Rydym yn edrych ymlaen at weld y myfyrwyr sy'n dychwelyd eto ac at groesawu defnyddwyr newydd y Llyfrgell hefyd.
Byddwch yn sylwi ar rai newidiadau a gwelliannau yn Llyfrgell Parc Singleton:
- Rydym wedi gosod drysau awtomatig sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ar Lefel 3 er mwyn gwella hygyrchedd.
- Mae gan Lyfrgell y Gyfraith gynllun llawr a chelfi newydd a bellach mae gan y desgiau bŵer a goleuadau.
- Mae gan y Neuadd Astudio gelfi newydd gyda darpariaeth bŵer well a mwy o ddarpariaeth ar gyfer astudio mewn grwpiau.
- Mae gwaith bellach yn cael ei gynnal ar Lefel 2 i wella'r mannau astudio tawel. Byddwch yn gweld celfi’n cael eu symud o gwmpas wrth i ni asesu'r hyn sy'n well gan y myfyrwyr. Bydd byrddau adborth a chyfnod ymgynghori yn ystod mis Hydref. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn.
Gwasanaethau yn 2022/23
Yn ddiweddar ymunodd MyUniHub â'r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ar Ddesg Wybodaeth Llyfrgell Parc Singleton. Mae Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid y Llyfrgell bellach yn Llyfrgell MyUni a byddwn yn cefnogi ymholiadau TG tan fis Ionawr pan fydd Tîm Cymorth TG newydd wrth y llyw.
Bydd Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Mae Tîm Llyfrgell MyUni ar gael:
Dydd Llun i ddydd Gwener: 08:00 – 20:00
Dydd Sadwrn a dydd Sul: 12:00 – 20:00
- Bydd llyfrgellwyr ar gael drwy sgwrsio ar-lein neu drwy apwyntiadau wyneb yn wyneb. Ceir manylion llawn yng Nghanllawiau'r Llyfrgell.
- Cewch wybodaeth gyfredol am amseroedd agor ein holl lyfrgelloedd ar ein tudalennau gwe.
- Bydd mynediad o bell at gyfrifiaduron personol myfyrwyr yn parhau i fod ar gael.
- Bydd benthyciadau gliniaduron hunanwasanaeth am bythefnos yn dal i fod ar gael gan Lyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton.
- Dewch o hyd i fanylion llawn ein gwasanaethau ac oriau agor ein holl Lyfrgelloedd gan gynnwys Llyfrgell Glowyr De Cymru, Parc Dewi Sant a Banwen ar ein tudalennau gwe.
Dilynwch ni ar ein cyfrif Twitter ac edrychwch ar ein tudalennau gwe am yr wybodaeth ddiweddaraf.
We’re looking forward to seeing returning students again and to welcoming new Library users too.
You’ll notice a few changes and improvements at Singleton Park Library:
Services in 2022/23
MyUniHub has recently joined the Customer Service Team at the Singleton Park Library Information Desk. The Library Customer Service Team is now MyUni Library and we’ll be supporting IT enquiries until January when a new IT Support Team will take over.
Bay Library and Singleton Park Library will be open 24 hours, seven days a week. The MyUni Library Team are available:
Monday-Friday: 08:00 – 20:00
Saturday & Sunday: 12:00 – 20:00
Please follow our Twitter account and check our webpages for up-to-date information.