
Byddwch yn hysbys o'r newidiadau hyn i'n gwasanaethau. Rydym yn bod yn ymatebol i gyfarwyddyd o'r llywodraeth a phenderfyniadau a wneir gan Reolaeth y Brifysgol ond byddwn yn wneud pob ymdrech i ddweud y diweddaraf wrthych am newidiadau i'n gwasanaethau.
Gellir dod o hyd i atebion i lawer o ymholiadau cyffredin ar dudalennau we'r Llyfrgell, tudalennau we Gwasanaethau TG, ac ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Dydy ceisiadau ac adalwadau ddim ar gael ar hyn o bryd. Bydd adnewyddu awtomatig yn parhau felly does dim eisiau i chi poeni am ddychwelyd eitemau nac am gael unrhyw ddirwyon. Os oes angen eitem arnoch ar frys, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmer a byddwn yn ceisio cyflawni'ch cais gydag e-lyfr.
Nad ydym bellach yn arfenthyg neu yn derbyn dyfeisiau i'w bwcio i mewn, neu yn darparu cardiau adnabod y Brifysgol, ar Ddesgiau Gwybodaeth y Llyfrgell. Os oes gennych broblem gyda'ch dyfais, neu os oes angen cerdyn adnabod newydd arnoch, e-bostiwch Wasanaethau Cwsmer neu cofnodwch alwad ar y Ddesg Gymorth os gwelwch yn dda.
Oriau agor a'r cymorth sydd ar gael
Mae Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton ar agor i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Gwiriwch ein tudalennau we ar gyfer yr oriau agor diweddaraf.
Mae Desgiau Gwybodaeth y Llyfrgell ar gau ar hyn o bryd, ond mae cymorth ar gyfer Gwasanaethau Llyfrgell a TG ar gael ar-lein o 8yb-8yh pob dydd trwy Wasanaethau Cwsmer a thrwy'r Ddesg Gymorth.
Mae cymorth penodol i'ch pwnc ar gael ar-lein trwy'r Canllawiau Llyfrgell a hefyd trwy'r gwasanaeth sgwrsio, Holi Llyfrgellydd, Dydd Llun i Ddydd Gwener 9-5. Gallwch ddod o hyd i'r cyswllt ar y dudalen Canllawiau Llyfrgell.
Mae Llyfrgell Parc Dewi Sant ar gau tan 14eg Ebrill. Mae cymorth ac apwyntiadau ar gael ar-lein trwy'r Canllawiau Llyfrgell a thrwy'n wasanaeth sgwrsio.
Mae Llyfrgell y Glowyr De Cymru a Llyfrgell Banwen ar gau ond mae staff yn cynnal gwasanaethau cymorth. Dylai myfyrwyr AABO e-bostio karen.dewick@abertawe.ac.uk neu miners@abertawe.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau. Os oes gennych ymholiad sy'n ymwneud a'n casgliadau ymchwil, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda.
Mae Archifau Richard Burton ar gau ond mae staff yn cynnal gwasanaethau cymorth. E-bostiwch gydag ymholiadau os gwelwch yn dda.
Mae'r Ganolfan Drawsgrifio ar gau ond mae staff yn cynnal gwasanaethau cymorth. E-bostiwch gydag ymholiadau.
Mae'r Ganolfan Eifftaidd ar gau hyd nes ceir rhybudd pellach, ac mae pob digwyddiad wedi'i chanslo neu wedi'i gohirio. E-bostiwch gydag ymholiadau os gwelwch yn dda.
Mae'r Taliesin a'r Neuadd Fawr ar gau. Mae digwyddiadau wedi'u canslo neu wedi'i gohirio. Am y wybodaeth ddiweddaraf, gweler https://www.taliesinartscentre.co.uk/cy/ neu e-bostiwch info@taliesinartscentre.co.uk.


Please join us for our first online drop-in session on APA referencing. Got a question, come and ask Izzy and Elen, your Librarians in our online chat room. We'll be looking at APA referencing and tools that can make your life easier. Open to all Swansea University students and staff.
Wednesday 25th March @2pm
Full details of this session and future online skills sessions can be found on our events calendar.
___________________________________________________________________________
Ymunwch a ni am ein sessiwn galw heibio cyntaf ar gyfeirnodi yn arddull APA. Os oes gennych cwestiwn, yna dewch draw i sgwrsio gyda Elen ac Izzy, eich Llyfrgellwyr yn ein 'stafell sgwrsio ar-lein. Byddwn yn edrych ar gyfeirnodi yn arddull APA ac hefyd yn awgrymu offer sy'n gallu gwneud eich bywyd yn haws. Ar agor i bob myfyriwr a staff Prifysgol Abertawe.
Dydd Mercher 25ain Mawrth @2yp
Am fanylion llawn y sesiwn hon a sesiynau yn y dyfodol ewch draw i'n calendr o ddigwyddiadau.