Rydym yn edrych ymlaen at weld y myfyrwyr sy'n dychwelyd eto ac at groesawu defnyddwyr newydd y Llyfrgell hefyd.

Byddwch yn sylwi ar rai newidiadau a gwelliannau yn Llyfrgell Parc Singleton:

  • Rydym wedi gosod drysau awtomatig sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ar Lefel 3 er mwyn gwella hygyrchedd.
  • Mae gan Lyfrgell y Gyfraith gynllun llawr a chelfi newydd a bellach mae gan y desgiau bŵer a goleuadau. 
  • Mae gan y Neuadd Astudio gelfi newydd gyda darpariaeth bŵer well a mwy o ddarpariaeth ar gyfer astudio mewn grwpiau.
  • Mae gwaith bellach yn cael ei gynnal ar Lefel 2 i wella'r mannau astudio tawel. Byddwch yn gweld celfi’n cael eu symud o gwmpas wrth i ni asesu'r hyn sy'n well gan y myfyrwyr. Bydd byrddau adborth a chyfnod ymgynghori yn ystod mis Hydref. Rhowch wybod i ni beth yw eich barn.

Gwasanaethau yn 2022/23

Yn ddiweddar ymunodd MyUniHub â'r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ar Ddesg Wybodaeth Llyfrgell Parc Singleton. Mae Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid y Llyfrgell bellach yn Llyfrgell MyUni a byddwn yn cefnogi ymholiadau TG tan fis Ionawr pan fydd Tîm Cymorth TG newydd wrth y llyw.

Bydd Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos. Mae Tîm Llyfrgell MyUni  ar gael:

Dydd Llun i ddydd Gwener:      08:00 – 20:00

Dydd Sadwrn a dydd Sul:          12:00 – 20:00

  • Bydd llyfrgellwyr ar gael drwy sgwrsio ar-lein neu drwy apwyntiadau wyneb yn wyneb. Ceir manylion llawn yng Nghanllawiau'r Llyfrgell.
  • Cewch wybodaeth gyfredol am amseroedd agor ein holl lyfrgelloedd ar ein tudalennau gwe. 
  • Bydd mynediad o bell at gyfrifiaduron personol myfyrwyr yn parhau i fod ar gael.
  • Bydd benthyciadau gliniaduron hunanwasanaeth am bythefnos yn dal i fod ar gael gan Lyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton.
  • Dewch o hyd i fanylion llawn ein gwasanaethau ac oriau agor ein holl Lyfrgelloedd gan gynnwys Llyfrgell Glowyr De Cymru, Parc Dewi Sant a Banwen ar ein tudalennau gwe.

Dilynwch ni ar ein cyfrif Twitter ac edrychwch ar ein tudalennau gwe am yr wybodaeth ddiweddaraf.