Yn dilyn llwyddiant ein her ddarllen Hanes Mis Pobl Dduon y tymor diwethaf, rydym yn lansio her ddarllen Darllen Gwell newydd wedi’i hysbrydoli gan Fis Hanes LGBT+. Rydym wedi gweithio gyda Rhwydwaith Staff LGBT+ Prifysgol Abertawe i lunio’r her hon ac rydym ni hefyd wedi cael cefnogaeth gan Swyddogion Undeb y Myfyrwyr.

Mae’r cynllun yn syml – darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob category isod. (os ydych yn gallu dod o hyd i lyfr sy’n cyd-fynd â mwy nag un categori, mae hawl gwneud hynny!). Rydym wedi awgrymu rhai yr hoffech roi cynnig arnynt isod. Gallwch eu benthyg o Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe. Hefyd rydym wedi casglu rhai awgrymiadau ar-lein.  Gallwch ddod o hyd i’ch llyfrau eich hun hefyd – rhannwch eich syniadau gan ddefnyddio #paDarllenYnWell.

Cynhelir yr her tan 29 Chwefror. Os nad ydych chi’n llwyddo i ddarllen pob un o’r llyfrau erbyn hynny, peidiwch â phoeni – hwyl yn unig yw hwn, felly gallwch gymryd faint bynnag o amser sydd ei angen arnoch! Rhowch wybod i ni sut mae’n mynd ar @SwanseaUniLib ar Twitter, Instagram a Facebook.

 

  • Barddoniaeth

Rapture, by Carol Ann Duffy

  • Straeon Byrion

Tair Ochr y Geiniog, by Mihangel Morgan

  • Hanes

Queer Wales : the history, culture and politics of queer life in Wales, edited by Huw Osborne

  • Mis Hanes LGBT+ 2020 o Wynebau – Llyfr gan neu am Lorraine Hansberry, E.M. Forster, William Shakespeare neu Dawn Langley Simmons

Maurice, by E.M. Forster