Mae’n bleser mawr gennym gyflwyno ein fersiwn newydd sbon o Ganllawiau Llyfrgell Prifysgol Abertawe. Ers mis Medi 2023, mae ein tîm prosiect o dri llyfrgellydd pwnc wedi bod yn gweithio'n galed yn llunio cynllun ffres, hawdd ei ddefnyddio ar gyfer pob canllaw pwnc, wedi'i ddylunio gydag adborth myfyrwyr wrth wraidd y prosiect. 

Ers i'r rownd olaf o brofion profiad y defnyddiwr gael ei chwblhau ym mis Mai 2024, mae ein tîm wedi caboli'r canllawiau llyfrgell newydd, ac mae fersiwn ddiwygiedig yr adnodd bellach ar gael i fyfyrwyr ddechrau ei ddefnyddio ar unwaith. 

Beth yw Canllawiau'r Llyfrgell?

  • Canllawiau'r Llyfrgell yw’r porth digidol unigol i fyfyrwyr gyrchu cymorth llyfrgell ac adnoddau unigryw.
  • Mae Canllawiau'r Llyfrgell yn dudalennau gwe sy'n cynnwys gwybodaeth bwrpasol a phenodol i'r pwnc sy'n dangos i fyfyrwyr sut i ddod o hyd i lenyddiaeth, chwilio ynddi a'i beirniadu — i gyd mewn un lle. Lluniwyd Canllawiau'r Llyfrgell gan eich llyfrgellwyr i helpu i gynorthwyo myfyrwyr, staff ac ymchwilwyr i ddefnyddio'r llyfrgell a dod o hyd i adnoddau pwnc.

Beth sy'n newydd? 

  • Gwell adnoddau penodol i'r pwnc.
  • Rhyngwyneb gwell ar gyfer dyfeisiau symudol.
  • Rhestr A-Z newydd o'r holl gronfeydd data sydd ar gael, y gellir eu chwilio yn unol â'ch pwnc
  • Cronfa ddata ddefnyddiol (a hawdd ei chwilio!)
  • Sgwrsfot 24/7 gwell i'ch tywys drwy adnoddau a thiwtorialau.
  • Nodwedd ar y bar gwe-lywio sy’n amlygu ein casgliadau archifau arbenigol – Archifau Richard Burton a Llyfrgell Glowyr De Cymru. Gallwch archwilio rhai o'r lleisiau cudd yn hanes y Brifysgol a'r gymuned ehangach.

Mae Canllawiau'r Llyfrgell newydd a gwell wedi'u cynllunio i wneud eich profiad fel myfyriwr gyda'n llyfrgelloedd yn haws. Gwnaed pob ymdrech i symleiddio'r canllawiau a gwella eu defnyddioldeb a'u cynllun. Ynghyd â'r gwelliannau hyn, bydd nifer y Canllawiau'r Llyfrgell sydd ar gael yn aros yr un peth i raddau helaeth, ac nid yw’r diweddaru wedi effeithio’n negyddol ar unrhyw adnoddau gwerthfawr.

P'un a ydych yn chwilio am lenyddiaeth benodol, yn dysgu dadansoddi ffynonellau, neu'n ceisio dod o hyd i rywbeth yng nghronfeydd data pwnc helaeth y llyfrgell, mae ein Canllawiau'r Llyfrgell newydd yma i'ch helpu.

Archwiliwch Ganllawiau'r Llyfrgell newydd a gwell yma. Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs ag un o'n llyfrgellwyr pwnc cyfeillgar.