrn - dydd Sul 10:00 – 18:00 |
Dydd Llun – sydd Gwener 09:00 - 17:00 |
24 Rhagfyr |
09:00 – 17:00 |
08:00 – 17:00 |
09:00 – 17:00 |
25 – 26 Rhagfyr |
Ar gau |
Ar gau |
Ar gau |
27 - 28 Rhagfyr |
Ar gau |
10:00-20:00 |
Ar gau |
29 - 31 Rhagfyr |
09:00-17:00 |
29, 30: 10:00 - 20:00 31: 10:00 - 17:00 |
09:00 – 17:00 |
1 Ionawr
|
Ar gau |
Ar gau |
Ar gau |
2 - 3 Ionawr |
Ar gau |
10:00 - 20:00 |
Ar gau |
4 Ionawr |
09:00 - 17:00 |
08:00 – 20:00
|
Ar gau |
O 5 Ionawr ymlaen |
Dydd Llun – dydd Gwener 09:00 - 17:00 |
Dydd Llun - dydd Gwener: 08:00 – 20:00 Dydd Sadwrn – dydd Sul: 10:00 – 18:00 |
Dydd Llun – dydd Gwener 09:00-17:00 |
Sylwer y gall oriau gwasanaeth newid ar fyr rybudd i ymateb i ofynion Llywodraeth Cymru a thîm Rheoli'r Brifysgol. Ewch i'r tudalennau oriau agor am y manylion diweddaraf.
Hoffem ddymuno'n dda i chi i gyd am wyliau iach a hapus.