Mae’r Brifysgol yn cynllunio ar gyfer dychwelyd i’w champysau ac ailagor gwasanaethau gan roi’r flaenoriaeth uchaf i iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru a rheolwyr y Brifysgol, mae staff y Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adrannau Iechyd a Diogelwch ac Ystadau i gynllunio proses ddychwelyd ddiogel, fesul cam, a fydd yn ein galluogi i sicrhau pellter cymdeithasol o ddau fetr, mannau hylif diheintio dwylo a chyn lleied o gyswllt â phosib wrth ddarparu gwasanaethau.
Pryd gallwch chi fenthyca llyfrau?
Ein bwriad yw ailagor llyfrgelloedd fesul cam, gan ddechrau gyda gwasanaeth “clicio a chasglu” yn Llyfrgelloedd Singleton a’r Bae o ganol mis Gorffennaf ac yn Llyfrgell Parc Dewi Sant o ddiwedd mis Gorffennaf. Mae hyn yn golygu y bydd defnyddwyr y llyfrgelloedd yn gallu cyflwyno cais yn iFind fel arfer ac, ar ôl derbyn e-bost i gadarnhau bod yr eitem ar gael, gallant fynd i’r llyfrgell a defnyddio’r cyfleuster hunanwasanaeth i fenthyca’r llyfrau. Bydd system unffordd ar waith, gan gynnwys mynedfa ac allanfa ar wahân, a bydd system giwio yn sicrhau bod defnyddwyr y llyfrgell yn cadw 2 fetr ar wahân. Bydd yr oriau agor yn gyfyngedig i ddechrau a bydd gwybodaeth a’r newyddion diweddaraf am argaeledd y gwasanaeth hwn ar ein tudalennau gwe.
Pryd byddwch chi’n gallu astudio yn y Llyfrgell?
Ar ôl i ni asesu’r gwasanaeth “clicio a chasglu” a chwblhau cynlluniau i asesu faint o ddefnyddwyr gallwn eu derbyn, systemau awyru, gweithdrefnau glanhau a sut bydd defnyddwyr yn symud o gwmpas yr adeiladau, ein gobaith yw y gallwn gynnig rhai lleoedd astudio ym mis Awst. Unwaith eto, cadwch lygad ar ein tudalennau gwe am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Beth os bydd angen adnoddau arnoch chi yn y cyfamser?
Mae staff y llyfrgelloedd yn sicrhau bod adnoddau ar gael ar-lein lle bynnag y bo modd. Os oes angen llyfrau neu erthyglau cyfnodolion penodol arnoch chi nad ydynt ar gael yn electronig, cysylltwch â ni yn customserservice@abertawe.ac.uk, https://libguides.swansea.ac.uk/Document-Supply, neu gallwch gysylltu â’ch llyfrgellwyr pwnc yn https://libguides.swansea.ac.uk
Rydym yn deall pwysigrwydd Gwasanaethau Llyfrgell i fyfyrwyr ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd adeiladau yn hygyrch eto cyn gynted â phosib ac, yn bwysicaf oll, sicrhau bod defnyddwyr a staff y Llyfrgelloedd yn cadw’n iach ac yn ddiogel.
Join us for this drop-in Q&A session on APA referencing. Got a question, come and ask Suzanne, Erika and Elen, your Librarians in our online chat room. Open to all Swansea University students and staff.
Register and we'll send you the full details of how to join our online chat room.
Wednesday 30th June @ 2pm
Can't make it? Don't worry we have our online tutorials available to watch.
_________________________________________________________________
Ymunwch a ni am ein sessiwn galw heibio holi ac ateb ar Gyfeirnodi yn arddull APA. Os oes gennych cwestiwn, yna dewch draw i sgwrsio gyda Suzanne, Erika ac Elen, eich Llyfrgellwyr yn ein 'stafell sgwrsio ar-lein. Ar agor i bob myfyriwr a staff Prifysgol Abertawe.
Ar gyfer cael mynediad i'n 'stafell sgwrsio ar-lein, cofrestrwch a wnawn ni danfon manylion llawn atoch.
Dydd Mercher 30ain Mehefin @ 2yp
Methu dod? Peidiwch a phoeni mae gennym tiwtoraliau i'w gwylio ar-lein.