PWYSIG

Mewn ymdrech i geisio oedi ymlediad COVID-19/y Coronafirws, bydd y rhan fwyaf o lyfrgellwyr pwnc yn gweithio gartref am y tro.  Fodd bynnag, rydym yma o hyd i roi cymorth i chi.

Dyma’r sianeli y gallwch eu defnyddio i gysylltu â ni:

  • E-bost – ceir cyfeiriad e-bost tîm eich pwnc yng Nghanllaw Llyfrgell eich pwnc – gweler libguides.swansea.ac.uk

  • Sgwrs – gallwch gael sgwrs ar-lein â llyfrgellydd drwy glicio ar y ddolen las Gofynnwch i Lyfrgellydd yng nghanllaw llyfrgell eich pwnc.  Mae’r gwasanaeth sgwrs wedi’i staffio o 9am i 5pm

  •  Cysylltiad Fideo – Gellir cynnal apwyntiadau drwy gysylltiad fideo gan ddefnyddio Zoom.  I ofyn am hyn, cliciwch ar ‘Gwneud apwyntiad ar-lein (Zoom)’ yng nghanllaw’r llyfrgell ar gyfer eich pwnc. Yn gyntaf, bydd yn rhaid i chi lawrlwytho Zoom i’ch cyfrifiadur personol neu’ch dyfais. Cliciwch ar y dolenni i gael cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn. 

            Sut i osod a defnyddio Zoom

Ceir rhagor o help ar ddefnyddio Zoom yn:
 

Clip fideo o ganllawiau i ymuno â chyfarfod Zoom

Canllaw i ymuno â chyfarfod Zoom ar Mac neu PC

Cymorth staff ar gyfer Zoom

Mae gwybodaeth am ddefnyddio Zoom i staff ar gael yn:

 https://staff.swansea.ac.uk/it-services/zoom/

Os ydych chi’n aelod o staff ac rydych chi’n cael anhawster wrth ddefnyddio Zoom, gallwch gysylltu â thîm Rhwydwaith Fideo Cymru: 

E-bost:  WVN-Support@abertawe.ac.uk

Ffôn: 0300 688 0688

Ffôn mewnol ar y campws: Estyniad 5700