Y thema ar gyfer Mis Hanes Pobl LGBT+ eleni yw Barddoniaeth, Rhyddiaith a Dramâu. I ymuno â’r dathliad, rydym wedi gosod arddangosiadau yn Llyfrgell Campws Parc Singleton a Llyfrgell y Bae. Mae’r rhain yn cynnwys gweithiau gan E M Forster, Sarah Waters, Jeanette Winterson a’r beirdd Siegfried Sassoon a Carol Ann Duffy.

Peidiwch ag anghofio y gallwch gymryd rhan yn Her Ddarllen Mis Hanes Pobl LGBT+! Ceir rhagor o wybodaeth ar flog Newyddion y Llyfrgell

Cynhelir digwyddiadau ar y campws drwy gydol mis Chwefror i ddathlu Mis Hanes Pobl LGBT+. Darllenwch dudalen undeb y myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.