Hoffech chi wybod am adnoddau a gwasanaethau llyfrgell Prifysgol Abertawe? Hoffech chi wneud y gorau o'r cymorth sydd ar gael i chi? Mae 5 Diwrnod Llyfrgell yma i’ch cynorthwyo! Dyma raglen fer ar-lein i’ch cynorthwyo i wneud y mwyaf o’r llyfrgell. Rhwng dydd Llun 29 Medi a dydd Gwener 3 Hydref, byddwn yn trafod: 

  • Dod o hyd i lyfrau

  • Lle i astudio

  • Astudio'n Graffach: Tiwtorialau a Dosbarthiadau Byw Ar-lein gan y llyfrgell

  • Ac ymlacia! Lles yn y Llyfrgell

  • Yma i helpu - cymorth llyfrgell i'ch helpu chi i lwyddo

Cofrestrwch ar gyfer ein blog er mwyn derbyn neges newydd bob dydd o’r wythnos. Byddwn ni hefyd yn postio dolenni bob dydd yn ein straeon Instagram @SwanseaUniLib

 

Students smiling gathered round a laptop