Byddwch yn hysbys o'r newidiadau hyn i'n gwasanaethau. Rydym yn bod yn ymatebol i gyfarwyddyd o'r llywodraeth a phenderfyniadau a wneir gan Reolaeth y Brifysgol ond byddwn yn wneud pob ymdrech i ddweud y diweddaraf wrthych am newidiadau i'n gwasanaethau.
Gellir dod o hyd i atebion i lawer o ymholiadau cyffredin ar dudalennau we'r Llyfrgell, tudalennau we Gwasanaethau TG, ac ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.
Dydy ceisiadau ac adalwadau ddim ar gael ar hyn o bryd. Bydd adnewyddu awtomatig yn parhau felly does dim eisiau i chi poeni am ddychwelyd eitemau nac am gael unrhyw ddirwyon. Os oes angen eitem arnoch ar frys, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmer a byddwn yn ceisio cyflawni'ch cais gydag e-lyfr.
Nad ydym bellach yn arfenthyg neu yn derbyn dyfeisiau i'w bwcio i mewn, neu yn darparu cardiau adnabod y Brifysgol, ar Ddesgiau Gwybodaeth y Llyfrgell. Os oes gennych broblem gyda'ch dyfais, neu os oes angen cerdyn adnabod newydd arnoch, e-bostiwch Wasanaethau Cwsmer neu cofnodwch alwad ar y Ddesg Gymorth os gwelwch yn dda.
Oriau agor a'r cymorth sydd ar gael
Mae Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton ar agor i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Gwiriwch ein tudalennau we ar gyfer yr oriau agor diweddaraf.
Mae Desgiau Gwybodaeth y Llyfrgell ar gau ar hyn o bryd, ond mae cymorth ar gyfer Gwasanaethau Llyfrgell a TG ar gael ar-lein o 8yb-8yh pob dydd trwy Wasanaethau Cwsmer a thrwy'r Ddesg Gymorth.
Mae cymorth penodol i'ch pwnc ar gael ar-lein trwy'r Canllawiau Llyfrgell a hefyd trwy'r gwasanaeth sgwrsio, Holi Llyfrgellydd, Dydd Llun i Ddydd Gwener 9-5. Gallwch ddod o hyd i'r cyswllt ar y dudalen Canllawiau Llyfrgell.
Mae Llyfrgell Parc Dewi Sant ar gau tan 14eg Ebrill. Mae cymorth ac apwyntiadau ar gael ar-lein trwy'r Canllawiau Llyfrgell a thrwy'n wasanaeth sgwrsio.
Mae Llyfrgell y Glowyr De Cymru a Llyfrgell Banwen ar gau ond mae staff yn cynnal gwasanaethau cymorth. Dylai myfyrwyr AABO e-bostio karen.dewick@abertawe.ac.uk neu miners@abertawe.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau. Os oes gennych ymholiad sy'n ymwneud a'n casgliadau ymchwil, anfonwch e-bost os gwelwch yn dda.
Mae Archifau Richard Burton ar gau ond mae staff yn cynnal gwasanaethau cymorth. E-bostiwch gydag ymholiadau os gwelwch yn dda.
Mae'r Ganolfan Drawsgrifio ar gau ond mae staff yn cynnal gwasanaethau cymorth. E-bostiwch gydag ymholiadau.
Mae'r Ganolfan Eifftaidd ar gau hyd nes ceir rhybudd pellach, ac mae pob digwyddiad wedi'i chanslo neu wedi'i gohirio. E-bostiwch gydag ymholiadau os gwelwch yn dda.
Mae'r Taliesin a'r Neuadd Fawr ar gau. Mae digwyddiadau wedi'u canslo neu wedi'i gohirio. Am y wybodaeth ddiweddaraf, gweler https://www.taliesinartscentre.co.uk/cy/ neu e-bostiwch info@taliesinartscentre.co.uk.