Mae’r Brifysgol yn cynllunio ar gyfer dychwelyd i’w champysau ac ailagor gwasanaethau gan roi’r flaenoriaeth uchaf i iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru a rheolwyr y Brifysgol, mae staff y Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adrannau Iechyd a Diogelwch ac Ystadau i gynllunio proses ddychwelyd ddiogel, fesul cam, a fydd yn ein galluogi i sicrhau pellter cymdeithasol o ddau fetr, mannau hylif diheintio dwylo a chyn lleied o gyswllt â phosib wrth ddarparu gwasanaethau.
Pryd gallwch chi fenthyca llyfrau?
Ein bwriad yw ailagor llyfrgelloedd fesul cam, gan ddechrau gyda gwasanaeth “clicio a chasglu” yn Llyfrgelloedd Singleton a’r Bae o ganol mis Gorffennaf ac yn Llyfrgell Parc Dewi Sant o ddiwedd mis Gorffennaf. Mae hyn yn golygu y bydd defnyddwyr y llyfrgelloedd yn gallu cyflwyno cais yn iFind fel arfer ac, ar ôl derbyn e-bost i gadarnhau bod yr eitem ar gael, gallant fynd i’r llyfrgell a defnyddio’r cyfleuster hunanwasanaeth i fenthyca’r llyfrau. Bydd system unffordd ar waith, gan gynnwys mynedfa ac allanfa ar wahân, a bydd system giwio yn sicrhau bod defnyddwyr y llyfrgell yn cadw 2 fetr ar wahân. Bydd yr oriau agor yn gyfyngedig i ddechrau a bydd gwybodaeth a’r newyddion diweddaraf am argaeledd y gwasanaeth hwn ar ein tudalennau gwe.
Pryd byddwch chi’n gallu astudio yn y Llyfrgell?
Ar ôl i ni asesu’r gwasanaeth “clicio a chasglu” a chwblhau cynlluniau i asesu faint o ddefnyddwyr gallwn eu derbyn, systemau awyru, gweithdrefnau glanhau a sut bydd defnyddwyr yn symud o gwmpas yr adeiladau, ein gobaith yw y gallwn gynnig rhai lleoedd astudio ym mis Awst. Unwaith eto, cadwch lygad ar ein tudalennau gwe am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Beth os bydd angen adnoddau arnoch chi yn y cyfamser?
Mae staff y llyfrgelloedd yn sicrhau bod adnoddau ar gael ar-lein lle bynnag y bo modd. Os oes angen llyfrau neu erthyglau cyfnodolion penodol arnoch chi nad ydynt ar gael yn electronig, cysylltwch â ni yn customserservice@abertawe.ac.uk, https://libguides.swansea.ac.uk/Document-Supply, neu gallwch gysylltu â’ch llyfrgellwyr pwnc yn https://libguides.swansea.ac.uk
Rydym yn deall pwysigrwydd Gwasanaethau Llyfrgell i fyfyrwyr ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd adeiladau yn hygyrch eto cyn gynted â phosib ac, yn bwysicaf oll, sicrhau bod defnyddwyr a staff y Llyfrgelloedd yn cadw’n iach ac yn ddiogel.