A book display for International Women's Day

Diwrnod y Llyfr Hapus! Mae’n teimlo fel yr adeg berffaith i lansio ein her ddarllen nesaf, sydd â thema yn seiliedig ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth).

Mae’r cynllun yn syml – darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob category isod. (os ydych yn gallu dod o hyd i lyfr sy’n cyd-fynd â mwy nag un categori, mae hawl gwneud hynny!). Rydym wedi awgrymu rhai yr hoffech roi cynnig arnynt isod. Gallwch eu benthyg o Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe. Hefyd rydym wedi casglu rhai awgrymiadau ar-lein.  Gallwch ddod o hyd i’ch llyfrau eich hun hefyd – rhannwch eich syniadau gan ddefnyddio #paDarllenYnWell.

Cynhelir yr her tan 27 Ebrill. Os nad ydych chi’n llwyddo i ddarllen pob un o’r llyfrau erbyn hynny, peidiwch â phoeni – hwyl yn unig yw hwn, felly gallwch gymryd faint bynnag o amser sydd ei angen arnoch! Rhowch wybod i ni sut mae’n mynd ar @SwanseaUniLib ar Twitter, Instagram a Facebook.

Darllenwch am fenyw mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg)

Ada Byron Lovelace : the lady and the computer, gan Mary Dodson Wade

The Madame Curie Complex The Hidden History of Women in Science, gan Julie des Jardins

Grace Hopper and the invention of the information age, gan Kurt W. Beyer

 

Darllenwch am gyn-enillydd Gwobr Ffuglen y Menywod #ReadingWomen

Mae’r Wobr am Ffuglen gan Fenywod yn dathlu 25 mlynedd ers cael ei sefydlu eleni!  Maen nhw wedi lansio clwb llyfrau digidol i annog pobl i ddarllen yr holl enillwyr blaenorol. Dilynwch yr hashnod #ReadingWomen.

Small Island, gan Andrea Levy (#ReadingWomen)

Half of a yellow sun, gan Chimamanda Ngozi Adichie

An American marriage, gan Tayari Jones

 

Darllenwch lyfr am ffeministiaeth

We Should all be Feminists, gan Chimamanda Ngozi Adichie

The second sex, gan Simone de Beauvoir

Sexual politics, gan Kate Millett

 

Darllenwch lyfr a ysgrifennwyd gan fenyw ac sydd wedi’i droi’n ffilm neu’n gyfres deledu

The Handmaid’s Tale, gan Margaret Atwood

Y Llyfrgell, gan Fflur Dafydd

Tipping the velvet, gan Sarah Waters